Dinorwig (pentref)
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1328°N 4.1047°W |
Cod OS | SH592616 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Pentref bach yng nghymuned Llanddeiniolen, Gwynedd, Cymru, yw Dinorwig,[1][2] weithiau Dinorwic. Saif yn uchel uwchben Llyn Padarn, ger Llanberis. Honnir rhai ei bod yn rhan o diriogaeth Llwyth yr Ordovices, a bod "Dinorwig" yn golygu "Caer yr Ordoficiaid".
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[4]
Cyfleusterau
[golygu | golygu cod]Mae Dinorwig yn enwog am ei lwybrau dringo gan ei fod yn un o'r prif bwyntiau mynediad ar gyfer Chwarel Dinorwig. Lleolir Dinorwig ar ddiwedd taith bws 83 i Gaernarfon, a weithredir ar hyn o bryd gan Gwynfor Coaches ar gyfer Cyngor Gwynedd, gyda gwasanaethau yn Neiniolen sy'n cysylltu â Bangor.
Lleolir Lodge Dinorwig, sef un o'r caffis mwyaf poblogaidd yn yr ardal, yn yr adeilad a oedd unwaith yn neuadd y pentref (Y Ganolfan).
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae hanes hir i'r pentref o ran chwareli llechi. Defnyddiodd y Rhufeiniaid lechi lleol ar gyfer adeiladu Segontium, a defnyddiwyd llechi o'r dyffryn wrth adeiladu Castell Caernarfon. Y brif chwarel leol oedd Chwarel Dinorwic, oedd yn weithredol o ddiwedd yr 1770au hyd at 1969. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, daeth deunyddiau creu toeon
Heddiw, mae'r pentref yn rhannu ei enw gyda orsaf bŵer pwmpio a storio trydan dŵr, gorsaf bŵer Dinorwig. Mae Canolfan Fynydd Blue Peris hefyd wedi'i leoli yn y pentref, canolfan weithgareddau awyr agored breswyl a weithredir gan Gyngor Bwrdeistref Bedford a Chyngor Canolog Swydd Bedford.
Ffilmiwyd rhan o'r ffilm Willow yn Chwarel Dinorwig, ym mis Mehefin 1987. Poblogaeth y pentref yw oddeutu 200 o bobl.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 20 Ionawr 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Lluniau o Dinorwic a'r ardal gyfagos, daearyddol.co.uk
- Canolfan Fynydd Blue Peris, Dinorwig[dolen farw]