Cytiau Gwyddelod
Gwedd
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Cytiau Gwyddelod yw'r enw Cymraeg traddodiadol am y cytiau crwn cynhanesyddol sydd i'w gweld yma ac acw ar fryniau Cymru.
Mae'r enw yn gamarweiniol am nad oes unrhyw gysylltiad hanesyddol rhyngddynt â'r Gwyddelod yn benodol. Ar adegau yn y gorffennol ymsefydlai llwythi Gwyddelig yng ngorllewin Cymru o bryd i'w gilydd, a diau fod y cof am hynny'n esbonio'r enw poblogaidd ar yr olion archaeolegol hyn.
Mae'r cytiau fel rheol yn perthyn i Oes yr Efydd, Oes yr Haearn neu'r cyfnod Rhufeinig. Mae cannoedd o enghreifftiau i'w gweld yn y caeau a'r bryniau, yn arbennig yng ngorllewin Cymru, o Ynys Môn i Sir Benfro.
Un o'r enghreifftiau mwyaf adnabyddus yw'r cytiau ar Fynydd Twr ger Caergybi, a elwir hefyd yn Gytiau Tŷ Mawr.
Terminoleg
[golygu | golygu cod]- Cwt crwn (lluosog: cytiau crynion); (Saesneg: circular hut)
- Cylch cytiau (neu Cytiau'r Gwyddelod); (lluosog: cylchoedd cytiau); (Saesneg: hut circle)
- Clwstwr cytiau (lluosog:clystyrau cytiau); (Saesneg: hut group)
- Anheddiad cytiau (lluosog: aneddiadau cytiau); (Saesneg: hut settlement)[1]
- Cylch cytiau caeedig ac aneddog (Saesneg: Enclosed Hut Circle Settlement)
- Cylch cytiau caeedig (lluosog: cylchoedd cytiau caeedig); (Saesneg: enclosed hut circle)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [Geiriadur yr Academi, Golgyddion: Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones; Gwasg prifysgol Cymru]