Alushta
Gwedd
Math | dinas yn Wcráin, tref/dinas, anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 31,364 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Jūrmala, Dubna |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cyngor Dinas Alushta, Alushta Urban Okrug |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 6.983 km² |
Uwch y môr | 50 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 44.6672°N 34.3978°E |
Cod post | 98500–98519 |
Dinas fechan yng Ngweriniaeth Crimea, Rwsia (Yr Wcráin hyd 2014), sy'n ganolfan wyliau glan môr yw Alushta (Rwseg, Алушта; Tatareg Crimea, Aluşta; Wcreineg, Алушта). Fe'i sefydlwyd yn y 6g gan yr Ymerodr Bysantaidd Justinian. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Du ar y ffordd arfordirol rhwng Gurzuf a Sudak. Mae ffordd dros Fwlch Angarskyi, ym Mynyddoedd Crimea, yn ei chysylltu â Simferopol.
Mae'r ardal yn nodedig am ei thirwedd greigiog. Ceir olion gwaith amddiffynnol Bysantaidd a chaer Genovaidd o'r 15g yno. Dan y Bysantaidd adnabyddid y dref fel Aluston (Αλουστον) a Lusta oedd yr enw yng nghyfnod rheolaeth Genova. Cyflwynodd y bardd Adam Mickiewicz ddau o'i sonedau am y Crimea i Alushta.