Neidio i'r cynnwys

Bleidd-ddyn

Oddi ar Wicipedia
Cerflun o fleidd-ddyn o'r 18fed ganrif

Creadur mytholegol neu chwedlonol yw bleidd-ddyn (hefyd: blaidd-ddyn), sef dyn â'r gallu i newid ei ffurf naill ai i ffurf blaidd ynteu i ffurf bwystfil anthropomorffig bleiddaidd, a hynny naill ai o'i wirfodd, drwy daro bargen â'r Diafol, ynteu yn anwirfoddol, o achos melltith, neu drwy gael ei frathu gan fleidd-ddyn arall. Yn aml cysylltir y trawsffurfiad hwn ag ymddangosiad y lleuad lawn.[nodiadau 1]

Mewn ffuglen mae'r bleidd-ddyn wedi bod yn gymeriad poblogaidd hyd heddiw, gyda diwylliant cyfoes yn creu amrywiaethau ar y llên gwerin wreiddiol, er enghraifft y defnydd o fwledi arian fel modd i ladd bleidd-ddynion.

Termau eraill

Mae'r term lycanthropedd, sef y cyflwr o fod yn fleidd-ddyn, yn dod o'r Roeg λυκάνθρωπος lykánthropos ("bleidd-ddyn"), o λύκος, lýkos ("blaidd") a άνθρωπος, ánthrōpos ("gŵr").[1] Gall lycanthropedd hefyd gyfeirio at salwch meddwl lle mae claf yn credu ei fod wedi ei drawsffurfio yn anifail. Ceir y term therianthropedd, sef y gallu i drawsffurfio'n anifail. Ceir hefyd y term hynafol versipellis o'r Lladin vertō (“troi”) a pellis (“croen”), sy'n deillio o'r gred bod ffurf fleiddaidd y blaidd-ddyn yn cuddio o dan groen ei ffurf ddynol, gyda'r bleidd-ddyn yn "troi ei groen" yn llythrennol wrth drawsffurfio.[2]

Llên gwerin Ewropeaidd

Mae gan lawer o wledydd Ewrop chwedlau ynglŷn â bleidd-ddynion, gan gynnwys Albania (oik), Armenia (mardagayl) Ffrainc (loup-garou), Gwlad Groeg (lycanthropos), Sbaen (hombre lobo), Bwlgaria (върколак - varkolak), Twrci (kurt adam), Gweriniaeth Tsiec/Slofacia (vlkodlak), Serbia/Montenegro/Bosnia (vukodlak, вукодлак), Belarus (vaukalak, ваўкалак), Rwsia (vourdalak, оборотень), Wcráin (vovkulak(a), vurdalak(a), vovkun, перевертень), Croatia (vukodlak), Gwlad Pwyl (wilkołak), Romania (vârcolac, priculici), Macedonia (vrkolak), Slofenia (volkodlak), Yr Alban (werewolf, wulver), Lloegr (werewolf), Iwerddon (faoladh neu conriocht), Yr Almaen (Werwolf), Yr Iseldiroedd (weerwolf), Denmarc/Sweden/Norwy (Varulv), Norwy/Gwlad yr Iâ (kveld-ulf, varúlfur), Galisia (lobishome), Portiwgal (lobisomem), Lithwania (vilkolakis a vilkatlakis), Latfia (vilkatis a vilkacis), Andorra/Catalonia (home llop), Hwngari (Vérfarkas a Farkasember), Estonia (libahunt), Y Ffindir (ihmissusi a vironsusi), a'r Eidal (lupo mannaro), Llydaw (den-bleiz, den-noz, bleiz-garv).

Mewn llên gwerin Ewropeaidd mae bleidd-ddynion fel arfer yn ddynion drwg wedi'u troi'n fleiddiaid a boenydiai pobl ar orchymyn y Diafol, er bod yna rai straeon am bobl a gafodd eu trawsffurfio'n fleiddiaid yn erbyn eu hewyllys. Yn y 10fed ganrif cawsant yr enw binomaidd melancholia canina ac yn y 14fed ganrif daemonium lupum.

