Beatrice Ferrar
Beatrice Ferrar | |
---|---|
Beatrice Ferrar - The Tatler (1903) | |
Ganwyd | 25 Mawrth 1876 Llundain |
Bu farw | 12 Chwefror 1958 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Actores o Loegr oedd Beatrice Ferrar (25 Mawrth 1875 – 12 Chwefror 1958) a wnaeth arbenigedd o chwarae mewn dramâu o'r 18g.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn ardal St Pancras, Llundain ym 1875 fel Flora Beatrice Bishop yn ferch i Mary S. Bishop (1836-) a Charles R. Bishop (1814-), Clerc Rheoli i gwmni o gyfreithwyr, roedd hi'n un o dair chwaer a oedd yn actoresau a oedd yn cynnwys Ada Ferrar (1864-1951) a Jessie Ferrar (aka Marion Bishop, 1879-1950).[1]
Dilynodd Ada ei chwaer hŷn i waith y theatr, gan wneud ymddangosiad cynnar fel tylwythen teg gyferbyn a Frank Benson a chwaraeodd Richard, Dug Efrog yn Richard III. Chwaraeodd hi Fanny Bunter yn New Men and Old Acres gan Tom Taylor.
Gyrfa lwyfan
[golygu | golygu cod]Gwnaeth Ferrar ei début yn Llundain yn 15 oed ym 1890 fel un o'r Ddwy Awel Ifanc yn The Bride of Love yn Theatr yr Adelphi mewn cynhyrchiad a oedd yn cynnwys ei chwaer Ada Ferrar [2] cyn ymddangos fel y Tow Tow, 12 oed, yn Sweet Nancy, yn Theatr y Lyric, Llundain gan chwarae rôl y teitl am dair wythnos yn ystod y rhediad.[3] Ymunodd â chwmni John Hare i chwarae rhan Beatrix Brent yn Lady Bountiful yn Theatr y Garrick (1891). Ymddangosodd fel Milly gyferbyn â H B Irving yn nrama T W Robertson School yn Theatr y Garrick (1891),[4] a hi oedd y ferch ysgol ragaeddfed Mildred Selwyn gyferbyn â H B Irving yn A Fool's Paradise yn nrama Sydney Grundy yn Theatr y Garrick (1892).[5] Roedd hi yn y Theatr Gomedi fel Mrs. Robert Briscoe yn The Sportsman (1892) [6] a bu’n Grace Walters yn The Great Unpaid (1892) [7] cyn chwarae nifer o rolau i Hare, Winifred Fortescue ac Edward Terry ar daith. Gydag Edward Terry actiodd yn Love in Idleness (1896), a chwaraeodd y plentyn emosiynol Lisa yn The Squire of Dames gyferbyn â Charles Wyndham yn y Criterion Theatre (1895) a Georgiana Ridout yn The Matchmaker yn Theatr Shaftesbury (1896).[8]
Chwaraeodd hi Irene gyferbyn â Charles Hawtrey yn One Summer's Day yn y Theatr Gomedi (1898);[9] Florry Larkins mewn adfywiad o The Club Baby yn Theatr yr Avenue (1898);[10][11] a Pamela Beechinor yn The Maneuvers of Jane yn Theatr yr Haymarket (1899).[12]
Fe wnaeth ei rhinweddau fonesig amlwg ei rhwystro rhag argyhoeddi wrth chwarae'r gantores neuadd gerddoriaeth ddi-chwaeth Maud St. Trevor yn Hearts Are Trumps yn y Theatre Royal, Drury Lane (1899) [13] ond cafodd fwy o lwyddiant fel Lucy yn The Rivals gyferbyn â Cyril Maude [14] ac fel Miss Constance Neville yn nrama Oliver Goldsmith She Stoops to Conque, y ddau yn Theatr Haymarket (1900) [15][16] gyda chylchgrawn The Era yn dweud am ei pherfformiad yn yr olaf, "Roedd Miss Neville, Miss Beatrice Ferrar yn iau ac yn fwy diwahardd nag sy'n arferol; ond, yn ymarferol, profodd hyn yn fantais... Yn y darnau mwy difrifol o'r rhan dangosodd Miss Ferrar pa mor frwd iawn yw hi trwy ynganiad braf a thrwy ddarostwng ei hyfywedd yn ddigonol... " [17]
