Anna Bergendahl
Anna Bergendahl | |
---|---|
Ganwyd | 11 Rhagfyr 1991 Hägerstens församling |
Label recordio | Universal Music Group |
Dinasyddiaeth | Sweden |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr |
Adnabyddus am | This Is My Life, Just Another Christmas, Ashes to Ashes, Kingdom Come, It Never Snows in California |
Arddull | canu gwerin |
Gwefan | https://annabergendahl.com |
Cantores o Sweden yw Anna Bergendahl (ganes 11 Rhagfyr 1991 yn Stockholm). Cafodd hi ei magu yn Nyköping a Katrineholm. Cyfranogodd hi yn y cystadleuaethau Super Troopers (ar siannel cerddoriaeth Sweden TV4 yn 2004) ac yn Idol (Sweden) 2008. Cynrychiolodd Bergendahl ei mamwlad yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010. Rhyddhawyd ei halbwm debut, Yours Sincerely, ar 14 Ebrill 2010.[1]
Eurovision
[golygu | golygu cod]Enillodd Bergendahl Melodifestivalen 2010 ar 13 Mawrth gyda'i chân rhif un[2] "This Is My Life". Cafodd hi 214 pwynt. Yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision 2010, methodd hi i symud ymlaen i'r rownd derfynol, yr artist cyntaf o Sweden i wneud hyn ers pan gyflwynwyd y rownd(iau) gyn-derfynol yn 2004. Daeth hi'n 11eg yn yr ail rownd gyn-derfynol.
Ar ôl Eurovision
[golygu | golygu cod]Rhyddhaodd Bergendahl ei halbwm debut, Yours Sincerely, ar 21 Ebrill 2010 yn ogystal â'i sengl newydd, "The Army", ar 31 Awst 2010. Er mwyn i hybu ei halbwm, death hi ar daith o gwmpas Sweden a pherfformiodd hi ar y sioe Allsång på Skansen (Cymraeg: Canwch ar hyd yn Skansen).
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Albymau
[golygu | golygu cod]- Yours Sincerely (14 Ebrill 2010)[1]
Senglau
[golygu | golygu cod]- Rhyddhadau Idol 2008
- 2008: "Release Me" (yn fyw) (lleoliad siart #58)
- 2008: "Save Up All Your Tears" (lleoliad siart #57)
- 2008: "Bleeding Love" (lleoliad siart #60)
- 2008: "Over The Rainbow" (lleoliad siart #53)
- Senglau unigol
- 2010: "This Is My Life" (#1 yn Sweden)
- 2010: "The Army"
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Gwefan swyddogol (Swedeg)