Yn Latfia, roedd vilkacis yn ddyn a newidiai'n fwystfil bleiddaidd, oedd y gallai fod yn haelionus. Yn Hwngari roedd y bleidd-ddynion yn byw mewn ardal benodol, sef Transdanubia, a'r gred oedd mai plant a gafodd eu cam-drin gan eu rhieni oeddent, neu ddynion a gafodd eu melltithio yn ystod eu plentyndod. Yn saith blwydd oed, byddai'r plentyn yn gadael ei gartref a mynd i hela yn ystod y nos, a gallai newid yn flaidd neu yn ddyn yn ôl ei ewyllys. Gallai oedolyn hefyd ddod yn fleidd-ddyn drwy gerdded teirgwaith drwy borth bwaog wedi ei adeiladu o bren bedw a rhosynnau gwyllt.

Byddai bleidd-ddynion yn difa pob math o anifeiliaid fferm, yn enwedig defaid. Yn aml byddai'r trawsffurfiad yn digwydd yn ystod heuldro'r gaeaf, y Pasg a phan fo'r lleuad yn llawn. Yn y 17fed a'r 18fed ganrifoedd roedd yr erledigaeth o wrachod yn Hwngari yn erledigaeth o fleidd-ddynion hefyd, a chafodd y bleidd-ddyn ei gysylltu â'r wrach yn aml. Cysylltir y bleidd-ddyn â'r fampir yn Hwngari hefyd.[3] Yn Serbia a gwledydd eraill y Balcanau yr un creadur yw'r fampir a'r bleidd-ddyn.

Y gred ymhlith rhai Slafiaid oedd bod gan unrhyw blentyn a aned gyda gwallt neu fan geni y gallu i droi'n anifail, yn bennaf y blaidd. Yn llên gwerin Armenia ceir gwragedd sydd, yn sgil pechu, yn cael eu newid yn fleiddiaid am saith mlynedd fel cosb.[4] Ar ôl cael ei chollfarnu, mae'r wraig yn cael ymweliad oddi wrth ysbryd sy'n rhoi croen blaidd iddi a'i gorchymyn i'w wisgo, ac ar ôl ei wisgo'n cael chwant am gnawd dynol. Mae hi'n troi mor wancus am gnawd nes iddi fwyta ei phlant ei hun, ac wedyn plant ei pherthnasau, ac yn olaf plant dieithriaid.

Yn ôl llên gwerin Belarus, roedd tywysog o'r 11fed ganrif, Vseslav o Polotsk (c. 10391101), yn fleidd-ddyn, a oedd â'r gallu i symud gyda chyflymder goruwchddynol.

Cofnodwyd nifer o ymosodiadau gan fleidd-ddynion - ac wedyn achosion llys - yn y 16fed ganrif yn Ffrainc. Mewn sawl achos ceir tystiolaeth glir o lofruddiaeth a chanibaliaeth ond heb unrhyw gysylltiad â bleiddiaid; mewn achosion eraill mae pobl wedi cael eu poenydio gan y fath fwystfilod, fel yn achos Gilles Garnier ym 1573, lle bu tystiolaeth am bresenoldeb rhyw flaidd ond dim tystiolaeth yn erbyn y cyhuddedig. Cafodd yr ardal o Gévaudan ei phoenydio gan Fwystfil Gévaudan rhwng 1764 a 1767, pan gafodd 80 o bobl eu lladd gan endid anhysbys a gafodd ei ddisgrifio fel blaidd gan ddyn a oroesodd un o'r ymosodiadau.

Ym 1692 yn Lifonia, tystiodd dyn 80 oed o'r enw Thiess ar lw mai bleidd-ddyn oedd e, a dweud mai Cŵn Duw oedd bleidd-ddynion. Yn ôl Thiess, rhyfelwyr oedd bleidd-ddynion, a fyddai'n rhyfela yn erbyn gwrachod a chythreuliaid yn uffern, a chyda hynny sicrhau nad allai'r Diafol a'i weision ddwyn cnydau lleol ymaith i uffern. Ar ôl marw byddai bleidd-ddynion yn cael eu croesawu i mewn i'r nefoedd fel taliad am eu hymdrechion.[5]

