Ar y Ffin (cyfres deledu)
Gwedd
Ar y Ffin | |
---|---|
Adnabuwyd hefyd fel | Mudtown |
Genre | Drama |
Serennu | Erin Richards |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg, Saesneg |
Nifer cyfresi | 1 |
Nifer penodau | 6 (Rhestr Penodau) |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 60 munud |
Cwmnïau cynhyrchu |
Severn Screen |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 1080i (16:9 HDTV) |
Dolenni allanol | |
Proffil IMDb |
Drama deledu yw Ar y Ffin. Mae'n dilyn hanes ynad profiadol sy'n gweithio yn Llys yr Ynadon yng Nghasnewydd. Awduron y gyfres yw Hannah Daniel a Georgia Lee, sydd hefyd yn gweithio fel ynad rhan amser. Cynhyrchwyd y gyfres gan Severn Screen ac fe'i gyd-gomisiynwyd gan S4C a UKTV. Mae'r prif gymeriad, Claire Lewis Jones, yn cael ei chwarae gan Erin Richards.[1]
Mae 6 pennod yn y gyfres gyntaf. Fe'i darlledwyd yn y slot ddrama arferol am 9pm ar S4C gan ddechrau ar ddiwedd Rhagfyr 2024. Darlledir y fersiwn Saesneg, Mudtown ar sianel drosedd UKTV, Alibi. Bydd y gyfres yn cael ei gwerthu yn rhyngwladol gan All3Media International.
Cast a chymeriadau
[golygu | golygu cod]- Erin Richards fel Claire Lewis Jones
- Tom Cullen fel Saint Pete
- Matthew Gravelle fel Alun Lewis Jones
- Lauren Morais fel Beca Lewis Jones
- Lloyd Meredith fel Sonny Higgins
- Kimberly Nixon fel Sara Humphries
- Sion Pritchard fel Davey Johns
- Ifan Huw Dafydd fel Owen Williams
Penodau
[golygu | golygu cod]# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awdur | Darllediad cyntaf | Gwylwyr S4C [2] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Rhys Carter | Hannah Daniel a Georgia Lee | 29 Rhagfyr 2024 | I'w gyhoeddi |
Ar ôl i rêf arwain at dân mewn warws, mae ynad o Gasnewydd, Claire, yn gwneud y penderfyniad anghywir yn y llys sy'n profi ei gwerthoedd, y gymuned leol, ond yn bwysicaf oll ei theulu. | |||||
2 | "Pennod 2" | Rhys Carter | Hannah Daniel a Georgia Lee | 5 Ionawr 2025 | I'w gyhoeddi |
Gyda'r pwysau'n cynyddu mae Claire yn teimlo canlyniad ei phenderfyniad ac yn cymryd materion i'w dwylo ei hun. Yn y cyfamser, mae Pete yn ehangu ei ymchwiliad ei hun. | |||||
3 | "Pennod 3" | Rhys Carter | Hannah Daniel a Georgia Lee | 12 Ionawr 2025 | I'w gyhoeddi |
Mae tensiynau'n codi ar aelwyd y teulu Lewis Jones. Mae Claire yn mynd yn fwy drwgdybus o Sonny wrth iddi geisio darganfod beth yn union ddigwyddodd noson y tân, gan wthio Beca ymhellach i ffwrdd yn y broses. | |||||
4 | "Pennod 4" | Chris Forster | Hannah Daniel a Georgia Lee | 19 Ionawr 2025 | I'w gyhoeddi |
Mae Beca yn gwybod mwy am noson y tân nag oedd hi wedi cyfaddef i ddechrau. Mae Sant Pete yn agoshau at y gwir, problemau arian Alun yn tyfu, ac mae Claire yn blaenori graddfeydd cyfiawnder er mwyn amddiffyn y bobl y mae'n eu caru fwyaf. | |||||
5 | "Pennod 5" | Chris Forster | Hannah Daniel a Georgia Lee | 26 Ionawr 2025 | I'w gyhoeddi |
Mae gêm cath a llygoden yn datblygu ar draws strydoedd Casnewydd. Mae Pete yn cael trafferth dal ei rym ac yn rhoi cyfle olaf i Claire ddod o hyd i'w arian. Mae Beca a Sonny yn ymladd am eu goroesiad eu hunain. | |||||
6 | "Pennod 6" | Chris Forster | Hannah Daniel a Georgia Lee | 2 Chwefror 2025 | I'w gyhoeddi |
Gornest derfynol. Mae llwybrau'n uno pan fydd Claire a Saint Pete yn dysgu'r gwir am yr hyn a ddigwyddodd noson y saethu, ac mae Claire yn cael ei gorfodi i wynebu ei hofn gwaethaf. |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2024-12-07.
- ↑ Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Ar y Ffin ar wefan Internet Movie Database