Chwaraeodd Ferrar Lisa gyferbyn â H B Irving yn The Twin Sister yn Theatr Dug Efrog (1902);[18] Dolly Banter yn What Would A Gentleman Do? yn Theatr yr Apollo (1892); Praline yn y ffars The Girl from Maxim's yn y Criterion Theatre (1902);[19] Miss Sterling gyferbyn ag Allan Aynesworth yn The Clandestine Wedding yn Theatr yr Haymarket (1903);[20] Amy Spencer gyferbyn â Cyril Maude yn Cousin Kate yn Theatr y Playhouse (1903);[21] Mrs. Harry Tavender yn Joseph Entangled (1904) yn Theatr yr Haymarket;[22] Puck yn A Midsummer Night's Dream yn Theatr yr Adelphi (1905) gyferbyn ag Oscar Asche fel Bottom a Roxy Barton fel Titania.[15][23] Chwaraeodd Miss Pellender gyferbyn â Cyril Maude a Winifred Emery yn The Superior Miss Pellender yn Theatr y Waldorf (1906);[24] Miss Neville gyferbyn â Cyril Maude a Winifred Emery yn She Stoops to Conquer yn Theatr y Waldorf (1906);[25] Lucy gyferbyn â Lewis Waller yn The Rivals yn Theatr y Lyric (1910);[26] a Boyne yng nghynhyrchiad llawn sêr Herbert Beerbohm Tree o The Critic gyferbyn â Laurence Irving, Marie Tempest a Gertie Millar ymhlith eraill yn Theatr Ei Mawrhydi (1911). Yn 1912 roedd ar daith o amgylch y theatrau taleithiol fel Lucienne Bocard yn The Glad Eye.[27]
Blynyddoedd diweddarach
[golygu | golygu cod]Yn ei blynyddoedd olaf bu’n byw yn Llundain gyda’i chwaer iau, Jessie. Yng Nghofrestr Lloegr 1939 cafodd ei rhestru fel 'Actores' a'i chwaer Jessie fel 'Cyfanwerthwr Dillad'.[28]
Bu farw Beatrice Ferrar ym 1958 yn Llundain. Yn ei hewyllys gadawodd ystâd gwerth £ 2,451 6s 3d.[29] Ni fu'n briod.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cyfrifiad Lloegr 1881 ar gyfer Flora B. Bishop: Llundain, St George Hannover Square - Ancestry.com (angen tanysgrifiad)
- ↑ J. P. Wearing, The London Stage 1890-1899: A Calendar of Productions, Performers, and Personnel, Rowman & Littlefield (2014) - Google Books p. 19
- ↑ Theatre Review and Programme for Sweet Nancy (1890) - Robert Williams Buchanan website
- ↑ Wearing, The London Stage 1890-1899, p. 85
- ↑ Wearing, The London Stage 1890-1899, p. 101
- ↑ Wearing, The London Stage 1890-1899, p. 153
- ↑ Wearing, The London Stage 1890-1899, p. 165
- ↑ 'The Ferrar Family' - The Sketch, 16 December 1896, p. 316
- ↑ Wearing, The London Stage 1890-1899, p. 155
- ↑ Wearing, The London Stage 1890-1899, p. 377
- ↑ Beatrice Ferrar in The Club Baby - The Library of Nineteenth-Century Photography
- ↑ Wearing, The London Stage 1890-1899, p. 394
- ↑ Wearing, The London Stage 1890-1899, p. 424
- ↑ 'Revival of The Rivals at the Haymarket Theatre' - The Sketch, 2 May 1900, p. 65
- ↑ 15.0 15.1 A Misummer Night's Dream (1905) - gwefan Footlight Notes
- ↑ J. P. Wearing, The London Stage 1900-1909: A Calendar of Productions, Performers, and Personnel, Rowman & Littlefield (2014) - Google Books p. 1
- ↑ The Era, Llundain, 13 Ionawr 1900, t. 13d
- ↑ Wearing, The London Stage 1900-1909, p. 85
- ↑ 'In Stageland' - The Navy and Army Illustrated, 28 March 1903 p. iv
- ↑ Wearing, The London Stage 1900-1909, p. 135
- ↑ 'Miss Beatrice Ferrar in Cousin Kate at the Haymarket Theatre' - The Tatler 9 December 1903
- ↑ Wearing, The London Stage 1900-1909, p. 170
- ↑ Postcard of Beatrice Ferrar and Walter Hampden in A Midsummer Night's Dream - Shakespeare and the Players - Emory University
- ↑ Wearing, The London Stage 1900-1909, t. 275
- ↑ Wearing, The London Stage 1900-1909, t. 280
- ↑ J. P. Wearing, The London Stage 1910-1919: A Calendar of Productions, Performers, and Personnel, Rowman & Littlefield (2014) - Google Books
- ↑ "The Glad Eye and An Interrupted Divorce - Leeds Playbills database". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-06-14. Cyrchwyd 2020-06-14.
- ↑ Cofrestr Cymru a Lloegr 1939 ar gyfer Beatrice Ferrar: Llundain, Dinas Westminster - Ancestry.com (angen tanysgrifiad)
- ↑ England & Wales, National Probate Calendar (Index of Wills and Administrations), 1858-1995 for Flora Beatrice Bishop: 1958 - Ancestry.com (angen tanysgrifiad)