Nodweddion cyffredin

Torlun pren o flaidd-ddyn a wnaethpwyd ym 1722 yn yr Almaen

Yn ôl llên gwerin Ewropeaidd gellir adnabod y bleidd-ddyn drwy arwyddion corfforol diamau, megis aeliau sy'n cwrdd ar bont y trwyn, ewinedd crwm, clustiau wedi eu gosod yn isel a cherdded â brasgam. Ffordd arall o adnabod bleidd-ddyn yw torri cnawd y cyhuddedig i weld os oes blew blaidd dan ei groen. Yn Rwsia ceir y gred bod gan y bleidd-ddyn wrych o dan ei dafod.[6] Mae ffurf fleiddaidd y blaidd-ddyn yn amrywio o wlad i wlad. Fel arfer ni ellir gwahaniaethu rhwng bleidd-ddyn yn ei ffurf fleiddaidd a blaidd go iawn, ond clywir am rai eithriadau, er enghraifft:

  • Nid oes gan y bleidd-ddyn gynffon (nodwedd mae'r bleidd-ddyn yn rhannu â gwrach ar ôl iddi droi'n anifail)
  • Mae gan y bleidd-ddyn lygaid a llais dynol.

Ar ôl dychwelyd i'w ffurf ddynol, mae'r bleidd-ddyn yn dod yn wan, yn ddiegni ac yn isel ei ysbryd.[6] Nodwedd arall a ffieiddiai pobl ar draws Ewrop yn ystod y canol oesoedd oedd arfer y bleidd-ddyn o fwyta celanedd y meirw, nodwedd a gafodd ei chofnodi ledled Ewrop, yn enwedig mewn testunau fel yr Annales Medico-psychologiques yn y 19fed ganrif. Wrth gwrs, mae bwyta cyrff y meirw yn arfer mae'r bleidd-ddyn yn rhannu â bleiddiaid go iawn, fel mae lleoliadau bleiddbyllau yng Nghymru yn awgrymu.[7]

Dod yn fleidd-ddyn

Mae sawl dull o ddod yn fleidd-ddyn wedi cael eu cofnodi:

  • Gwisgo gwregys o groen blaidd.[8]
  • Defnyddio eli dewinol.[9]
  • Yfed dŵr glaw allan o ôl pawen blaidd.
  • Yfed dŵr o nant swynol.
  • Yfed cwrw arbennig a chanu siant benodol.[10]
  • Cysgu tu allan gyda golau lleuad lawn yn disgleirio ar eich wyneb ar nos Fercher neu ar nos Sadwrn yn ystod yr haf.
  • Taro bargen â'r Diafol.
  • Cael eich brathu gan fleidd-ddyn. Ymddengys fod y gred hon yn ddyledus i ffuglen gyfoes. Prin yw'r dystiolaeth o lycanthropedd fel haint mewn llên gwerin.[6]

Lycanthropedd fel melltith

Cafodd y felltith o lycanthropedd ei hystyried gan rai ysgolheigion i fod yn gosb ddwyfol. Dengys llenyddiaeth ar fleidd-ddynion sawl enghraifft o Dduw neu saint yn cosbi unigolion â lycanthropedd. Omnes angeli, boni et Mali, ex virtute naturali habent potestatem transmutandi corpora nostra ("Mae gan bob angel, da a drwg, y gallu i drawsffurfio ein cyrff") meddai'r sant Thomas Aquinas. Byddai'r rhai a gafodd eu hesgymuno gan yr Eglwys Gatholig hefyd yn dod yn fleidd-ddynion, yn ôl y gred.[6] Yn Rwsia roedd y Diafol hefyd yn melltithio pobl â lycanthropedd.

Gwendidau

Mewn ffuglen gyfoes gellir clwyfo a lladd bleidd-ddynion gydag arfau a wnaethpwyd o arian, ond fel arall maent yn anodd eu clwyfo. Ymddengys nad yw'r gwendid hwn yn dyddio yn ôl yn bellach na ffuglen y 19fed ganrif.

Yn wahanol i fampirod, ni all effeithio ar fleidd-ddynion gydag arteffactau crefyddol neu ddŵr cysegredig. Mewn sawl gwlad gall rhyg, uchelwydd, criafol a chwcwll y mynach (Aconitum napellus) gadw bleidd-ddynion draw.

