Neidio i'r cynnwys

BMA Cymru Wales

Oddi ar Wicipedia
BMA Cymru Wales
GwladCymru
Dechreuwyd1999
LleoliadBMA Cymru Wales

5ed Llawr, 2 Caspian Point Caspian Way Bae Caerdydd Caerdyd

CF10 4DQ
Rhiant sefydliadBMA
Gwefanhttps://www.bma.org.uk/what-we-do/uk-national-and-regional-councils/uk-and-national/welsh-council

Mae BMA Cymru Wales yn gangen o Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) ac yn undeb llafur i feddygon Cymru.

Hanes a phwrpas

[golygu | golygu cod]

Yn 1998, gofynnwyd i gyngor Cymreig y BMA wneud cynnig i newid eu cyfansoddiad yn debyg i sut y gwnaed i'r Alban ar gyfer cyfarfod cyffredinol 1999. Roedd hyn mewn ymateb i ddatganoli a fyddai'n dod mewn i rym yn 1999.[1]

Yn ôl BMA Cymru Wales, maent yn gweithio i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth Gymreig drwy'r canlynol:

  • gofyn am farn aelodau i ymateb i ymgynghoriadau ac ymchwiliadau gan Lywodraeth Cymru, pwyllgorau’r Senedd a sefydliadau eraill
  • ymgysylltu’n rheolaidd ag Aelodau Seneddol, pwyllgorau’r Senedd a grwpiau trawsbleidiol
  • mae eu gwaith polisi a llais cyfunol eu haelodau yn llywio gwaith dadleuon yr Aelodau Seneddol a’r Senedd
  • mae eu cynrychiolwyr yn rhoi tystiolaeth i bwyllgorau’r Senedd a grwpiau trawsbleidiol er mwyn dylanwadu ymhellach ar bolisi.[2]

Ymgyrchoedd

[golygu | golygu cod]

Ym mis Medi 2023, ysgrifennodd BMA Cymru at y gweinidog iechyd Eluned Morgan ar ran meddygon iau yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gan rybuddio Llywodraeth Cymru i ddisgwyl streicio ynglŷn â thal.[3]

Mae tua 4,000 o feddygon iau yng Nghymru, sy'n ffurfio 40% o'r gweithlu meddygol. Cynhaliodd y BMA yng Nghymru ragor o streiciau ym mis Chwefror 2024, yn dilyn cynnig o godiad cyflog 5% gan Lywodraeth Cymru, sydd yn is na'r 6% sy'n cael ei argymell gan y corff taliadau annibynnol.[4] Cynhaliwyd streic arall ym mis Mawrth 2024.[5]

Ar 9 Ebrill 2024, cytunodd Llywodraeth Cymru i ddechrau trafodaethau ffurfiol gyda'r BMA ynglyn a chyflog meddygon iau.[6]

Ym Mehefin 2024, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gynnig codiad cyflog ychwanegol o 7.4% gan gynyddu cyfanswm y codiad cyflog ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24 i 12.4%, wedi'i ddyddio'n ôl i Ebrill 2023. Mi fydd pleidlais yn cael ei chynnal ar y cynnig yn ddiweddarach yn y mis.[7]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "BMA council agrees structure for devolution". BMJ : British Medical Journal 316 (7144): 1615. 1998-05-23. ISSN 0959-8138. PMC 1113218. PMID 9596617. https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC1113218/.
  2. "Welsh Parliament - Senedd Cymru". The British Medical Association is the trade union and professional body for doctors in the UK. (yn Saesneg). 2022-08-01. Cyrchwyd 2023-12-09.
  3. "Meddygon iau yn rhybuddio Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer cyfnod o streicio". newyddion.s4c.cymru. 2023-12-09. Cyrchwyd 2023-12-09.
  4. "Streic meddygon iau i gael effaith ar driniaethau". BBC Cymru Fyw. 2024-02-18. Cyrchwyd 2024-06-16.
  5. "Meddygon iau Cymru'n cynnal eu streic hiraf erioed". BBC Cymru Fyw. 2024-03-25. Cyrchwyd 2024-06-16.
  6. "Anghydfod cyflogau aelodau Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) – meddygon iau, ymgynghorwyr a meddygon arbenigol | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. 2024-04-09. Cyrchwyd 2024-06-16.
  7. "Cynnig cyflog newydd i feddygon Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2024-06-16. Cyrchwyd 2024-06-16.