Leonhard Euler
Gwedd
Mathemategydd a ffisegydd arloesol o'r Swistir oedd Leonhard Euler (15 Ebrill 1707 – 18 Medi 1783). Gwnaeth ddarganfyddiadau pwysig mewn ystod eang o feysydd megis calcwlws gorchfychanion a theori graff. Ef hefyd gyflwynodd lawer o'r terminoleg a'r nodiant mathemategol modern, yn enwedig ar gyfer dadansoddi mathemategol. Mae ef hefyd yn enwog am ei waith ar fecaneg, deinameg hylifol a seryddiaeth.[1]
Treuliodd Euler y rhan fwyaf o'i oes yn St Petersburg, Rwsia ac yn Berlin. Caiff ei gyfri fel y mathemategydd pwysicaf yn y 18g, ac un o'r mwyaf erioed drwy'r byd. Mae hefyd yn un o'r mathemategwyr mwyaf cynhyrchiol o ran ei gyhoeddiadau.[2]
Cyfeiriadau
- ↑ Dunham, William (1999). Euler: The Master of Us All. The Mathematical Association of America. t. 17. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Finkel, B.F. (1897). "Biography- Leonard Euler". The American Mathematical Monthly 4 (12): 297–302. doi:10.2307/2968971. JSTOR 2968971.