Cân i Gymru 2024
Cân i Gymru 2024 | |
---|---|
Rownd derfynol | 1 Mawrth 2024 |
Lleoliad | Arena Abertawe |
Artist buddugol | Sara Davies |
Cân fuddugol | Ti |
Ysgrifenn(wyr) buddugol | Sara Davies |
Cân i Gymru | |
◄ 2023 2025 ► |
Cynhaliwyd cystadleuaeth Cân i Gymru 2024 yn Arena Abertawe, ar 1 Mawrth. Y cyflwynwyr oedd Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris.
Roedd tlws newydd eleni, gyda newidiadau i'r gwobrwyon ariannol hefyd. Y prif wobr oedd £5,000, ac roedd enillydd yr ail wobr yn derbyn £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn derbyn £2,000. Roedd 118 o ymgeiswyr eleni a beirniaid y panel oedd Bronwen Lewis, Dom James, Mared Williams a Carwyn Ellis - gydag Osian Huw Williams, prif leisydd Candelas, yn cadeirio.[1]
Y gan fuddugol oedd "Ti", a gyfansoddwyd ac a berfformiwyd gan Sara Davies sy'n byw yn Llandysul ac yn athrawes cerddoriaeth, drama a lles yn Ysgol Uwchradd Tregaron. Mae hi'n wreiddiol o Hen Golwyn. Ysgrifennwyd geiriau'r gân gan ei thaid. Wedi iddo farw aeth Sara ati i gyfansoddi'r gerddoriaeth.[2] Aeth ei chân ymlaen i'r Ẃyl Ban Geltaidd lle cipiodd y wobr am y Gân Ryngwladol Orau.[3]
Cafwyd nifer fawr o gwynion eleni am wylwyr yn methu pleidleisio. Roedd nifer o sylwadau gan bobl ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud nad oedd eu ffôn yn gallu cysylltu gyda'r rhif yn dechrau 0900 am fod cyfyngiad ar ei darparwr, neu fod dim cadarnhad o bleidleisio i'w glywed.
Dywedodd S4C bod 17,000 o bleidleisiau wedi ei cyfri, mwy na'r flwyddyn cynt. Er hynny roeddent yn bwriadu adolygu'r trefniadau pleidleisio.[4]
Trefn | Perfformiwr/wyr | Cân | Cyfansoddw(y)r | Safle | Gwobr |
---|---|---|---|---|---|
1 | Elin Hughes | Heno | Elfed Morgan Morris a Carys Owen | ||
2 | Jacob Howells | Yr Un Fath | Jacob Howells | ||
3 | Lowri Jones | Cymru yn y Cymylau | Lowri Jones a Siôn Emlyn Parry | ||
4 | Owain Huw a Llewelyn Hopwood | Mêl | Owain Huw a Llewelyn Hopwood | ||
5 | Gwion Phillips | Cysgod Coed | Gwion Phillips ac Efa Rowlands | 3ydd | £2,000 |
6 | Siôn Rickard | Pethau yn Newid | Siôn Rickard | ||
7 | Sara Davies | Ti | Sara Davies | 1af | £5,000 |
8 | Moli Edwards | Goleuni | Steve Balsamo a Kirstie Roberts | 2il | £3,000 |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyhoeddi rhestr fer Cân i Gymru 2024 , BBC Cymru Fyw, 18 Chwefror 2023. Cyrchwyd ar 18 Chwefror 2024.
- ↑ "Sara Davies yn ennill Cân i Gymru 2024". BBC Cymru Fyw. 2024-03-01. Cyrchwyd 2024-03-01.
- ↑ "Llwyddiant i Sara Davies yn yr Ŵyl Ban Geltaidd". newyddion.s4c.cymru. 2024-04-04. Cyrchwyd 2024-04-04.
- ↑ "S4C yn ymchwilio i drafferthion pleidleisio Cân i Gymru". BBC Cymru Fyw. 2024-03-02. Cyrchwyd 2024-03-02.
|