Aled Gwyn
Aled Gwyn | |
---|---|
Ganwyd | Aled Gwyn Jones 22 Awst 1940 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, newyddiadurwr, cyfieithydd, bardd |
Priod | Menna Gwyn |
Gweinidog, newyddiadurwr, cyfieithydd a phrifardd yw'r Parchedig Aled Gwyn (20 Awst 1940).
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganed D Aled Gwyn Jones yng Nghastell Newydd Emlyn, Ceredigion, yr ifancaf o Fois Parc Nest. Fe'i magwyd ar y fferm gan ei rieni Gwenni (Gwendolen) a Gwyn Jones.[1] Hyfforddodd ar gyfer y weinidogaeth yn Aberystwyth ac Abertawe a graddiodd yn 1963.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Cychwynnodd fel gweinidog ifanc yn Eglwys Henllan Amgoed ym mis Medi 1966. Gwasanaethodd hefyd fel cynghorydd sir dros Blaid Cymru. Symudodd i Gapel Soar Maesyrhaf, Castell-nedd yn 1976.[2]
Aeth ymlaen i ddod yn newyddiadurwr gyda BBC Radio Cymru.
Cafodd ei goroni yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abergele 1995 gan ei frawd John Gwilym Jones a oedd yn Archdderwydd ar y pryd.[3] Ysbrydolwyd ei gerdd "Melodiau" gan y brofedigaeth o golli ei wyres, Gwennan.[4]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod â'r ddarlledwraig Menna Gwyn (1941–2006) hyd ei marwolaeth. Mae ganddynt ddau o blant, Non a Rolant.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Aled Gwyn - Gwestai Penblwydd. BBC Cymru (20 Awst 2017). Adalwyd ar 27 Awst 2020.
- ↑ David Edward Pike (15 Ebrill 2017). The Story of Henllan and Her Ministers. Adalwyd ar 27 Awst 2020.
- ↑ Yr ifanc a ŵyr? Prifeirdd , BBC Cymru Fyw, 6 Ebrill 2016. Cyrchwyd ar 27 Awst 2020.
- ↑ O gartref i'r Goron a'r Gadair. , Daily Post, 22 Rhagfyr 2007. Cyrchwyd ar 28 Awst 2020.
- ↑ Menna Gwyn yn marw , BBC Cymru, 6 Ebrill 2006. Cyrchwyd ar 27 Awst 2020.