Meddyginiaethau

Ceir sawl dull o drin lycanthropedd. Credai'r Groegiaid a'r Rhufeiniaid y byddai blinder corfforol yn iacháu lycanthropedd. Byddai'r dioddefydd yn cael ei orfodi i ymgymryd â chyfnodau hir o ymarfer corfforol er mwyn cael gwared â'i salwch. Yn y canol oesoedd ceir tri dull traddodiadol o drin lycanthropedd: ffisig, llawdriniaeth a dadreibiad. Yn anffodus i'r dioddefydd, profai'r rhan fwyaf o'r meddyginiaethau ar gael i fod yn angheuol. Y gred yn Sisili oedd y gellir iacháu bleidd-ddynion naill ai drwy ei daro ar ei dalcen â chyllell, ynteu drwy drywanu ei ddwylo gyda hoelion. Yn Schleswig-Holstein y gred oedd y gellir iacháu bleidd-ddyn drwy alw ei enw bedydd teirgwaith. Yn llên gwerin Denmarc gellir iacháu blaidd-ddyn drwy refru arno. Dull arall o iacháu blaidd-ddyn oedd i'w fedyddio. Gallai ymroddiad i Sant Hubertus hefyd iacháu lycanthropedd, yn ogystal â diogelu rhagddo.

Llên glasurol

Zeus yn troi Lycaon yn flaidd, cerflun gan Hendrik Goltzius.

Yn ei waith Historiai ysgrifennai Herodotus am lwyth o'r enw y Neuri, oedd yn byw yng ngogledd-ddwyrain Scythia. Byddai'r Neuri yn newid yn fleiddiaid unwaith pob naw blynedd.[11] Roedd Fyrsil hefyd yn gyfarwydd â dynion yn trawsffurfio'n flaiddiaid. Ym mytholeg Gwlad Groeg ceir yr hanes am Lycaon, a gafodd ei droi'n flaidd gan Zeus am fwyta cnawd dynol.

Ym Metamorphoses disgrifiodd y bardd Ofydd chwedlau am ddynion a grwydrai coedwigoedd Arcadia yn rhith bleiddiaid.

Adroddai'r ysgolhaig Plinius yr Hynaf ddwy stori ynglŷn â lycanthropedd. Gan ddyfynnu Euanthes[12] soniai am ddyn a hongiai ei ddillad ar onnen cyn nofio ar draws llyn yn Arcadia a thrawsffurfio'n flaidd. Gallai ddychwelyd i'w ddillad a throi'n ddyn unwaith eto ar yr amod nad oedd yn ymosod ar unrhyw ddyn am naw blynedd. Mae Plinius hefyd yn dyfynnu Agriopas ynglŷn â chwedl lle cafodd dyn ei droi'n flaidd am fwyta perfeddion plentyn.

Yn y Satyricon gan Gaius Petronius Arbiter (60 CC), mae cymeriad o'r enw Niceros yn adrodd chwedl am gyfaill a gafodd ei droi'n flaidd.[13]

Bleidd-ddynion yng Nghymru

Bleiddwn

Yn y chwedl Math fab Mathonwy mae Math yn cosbi Gwydion fab Dôn a'i frawd Gilfaethwy fab Dôn am dreisio Goewin a dechrau rhyfel rhwng Gwynedd a Deheubarth trwy eu troi yn flaidd a bleiddast am flwyddyn. Dychwelant gyda chenau blaidd cryf yn fab iddynt. Trawsffurfiodd Math y cenau yn llencyn a'i fedyddio gyda'r enw Bleiddwn.[14]

Bleiddiaid Brycheiniog

Yn ystod y 18fed ganrif bu teulu'n byw mewn tyddyn rhywle ym Mrycheiniog. Roedd aelodau'r teulu'n hyll neu salw ac yn ymddwyn yn od, a'r gred yn yr ardal oedd eu bod yn hanu o hanner dynion-hanner bleiddiaid a oedd yn byw yn y coed. Roedd yr olaf ohonynt yn adnabyddus am ei glustiau pigfain blewog, nodwedd a etifeddwyd gan ei saith plentyn. Nid yw'n glir pam y gadawodd y "bleiddiaid", fel y'u gelwid, yr hen dyddyn, ond roedd eu cymdogion yn falch iawn o gael gwared ohonynt. Fu dim llewyrch ar y lle wedyn, gyda thenant ar ôl tenant yn gadael am fod y stoc yn marw, y gweiriau'n brin a'r cnydau'n pallu aeddfedu. Y gred gyffredin oedd bod y lle wedi'i reibio ac erbyn diwedd y ganrif roedd y tyddyn yn adfeilion.[7]

