Digido
Math o gyfrwng | proses peirianyddol, Technoleg gwybodaeth |
---|
Mae digido[1] yn disgrifio trosi ffeiliau (delwedd, testun, sain ayyb) neu ddogfennau unigol, o fformat analog i fformat ddigidol i greu dogfen chwiladwy drwy ei sganio ac adnabod testun.[2] P'un a yw'r broses yn golygu troi hen record finyl yn MP3 neu'n sganio dogfen i'w hanfon fel pdf, digido yw'r broses. Mae'n hanfodol bellach ym maes archifo a rhoi'r deunydd ar y rhyngrwyd.
Digido Cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Mae sawl sefydliad Gymreig wedi ymgymryd â phrosiectau digido mawrion gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu iddynt ddigido 15 miliwn erthygl o bapurau newyddion Cymru o 1804 hyd at 1919 ar eu gwefan, ac mae'r broses yn parhau. Gellir gweld ffrwyth y gwaith yma ar Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Ceir hefyd yno is-wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein a hefyd mapiau degwm, ffotograffau a darluniau a sawl archif arall.
Corff arall bu'n digido casgliadau Cymreig yw Casgliad y Werin Cymru a sefydlwyd yn 2010 ac sy'n bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Gall aelodau'r cyhoedd gyfrannu eu casgliadau personol i'r casgliad ar-lein.[3]
Safonni'r term
[golygu | golygu cod]Arddelir y term digideiddio gan rai, ond, bellach, digido yw'r term safonnol. Ceir y cofnod cydnabyddedig gynharaf o'r gair 'digido' yn 1986 yng nghyhoeddiad Termau Cyfrifidureg.[4]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "digido". Termau Cymru. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "digido". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "Amdanom ni". Casgliad y Werin. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
- ↑ "digido". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Llyfrgell Genedlaethol Cymru - gwefan ag iddi filiynau o ddogfennau print, darlun, map, ffotograff ayyb wedi eu digido
- Casgliad y Werin - casgliad o archifau wedi eu digido gan y cyhoedd
- Blog Digido y Llyfrgell Genedlaethol erthyglau byrion ar waith digido'r sefydliad