Safonau masnach

Mae nifer o adnoddau ar gael er mwyn helpu busnesau i gydymffurfio â'r gyfraith.

Mae Business Companion yn wefan a gymeradwyir gan y Llywodraeth sy'n darparu gwybodaeth ddiduedd yn rhad ac am ddim ar gyfer busnesau ac unigolion sydd angen gwybod am ddeddfwriaeth diogelu defnyddwyr a safonau masnach.

Ewch i wefan Business Companion

Neu, os ydych chi'n fusnes lleol yn Sir Gaerfyrddin sydd angen rhagor o gymorth, gall Safonau Masnach ddarparu cyngor am ddim ar bob agwedd ar ddeddfwriaeth safonau masnach - gan gynnwys:

  • Nwyddau sydd â chyfyngiadau oedran arnynt
  • Enwau busnes
  • Credyd i ddefnyddwyr
  • Hawliau defnyddwyr
  • Disgrifiad o nwyddau a gwasanaethau
  • Trwyddedu ffrwydron
  • Masnachu teg
  • Trwyddedu petrolewm
  • Prisiau
  • Diogelwch cynnyrch
  • Gwerthu ar y rhyngrwyd
  • Nodau masnach ac eiddo deallusol
  • Pwysau a mesurau

Gallwch gysylltu â Safonau Masnach

Trwy e-bost – [email protected]

Neu drwy ffonio 01267 234567

Cofiwch, os fydd angen cyngor arnoch am nwyddau neu wasanaethau rydych wedi eu prynu ar gyfer eich busnes, bydd angen i chi gysylltu â:

Llinell gymorth i ddefnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133