Bleiddwraig Sir Faesyfed

Cyfarfu gŵr ifanc â Gwenllïan, geneth brydferth ond byrbwyll o gyrion Sir Faesyfed, a'i phriodi. Ganwyd plentyn i'r ddau ond roedd yr amserau'n rhai caled ac yntau'n methu cael dau ben llinyn ynghyd. Ond mynnai Gwenllïan nad oedd angen iddo boeni oherwydd galla hi ddod o hyd i ddigon o gig. Cadwodd at ei gair ond gofidiai ei gŵr rhag ofn ei bod yn ei ddwyn o rywle. Addawodd hithau rannu ei chyfrinach ag ef ar yr amod na fyddai yntau'n ei galw wrth ei henw yn ystod y weithred. Aeth ag ef i lecyn anghysbell lle roedd nifer o ŵyn a rhedodd ar eu hôl gan barablu rhywbeth. Y funud nesaf newidiodd yn flaidd, cipio un o'r ŵyn a diflannu i'r coed. Dychwelodd adref wedyn â baich o gig yn ôl ei harfer. Un diwrnod, tra oedd Gwenllïan wrth yr un gorchwyl a'i gŵr yn ei gwylio, gwelodd ffermwr y blaidd ac annos ei gŵn iddo. Yn ei fraw fe waeddodd ei gŵr "Gwenllïan, dere adre!" Y funud nesaf diflannodd y blaidd o flaen llygaid y ffermwr ac yn ei le safai'r wraig yn noethlymun. O hynny ymlaen câi ei hadnabod fel "y flaiddwraig" a gorfu iddi dalu am ei chig fel pawb arall.[7]

Bleidd-ddyn Gwenfô

Roedd gŵr ifanc oedd yn byw ger Coed y Cymdda yng Ngwenfô yn caru â merch o Dregatwg ond fe'i gadawodd hi a phriodi un arall. Yn anffodus iddo ef roedd ei gariad cyntaf yn nith i Wrach Gwenfô, ac ar noson y briodas gosododd y wrach ei gwregys torchog ar garreg rhiniog y priodfab. Wrth i'r ddau gamu drosto i'r t y fe drodd y priodfab yn flaidd-ddyn a rhuthro i ffwrdd i Goed y Cymdda. Pob nos byddai'n udo o gwmpas tŷ y wrach nes arswydo'r gymdogaeth a bu ei gwynfan torcalonnus yn Nhregatwg yn ddigon i yrru ei wraig ifanc i'w bedd yn fuan. Roedd Gwrach Gwenfô yn benderfynol o'i gael yn ŵr i'w nith a dyna a ddigwyddodd wedi iddi ei drawsnewid yn ôl yn ddyn drwy daflu croen oen wedi'i swyno drosto. Ond newidiodd ei meddwl wedyn pan welodd pa mor wael yr oedd yn trin ei nith ac fe'i trodd yn fleidd-ddyn unwaith eto. Bu farw'r wrach ac nid oedd rym yn y byd a allai ddadwneud ei gwaith. Treuliodd y bleidd-ddyn naw mlynedd yn y coed cyn iddo gael ei saethu'n ddamweiniol.[7]

Bleidd-ddyn Gresffordd

Blaidd ysgyrnygus

Rhyw fore oer yn ystod gaeaf 1791 roedd ffermwr o blwyf Gresffordd yn ardal Wrecsam yn bugeilio'i ddefaid pan welodd olion palfau blaidd anferth yn yr eira. Gofynnodd i'r gof lleol ddod yn gwmni iddo i ddilyn y trywydd. Arweiniai'r olion tuag at dir cymydog iddynt ac wedi i'r ddau gyrraedd roedd golygfa erchyll yn eu hwynebu. Roedd y lle'n un llanast o ddefaid a gwartheg drylliedig a'r eira o'u cwmpas yn goch gan waed. Roedd y ffermdy'n dywyll ond drwy'r ffenestr gallent weld eu cymydog yn llechu dan fwrdd y gegin. Roedd e wedi bod o gwmpas y caeau y noswaith cynt pan welodd fwystfil anferth tebyg i flaidd yn rhuthro am ei gi gan rwygo'i wddw ag un brathiad. Ffodd y cymydog am ei einioes i mewn i'r ffermdy. Teimlodd y bwystfil yn hyrddio'i hun yn erbyn y drws nes bod yr holl le'n crynu. Wedi symud y dodrefn yn erbyn y drws aeth i guddio dan y bwrdd ond gallai weld y bwystfil yn syllu arno drwy'r ffenestr. Er mai pen blaidd oedd ganddo roedd ei lygaid gleision yn debycach i rai dynol. Pan welodd y bleidd-ddyn na allai gael gafael arno aeth i ddial ei lid ar y gwartheg a'r defaid oddi allan.

