Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Carchar Biwmares
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Hen garchar yw Carchar Biwmares yn Biwmares ar Ynys Môn. Er nad yw'n cael ei ddefnyddio bellach nid yw'r adeilad wedi newid llawer a mae nawr yn amgueddfa sydd ar agor i ymwelwyr, gyda tua 30,000 yn ymweld bob blwyddyn.
Cynlluniwyd Carchar Biwmares gan Joseph Hansom ac Edward Welch, a cafodd ei adeiladu yn 1829.[1][2][3] Ehangwyd yr adeilad yn 1867 i ddal tua 30 carcharor, prin 11 mlynedd cyn iddo gael ei gau’n ddiweddarach yn 1878. Defnyddiwyd yr adeilad ar gyfer nifer o ddibenion yn ystod y ganrif ddilynol, yn amrywio o fod yn orsaf heddlu hyd nes y 1950au pan ddaeth yn glinig i blant ac yna troi’n amgueddfa yn 1974. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd seiren cyrch awyr y dre wedi ei osod yn y carchar ac roedd yn ei le yn ystod y Rhyfel Oer i rybuddio yn erbyn ymosodiadau niwclear. Nid oedd capel y carchar yn rhan o'r adeiladau gwreiddiol, ac fe ddaeth y seddi a'r pulpud o gapel arall ar yr ynys, oedd yn cael ei adnewyddu.[4]
Hanes
[golygu | golygu cod]Pan laddwyd Llywelyn ap Gruffudd ger Cilmeri yn 1282 a dienyddiwyd ei frawd Dafydd ap Gruffydd yn 1283 yn yr Amwythig daeth diwedd ar gyfnod y Tywysogion Cymreig a chychwyn ar gyfnod newydd yn hanes Cymru. Bellach
roedd Tywysogaeth Llywelyn o dan awdurdod coron Lloegr a’r Brenin Edward. Yn 1284 pasiwyd Statud Rhuddlan gan Frenin Lloegr a fyddai’n sefydlu trefniant gweinyddol newydd yng Nghymru. Y drefn newydd hon fyddai hefyd yn gweinyddu’r gyfraith yng Nghymru. Un o’r prif swyddogion oedd yn gweithredu’r gyfraith yn Ynys Môn oedd y Siryf a leolwyd yng Nghastell Biwmares. Ef hefyd oedd Ceidwad y carchar yno.[5]
Ystyriwyd Biwmares fel canolfan weinyddol Ynys Môn yng Ngwynedd gan ei bod yn borthladd, yn ganolfan fasnachol bwysig yn yr ardal a gan mai hi oedd tref fwyaf yr ynys.[5] Golygai’r trefniant newydd yma mai ym Miwmares hefyd byddai y Sesiynau Chwarter a’r Sesiynau Mawr yn cael eu cynnal. Cynhaliwyd rhain yng Nghastell Biwmares ble roedd y Siryf yn byw a lle roedd dwnsiwn. Adeiladwyd Llys newydd yn y dref yn 1614 ac adeiladwyd carchar newydd yr un adeg hefyd.[5] Yn 1829 cychwynnwyd ar gyfnod newydd arall yn hanes y carchar gyda agoriad carchar newydd, a welir heddiw. Y penseiri oedd Hansom and Welch oedd yn dod o Swydd Efrog a hwy hefyd oedd yn gyfrifol am gynllunio adeilad pwysig arall ym Miwmares, sef Gwesty’r Bulkeley Arms. Roeddent hefyd wedi cynllunio Neuadd Tref Birmingham a Choleg y Brenin William ar Ynys Manaw.[6] [7]
Bywyd yn y Carchar
[golygu | golygu cod]Gyda phasio Deddf Carchardai 1823, a basiwyd yn sgîl dylanwad y diwygiwr carchardai John Howard, gwellodd yr amodau yng ngharchar newydd Biwmares. Ymhlith y rheolau a’r trefniadau newydd, pwysleisiwyd darparu gofal meddygol gan feddyg y carchar, rhoddwyd sylw i iechyd meddwl y carcharor, darpariaeth ymarfer corff a sicrhau safonau glanweithdra y carcharorion yn ogystal â sicrhau bod gwell disgyblaeth ymysg swyddogion y carchar.[8] Er hynny, roedd bywyd yn anodd, yn ddiflas ac yn llwm yn y carchar. Pwrpas y carchariad oedd nid yn unig ceisio diwygio’r troseddwyr ond rhoi cyfle iddynt hefyd dreulio amser yn myfyrio ynghylch ffolineb eu troseddau.
