Cyflwr meddygol
Defnyddir y term cyflwr meddygol i gyfeirio at unrhyw salwch, anaf neu afiechyd sy'n effeithio ar iechyd unigolyn neu sydd angen rhyw fath o sylw meddygol. Teimla rhai awduron fod yn well ganddynt y term mwy niwtral hwn o'i gymharu â "salwch" neu "afiechyd", sydd â chysylltiadau mwy negyddol. Er fod y term 'cyflwr meddygol' yn cynnwys salwch meddyliol fel arfer, mewn rhai achosion defnyddir y term i ddisgrifio unrhyw salwch, anaf neu afiechyd heblaw am afiechydon meddyliol. Defnyddia'r "Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM)", y llawlyfr seiciatrig a ddefnyddir i ddiffinio pob salwch meddwl, y term "cyflwr meddygol" i gyfeirio at bob afiechyd, salwch ac anaf heblaw am salwch meddyliol. Gwelir y defnydd hwn hefyd mewn llenyddiaeth seiciatrig. Hefyd, yn aml diffinia polisïau yswiriant meddygol gyflwr meddygol fel unrhyw salwch, anaf neu afiechyd ac eithrio salwch seiciatrig.
Gellir defnyddio'r term cyflwr meddygol hefyd i gyfeirio at gyflwr meddygol cyffredinol unigolyn, yn enwedig pan fônt yn yr ysbyty, e.e. "cyflwr sefydlog" neu "gyflwr difrifol".