Derek Boote
Derek Boote | |
---|---|
Ganwyd | 13 Rhagfyr 1942 Gaerwen |
Bu farw | 29 Tachwedd 1974 Cas-gwent |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor teledu, canwr |
Canwr ac actor o Gymru oedd Derek Jon Boote (13 Rhagfyr 1942[1] – 29 Tachwedd 1974).[2][3][4]
Daeth Boote o bentref y Star, ger Gaerwen ar Ynys Môn. Addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Llangefni ac yng Choleg Cerdd a Drama, Caerdydd.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Boote y gitâr a'r bas dwbl a chanu gyda'r darlledwr Hywel Gwynfryn; yn ddiweddarach fe wnaethant ffurfio grŵp gyda Endaf Emlyn o'r enw Yr Eiddoch yn Gywir. Cystadlodd Boote yn nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1971. Bu iddo ymddangos ar gyfres canu poblogaidd Hob y Deri Dando yn 1964.[5]
Perfformiodd Boote ochr yn ochr â'r ddeuawd boblogaidd Ryan a Ronnie (Ryan Davies a Ronnie Williams), gan chwarae'r cymeriad Nigel Wyn gwreiddiol ar eu sioe sgets. Ar ôl iddo farw, daeth Bryn Williams yn ei le. Ymddangosodd hefyd yn y rhaglen deledu Gymraeg Dau a Hanner.[6]
Bu hefyd iddo ymddangos ar gyfresi cerddoriaeth boblogaidd, The Singing Barn (1969) a The Singing Barge (1974).[7]
Yn 1969 ymddangosodd gyda Hywel Gwynfryn, Olwen Rees a Heulwen Haf yn Gwendid ar y Lleuad, rhaglen deledu gomedi a ddisgrifwyd fel "sioe gomedi Bythonaidd gyda hiwmor coch ac ambell gip o gyrff pinc". Mae erthygl ar wefan BBC Cymru yn dweud fod deiseb wedi ei drefnu yn erbyn yn y rhaglen, yn cwyno ei fod yn "anweddus" a bod y rhaglen wedi ei atal ar ôl tair pennod.[8] Mae archif BBC Genome, sy'n tarddu o gofnodion y Radio Times yn dangos fod chwe pennod wedi ei amserlennu rhwng 16 Ionawr a 20 Chwefror 1969.[9]
Rhyddhaodd Boote record EP Byw'n Rhydd ar label Recordiau'r Dryw.[10]
Athro
[golygu | golygu cod]Weithiau roedd Boote yn dysgu yn Ysgol Gyfun Llanhari, ac yn chwe troedfedd pedair modfedd (1.93m) o daldra roedd yn chwaraewr rygbi amatur brwd.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw Boote ym 1974 mewn ysbyty yng Nghas-gwent, yn dilyn damwain annisgwyl ac anffodus. Ym mis Hydref 1974, roedd yn ffilmio rhaglen i blant, Maldwyn Aldwyn yn stiwdio'r BBC yn Llandaf.[11][12]. Yn ystod egwyl roedd yn ysmygu yn ei stafell newid pan aeth ei wisg ar dân ar ôl iddo ollwng lludw sigarét arni,[13] a chafodd ei losgi’n ddifrifol. Bu farw rhai wythnosau yn ddiweddarach ym mis Tachwedd.[13][14]
Disgograffi
[golygu | golygu cod]- Byw yn Rhydd, Recordiau'r Dryw, 1968.[15] Cynnwys y caneuon, Byw'n Rhydd, Yr Hyn Ydwyf Fi, San Miguel, Rwyn Mynd Fy Merch, Dagrau, Titrwm Tatrwm. Mae'r clawr yn cynnwys logo adnabyddus Recordiau'r Dryw a Derek.[16]
Cyferiadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Swyddfa Gofrestru Gyffredinol; Cymru a Lloegr, Mynegai Cofrestru Sifil Marwolaethau, 1916-2007; Hydref-Rhagfyr 1974 Ardal Gofrestru: Casnewydd. Cyfrol: 28 Tudalen: 0258. Derek Jon Boote.
- ↑ Calendr Grantiau Profiant a Llythyrau Gweinyddu yng Nghofrestrfeydd Profiant yr Uchel Lys Cyfiawnder 1975.
- ↑ "Index entry". FreeBMD. ONS. Cyrchwyd 20 Chwefror 2021.
- ↑ British Broadcasting Corporation (1976). BBC Handbook. British Broadcasting Corporation. t. 113.
- ↑ "Hob Y Deri Dando". PROGRAMME INDEX y BBC o'r Radio Times gwreiddiol. 25 Rhagfyr 1964.
- ↑ Great Britain. Parliament. House of Commons (1971). Sessional Papers. H.M. Stationery Office. t. 197.
- ↑ https://www.imdb.com/name/nm9842672/
- ↑ Cofio - Dyma 1969. BBC Cymru. Adalwyd ar 20 Chwefror 2021.
- ↑ Gwendid Ar Y Lleuad. BBC Genome.
- ↑ "Byw'n Rhydd". Discogs. Cyrchwyd 15 July 2020.
- ↑ BBC Handbook 1976. BBC (1975). Adalwyd ar 20 Chwefror 2021.
- ↑ https://twitter.com/Adesbwthyn/status/1363077639389462530
- ↑ 13.0 13.1 Gareth Price (12 January 2018). Broadcasters of BBC Wales. Y Lolfa. t. 202. ISBN 978-1-78461-535-2.
- ↑ John Davies (1994). Broadcasting and the BBC in Wales. University of Wales Press. t. 360. ISBN 978-0-7083-1273-5.
- ↑ https://www.discogs.com/Derek-Boote-Bywn-Rhydd/release/10663963
- ↑ https://twitter.com/ffaroutblog/status/1362850668789325833
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Titrwm Tatrwm o fideo archif.