Neidio i'r cynnwys

Cardamom

Oddi ar Wicipedia
Cardamom
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Ddim wedi'i restru: Comelinidau
Urdd: Zingiberales
Teulu: Zingiberaceae (rhan)
Genera

Amomum
Elettaria

Elettaria cardamomum

Defnyddir y gair Cardamom am ddau fath o berlysiau sy'n perthyn i'r grŵp sinsir (Zingiberaceae): sef Elettaria ac Amomum. Coden hadau bychan ydyw'r ddau, trionglog mewn croes-dorriad. Mae'r plisgyn allanol yn denau fel papur sidan ac mae'n cynnwys hadau duon bach. Mae codenni'r Elettaria yn wyrdd golau a chodenni Amomum ychydig yn fwy ac yn frown tywyll.

Mae'r ddau fath a grybwyllwyd yn nheulu'r sinsir ac wedi eu dosbarthu fel a ganlyn:

  • Elettaria: ei enw cyffredin ydy cardamom neu cardamom gwyrdd ac mae'n tyfu o India i Maleisia.
  • Amomum: ei enw cyffredin ydy cardamom du, cardamom brown, kravan, Java cardamom, Bengal cardamom, cardamom Siam (o Wlad Tai) neu gardamom gwyn neu goch ac fe'i tyfir yn Asia ac Awstralia.

Yr hen enw Sanskrit am y perlysieuyn hwn ydy "elā" neu "truṭī." Yn Urdu, Hindi a Gujarati a rhai ieithoedd de India mae'n cael ei alw'n "elaichi" neu "elchi."

Rhinweddau meddygol

[golygu | golygu cod]

Cardamom gwyrdd: honnir ei fod yn dda i wella heintiau yn y geg, i drin dolur gwddw, anhwylder ar y sgyfaint, torri cerrig a diffyg traul. Defnyddir cardamom du gan feddygon Tsieina, India, Japan, Corea a Fietnam.

Defnyddir amomum fel sbeis a chynhwysyn mewn meddygaeth draddodiadol yn systemau traddodiadol Tsieineaidd yn Tsieina, yn Ayurveda yn India, Japan, Corea, a Fietnam.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato