Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Tabernacl, Caerdydd
Gwedd
Math | eglwys, capel |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 10 metr |
Cyfesurynnau | 51.4785°N 3.17617°W |
Cod post | CF10 1AJ |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Tabernacl yn gapel Cristnogol sydd wedi bod yn gwasanaethu Bedyddwyr Cymraeg yng nghanol Caerdydd ers 1821.[1] Cafodd y capel ei ymestyn ym 1865, ac mae'n dal bron i 1,000 o addolwyr.[2] Ceir ffenestri lliw ar hyd y capel gan gynnwys dwy ffenestr o fedydd yr Iesu gan Goodwin Lewis a chopi o'r Swper Olaf gan Leonardo Da Vinci. Yn 1907 gosodwyd organ newydd gan gwmni Griffiths & Stroud o Gaerfaddon.[2]
Gweinidogion
[golygu | golygu cod]Ers 1821 bu 11 o weinidogion yno, sef y Parchgn. Griffith Davies, Robert Pritchard, Christmas Evans, David Jones, Charles Davies, J. William Hughes, Myrddin Davies, Raymond William a Denzil John. Y gweinidog ers 2022 yw'r Parch. Ddr Risa Hunt.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.53–4
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Taflen Wybodaeth Leol Caerdydd 19[dolen farw] oddi ar wefan capeli.org.uk (Saesneg)
- ↑ 2.0 2.1 Wooding, Jonathan M (Awst 2011). A guide to the churches and chapels of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru (Saesneg)
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan y capel Lua error in package.lua at line 80: module 'Module:Webarchive/data' not found.