Defnyddiwyd Carchar Biwmares ar gyfer carcharu mân droseddwyr gan fwyaf ond roedd hefyd yn ddalfa ar gyfer rhai oedd yn aros am eu hachosion llys. Roedd dyledwyr yn cael eu cadw yno hyd nes iddynt gwblhau talu eu dyledion ond roedd enghreifftiau ble fyddai troseddwyr oedd wedi cyflawni troseddau difrifol yn cael eu cadw yno hefyd.[9]
Unwaith byddai carcharor a oedd wedi ei ddedfrydu, yn cyrraedd Carchar Biwmares byddai’n cael bath ac iwnifform y carchar cyn cael archwiliad meddygol gan feddyg y carchar. Byddai wedyn yn cael ei arwain i’r cell.[10]
Roedd y bwyd yn y carchar yn llwm ac yn cynnwys dewis sylfaenol fel bara, griwel a sŵp ac os oedd y carcharor yn gwneud llafur caled byddai’n bara, tatws a chig am gyfnod byr. Roedd nifer y carcharorion yn y carchar yn amrywio ac yn cynnwys dynion, menywod a phlant. Roedd y llafur caled a roddwyd i ddynion a menywod yn golygu cosbau gwahanol. Ymhlith gwaith y menywod rhoddwyd tasgau fel gwnïo neu gweithio yn y golchdy tra roedd y dynion yn cael tasgau fel torri cerrig a phigo ocwm, sef datod rhaff.[11]
Byddai’r dynion hefyd yn cael eu rhoi i gerdded ar y ‘felin droed’ fel cosb, peiriant a osodwyd yn y carchar yn 1867. Roedd hwn yn gosb diflas, blinedig a pheryglus gyda’r carcharor yn cerdded hyd at filltir a hanner y dydd pan fyddai’n cael y gosb hon.Hon oedd un o'r melinau traed olaf ym Mhrydain oedd yn dal i weithio ac mae’n anarferol oherwydd roedd troedio’r carcharorion yn pwmpio dŵr i ben yr adeilad ar gyfer ei ddefnyddio yn y celloedd. [12]
Yn ystod eu cyfnod yn y carchar byddai’r carcharorion yn cael dyletswyddau oedd yn helpu cynnal a chynnal adeilad y carchar fel glanhau eu celloedd, a gwyngalchu’r muriau a’r nenfydau. Roedd tasgau fel hyn yn cael eu gweld fel rhan o’r broses o ddiwygio’r troseddwr.[13]
Trwy weddill y 19eg ganrif gwellodd amodau yn y carchar gyda phasio Deddf Carchardai 1865 yn sicrhau nifer o welliannau mewn carchardai ar draws Prydain, er enghraifft, rhoddwyd gwres yn y celloedd fel bod y carcharorion bellach yn medru cyflawni eu gwaith a’u dyletswyddau yn eu celloedd. Cyflwynwyd gwelliannau yn safon y cyfleusterau yng nghelloedd y carcharorion gyda gosod gwely neu hamog yn y cell, bwrdd a chadair, basin ymolchi a thoiled oedd yn tynnu dŵr. Roedd nwy wedi cael ei osod yn y carchar yn 1857. Yn ôl gofynion Deddf 1865 roedd rhaid hefyd darparu gwersi mathemateg, darllen ac ysgrifennu ac roedd gwasanaethau yn cael eu cynnal yng nghapel y carchar bob dydd Sul.[14]
Cau’r Carchar
[golygu | golygu cod]Pan basiwyd Deddf Carchardai 1877 roedd Carchar Biwmares ymhlith y 30 o garchardai bach a gaewyd ac o hynny ymlaen anfonwyd carcharorion i Gaernarfon. Trowyd y carchar yn orsaf heddlu wedyn a rhwng y ddau ryfel byd cadwyd carcharorion rhyfel yno.[15] Erbyn heddiw mae’n cael ei rheoli gan Gyngor Ynys Môn fel amgueddfa i ddangos hanes trosedd a chosb yr ynys.
Dienyddiadau
[golygu | golygu cod]Dim ond dau achos o grogi a fu yn y carchar newydd a adeiladwyd yn Steeple Lane, Biwmares yn 1829. Yr achos cyntaf oedd William Griffith, yn 1830, am ymgais i lofruddio ei wraig. Ymatebodd yn wael i'r ddedfryd ei fod i gael ei grogi ac ar ddiwrnod y dienyddiad, ceisiodd atal y swyddogion rhag agor drws ei gell. Yn y diwedd fe orfodwyd y drws ar agor ac roedd yn rhaid ei hanner lusgo a’i hanner gario i'r crocbren.[16]
Yr ail achos, a'r olaf, oedd Richard Rowlands yn 1862, ar ôl iddo ei gael yn euog o lofruddio ei dad-yngnghyfraith. Protestiodd ei fod yn ddieuog hyd at y foment olaf a'r chwedl yw ei fod wedi melltithio cloc yr eglwys o'r crocbren, gan ddweud y byddai pedwar wyneb y cloc byth yn dangos yr un amser eto, os oedd yn ddieuog. Roedd hyn yn wir am gyfnod, er mai'r esboniad rhesymegol am hyn oedd bod gwynt yn taro'r wyneb deheuol.[16]
Claddwyd y ddau ddyn tu fewn muriau'r carchar mewn pydew calch, er nad yw'r union leoliad yn hysbys. Mae'r rhybedi metel oedd yn dal y grocbren yn ei le, ynghyd â'r ddau ddrws yr oedd y dyn dan gondemniad yn cerdded trwyddo, yn medru cael eu gweld o'r stryd tu allan i furiau'r carchar. Cyn 1829 cynhaliwyd dienyddiadau yng Nghastell Biwmares neu mewn rhan o’r dref a enwyd yn ‘Gallow’s Point’.[17] Roedd y gyfraith yn llym iawn ei chosb yn ystod y cyfnod yma gyda dros 200 o droseddau, erbyn diwedd y 18fed ganrif, yn cael eu cosbi drwy ddienyddiad. Roedd galw cynyddol i ddiwygio system a oedd yn dedfrydu dienyddiad fel cosb ar gyfer rhychwant o droseddau oedd yn amrywio o ddwyn a mân ladrata i fwrgleriaeth arfog a threisgar i lofruddiaeth.[18]
Diangfeydd
[golygu | golygu cod]Dim ond un achos o garcharor yn dianc a gafwyd trwy gydol hanes y carchar. Fe ddihangodd y carcharor, John Morris, ar 7 Ionawr 1859, gan ddefnyddio rhaff yr oedd wedi dwyn wrth weithio gydag e. Er ei fod wedi torri ei goes wrth ddianc fe lwyddodd i ddianc o'r dref, cyn cael ei ddal eto.
