Coleg Girton, Caergrawnt
Math | coleg ym Mhrifysgol Caergrawnt, adeilad prifysgol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Girton, Swydd Gaergrawnt |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal De Swydd Gaergrawnt, Dinas Caergrawnt |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.2286°N 0.0839°E |
Cod OS | TL4245060932 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Sefydlwydwyd gan | Emily Davies, Barbara Bodichon, Henrietta Stanley |
Manylion | |
Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg Girton (Saesneg: Girton College). Fe'i sefydlwyd ar 16 Hydref 1869[1] gan Emily Davies a Barbara Bodichon, y coleg preswyl cyntaf i fenywod yn Lloegr. Fe'i lleolwyd yn Swydd Hertford ar y cychwyn, ond yn 1872 prynwyd y safle presennol, oddeutu dwy filltir a hanner o ganol Caergrawnt ar Ffordd Huntingdon ger pentref Girton. Yn 1873, ail-agorodd y coleg ar y safle newydd dan ei enw presennol. Fe wnaed sawl ychwanegiad i adeiladau'r coleg dros y flynyddoedd, gan gynnwys estyniad diweddar i'r llyfrgell.
Ar 27 Ebrill 1948 estynnwyd aelodaeth lawn Prifysgol Caergrawnt i ferched, a daeth Girton yn un o golegau'r brifysgol. Mae Girton yn goleg cymysg erbyn hyn; cyrhaeddodd y cymrodyr gwrywaidd cyntaf ym 1977, ac estynnwyd mynediad i is-raddedigion gwrywaidd ym 1979.
Meistres y coleg yw'r Athro-Foneddiges Marilyn Strathern.
Cynfyfyrwyr
[golygu | golygu cod]- Hertha Marks Ayrton, peiriannydd trydanol
- Margaret Cole, (1893 – 1980), gwleidydd a bardd
- Isabel Cooper-Oakley, ysgrifenwraig theosoffaidd
- Brenda Hale, Barwnes Richmond
- Jessie Isabel Hetherington, addysgwraig Seland Newydd
- Arianna Huffington, awdures a gweithredwraig wleidyddol
- Wendy Holden, nofelydd
- Rosamond Lehmann, nofelydd
- Sheila Scott Macintyre, mathemategydd
- Ada Isabel Maddison, mathemategydd
- Margrethe II, brenhines Denmarc
- Dorothy Marshall, hanesydd ac addysgwraig
- Annie Maunder, seryddwraig
- Constance Maynard, ffeminydd ac addysgwraig
- Sarojini Naidu, bardd Indiaidd
- Sheila Pim, awdur
- Emily James Smith Putnam, addysgwraig a hanesydd Americanaidd
- Gisela Richter, archaeolegwraig glasurol a hanesydd celf
- Joan Robinson, economegydd brydeinig
- Clara Ruth Rouse, cenhadwraig grefyddol
- Ethel Sargant, botanegydd
- Charlotte Angas Scott, mathemategydd
- Irene Spry, hanesydd economaidd
- Margaret Storey, awdur llyfrau plant
- Bertha Swirles (yr Arglwyddes Jeffreys), ffisegydd
- Sandi Toksvig, digrifwraig
- Tywysoges Takamado o Japan
- Renee Winegarten, dadansoddwraig lenyddol
- Barbara Adam Wootton, gwyddonydd gymdeithasol ac economegydd
- Dorothy Wrinch, biolegydd mathemategol
- Grace Chisholm Young, mathemategydd
- Derek Walcott, bardd, awdur, artist
- Gwyneth Lewis, bardd ac awdur Cymreig
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Jones, Emily Elizabeth Constance (1913). Girton College (yn Saesneg). Llundain: Adam & Charles Black. tt. 16–17.