Barn y cymdogion oedd mai dim ond bleidd-ddyn a allai fod wedi achosi'r fath alanas. Aeth nifer mawr o ddynion i chwilio'r gymdogaeth amdano, ond er iddynt ddod ar draws digonedd o olion palfau, ni welwyd mo'r blaidd-ddyn yn unman.

Rhyw noson olau leuad y flwyddyn flaenorol, 1790, roedd bwystfil digon tebyg wedi ymosod ar geffyl lau'r goets fawr mewn llecyn unig rywle rhwng Dinbych a Wrecsam. Lladdwyd un o'r ceffylau yn y fan a'r lle, ac wedyn i un o'r lleill dorri'n rhydd o'r harnais, carlamodd i ffwrdd â'r bwystfil ar ei ôl.

Aeth saith mlynedd heibio cyn i'r bleidd-ddyn ymddangos y trydydd tro, deng milltir i'r dwyrain ar fryniau Bickerton yn Swydd Gaer. Yng ngolau'r lleuad gwelodd dau ŵr lleol ffurf blaidd yn sefyll ar gefnen o dir. Roedd ei udo mor iasoer nes iddynt fferru gan ddychryn. Drannoeth daethpwyd o hyd i gyrff dau dramp wedi'u llarpio mewn coedwig yn y cyffiniau.

Yn fuan wedyn derbyniodd gweinidog lleol lythyr dienw yn honni mai bleidd-ddyn oedd wedi llofruddio'r ddau dramp, ac mai ysbryd gŵr a gafodd ei losgi wrth y stanc gan hynafiaid y pentrefwyr ym 1400 oedd. Yn ôl awdur y llythyr yr unig ffordd i gael gwared ohono oedd i'r gweinidog baentio croes ar ddrws pob tŷ yn y pentref.[7]

Gweler hefyd

Nodiadau

  1. Fel y nodir gan y croniclydd Gervase o Tilbury ac efallai yn gynharach ymhlith Groegiaid yr henfyd drwy waith Petronius.

Cyfeiriadau

  1. C. Rose (2000). Giants, Monsters & Dragons: An Encyclopedia of Folklore, Legend and Myth (yn Saesneg). Norton. ISBN 9780393322118
  2. (Saesneg) Llyfrgell Digidol Perseus.
  3. György Szabó (1992). Mitológiai kislexikon (yn hu). Bwdapest: Trezor. ISBN 9637685227
  4. Mkhitar Gosh (1987). The Fables of Mkhitar Gosh. Efrog Newydd: Ashod Press. ISBN 9780935102215
  5. Daniel Gershenson (1991). Apollo the Wolf-God (yn en). McLean, Virginia: Institute for the Study of Man
  6. 6.0 6.1 6.2 6.3 Ian Woodward (1979). The Werewolf Delusion (yn en). Efrog Newydd: Paddington Press, tud. 256. ISBN 9780448231709
  7. 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 Cledwyn Fychan (2006). Galwad y Blaidd. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. ISBN 9781845120481
  8. Richard Verstegan (1628). Restitution of Decayed Intelligence
  9. Aaron Bennett (Gorffennaf 2002). So, You Want to be a Werewolf?, Cyfrol 55, Rhifyn 627
  10. Elliot O'Donnell (1912). Werwolves. Llundain: Methuen, tud. 65–67
  11. Herodotus. "105", Historiai
  12.  Historia Naturalis.
  13. Petronius Arbiter; cyfieithiad gan R. Bracht Branham a Daniel Kinney (1996). The Satyrica (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Califfornia. ISBN 9780520205994
  14. Dafydd Ifans, Rhiannon Ifans, Brynley F. Roberts (1980). Y Mabinogion. Gomer, tud. 60. ISBN 9780850887228