William Davies
[golygu | golygu cod]Cafodd nifer o wahanol fathau o droseddau eu cosbi yng Ngharchar Biwmares ar draws y canrifoedd, oedd yn amrywio o wrachyddiaeth, lladrata, hereticiaeth a theyrnfradwriaeth. Un a gafodd ei ddienyddio ym Miwmares yn 1593 oherwydd ei ddaliadau crefyddol ac a chwiliwyd yn euog o deyrnfradwriaeth oherwydd hynny oedd yr offeiriad Catholig, William Davies. Roedd William Davies ymhlith y merthyron Catholig a ddienyddiwyd yng Nghymru adeg teyrnasiad Elisabeth I. Y ddau arall oedd Richard Gwyn, a ddienyddiwyd yn Wrecsam yn 1584[19] a John Jones.[20] Arestiwyd William Davies yng Nghaergybi yn 1590 yn ceisio hebrwng recirwtiaid draw i’r coleg hyfforddi offeiriaid Catholig yn Sbaen drwy deithio i Iwerddon.[21]
Dihangfeydd
[golygu | golygu cod]Dim ond un achos o garcharor yn dianc a gafwyd trwy gydol hanes y carchar pan ddihangodd y carcharor, John Morris, ar 7 Ionawr 1859, gan ddefnyddio rhaff yr oedd wedi ei ddwyn wrth weithio gydag e. Er ei fod wedi torri ei goes wrth ddianc fe lwyddodd i ddianc o'r dref, cyn cael ei ddal eto.[22]
Ysbrydion honedig
[golygu | golygu cod]Fe ymwelodd y gyfres deledu Most Haunted y carchar ar gyfer sioe a ddarlledwyd ar 17 Ionawr 2007 i ymchwilio i chwedlau am fwganod honedig yn yr adeilad.[23]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. t. 135. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
- ↑ Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 713. ISBN 978-0-7083-1953-6.
- ↑ Harris, Penelope, "The Architectural Achievement of Joseph Aloysius Hansom (1803-1882), Designer of the Hansom Cab, Birmingham Town Hall and Churches of the Catholic Revival", The Edwin Mellen Press, 2010, ISBN 0-7734-3851-3, p.13.
- ↑ "Anglesey's Beaumaris Gaol". www.capitalpunishmentuk.org. Cyrchwyd 2020-09-25.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. tt. 8–10. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ "Hansom and Welch - Partnership | Architects of Greater Manchester". manchestervictorianarchitects.org.uk. Cyrchwyd 2020-09-25.
- ↑ Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. t. 11. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. tt. 26–28. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. t. 31. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. t. 33. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. tt. 36–37. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ "Anglesey's Beaumaris Gaol". www.capitalpunishmentuk.org. Cyrchwyd 2020-09-25.
- ↑ Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. t. 38. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. tt. 39–40. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. t. 40. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ 16.0 16.1 Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. tt. 72–75. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ "Anglesey's Beaumaris Gaol". www.capitalpunishmentuk.org. Cyrchwyd 2020-09-25.
- ↑ Evans, R. Paul,. Newidiadau ym maes trosedd a chosb tua 1500 hyd heddiw. Pritchard, Richard,, Ifan, Delyth,. Aberystwyth. t. 22. ISBN 978-1-84521-680-1. OCLC 1030264578.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ Davies, John. (2007). Hanes cymru. Penguin Books Ltd. t. 238. ISBN 0-14-028476-1. OCLC 153576256.
- ↑ "Catholic recusancy in Wales - The Catholic threat - WJEC - GCSE History Revision - WJEC". BBC Bitesize (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-09-25.
- ↑ "Y Drych Cristianogawl | Llyfrgell Genedlaethol Cymru". www.llyfrgell.cymru. Cyrchwyd 2020-09-25.
- ↑ Hughes, Margaret. (2006). Crime and punishment at Beaumaris. Llanrwst, Wales: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 1-84527-091-6. OCLC 69657974.
- ↑ "Most Haunted" Beaumaris Gaol (TV Episode 2007) - IMDb, http://www.imdb.com/title/tt4666258/, adalwyd 2020-09-25
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Carchar Biwmares - Gwybodaeth i ymwelwyr o wefan Croeso Môn