Ystâd y Goron
- Gweler hefyd: Ystâd y Goron yng Nghymru
Math o gyfrwng | corff statudol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1961 |
Sylfaenydd | Siôr III, brenin y Deyrnas Unedig |
Gweithwyr | 397 |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.thecrownestate.co.uk/ |
Tir ac eiddo arall sydd ym meddiant brenin neu frenhines y DU "yn rhinwedd y Goron"—h.y. heb fod yn eiddo personol—yw Ystâd y Goron (Saesneg: The Crown Estate). Mae'n mwynhau statws cyfansoddiadol amwys erbyn hyn. Mae'n perthyn i deyrn Lloegr trwy etifeddiaeth ac eto heb fod yn rhan o'i eiddo personol. Mae'r arian yn mynd i Drysorlys y DU ac i Frenin Lloegr. Nid yw'r tiroedd yn perthyn i Lywodraeth y DU ond yn hytrach mae'n cael ei redeg fel ymddiriedoraeth dan reolaeth "Y Bwrdd" neu (a defnyddio'r enw traddodiadol cyfarwydd) "Comisiynwyr Ystâd y Goron".[1]
Mae Ystâd y Goron yn yr Alban wedi ei ddatganoli i Lywodraeth yr Alban, ers 2017. Erbyn Rhagfyr 2024 roedd chwech sir yng Nghymru yn galw am i Ystâd y Goron gael ei ddatganoli hefyd yng Nghymru, a oedd yn werth tua tri chwarter miliwn o bunnoedd yn 2024.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Ystâd y Goron yn yr Oesoedd Canol yn Nheyrnas Lloegr. Yn 1760, daeth y brenin Siôr III o Brydain Fawr i gytundeb â llywodraeth y dydd i drosglwyddo rheolaeth o'i ystâd frenhinol i'r llywodraeth ei defnyddio i godi incwm mewn cyfnewid am gyfran o'r incwm hwnnw fel incwm personol i'r teulu brenhinol: dyma sail y Rhestr Sifil heddiw.[1]
Eiddo
[golygu | golygu cod]Er bod y term "Eiddo'r Goron" yn cynnwys tir ac eiddo o bob math sy'n perthyn i deulu brenhinol Prydain, dydy Ystâd y Goron ddim yn rheoli'r holl eiddo hyn (mae eithriadau amlwg yn cynnwys Dugiaeth Cernyw a'r palasau brenhinol). Ond er hynny mae tir ac eiddo'r Ystâd yn sylweddol iawn. Mae'n cynnwys[2]:
- Cestyll yng Nghymru gan gynnwys Rhuddlan, Caernarfon a Chonwy
- 55% o arfordir y DU, yn cynnwys rhan fawr o wely'r môr
- Hawl i'r aur ac arian naturiol a ddarganfyddir yn y ddaear
- 119,000 hectar (294,000 erw) o dir amaethyddol
- Sawl parc, yn cynnwys Parc Windsor a pharciau Regent a St James yn Llundain
- Eiddo a thai niferus, yn cynnwys Stryd Regent, Llundain
Cyfanswm gwerth y portffolio hwn yn 2011 oedd £7.3 biliwn (£7,300,000,000).[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Gwefan Ystad y Goron: FAQs". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-03. Cyrchwyd 2008-12-16.
- ↑ "Gwefan Ystad y Goron: Portfolio". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-31. Cyrchwyd 2008-12-16.
- ↑ "Gwefan Ystad y Goron: About Us". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-01. Cyrchwyd 2008-12-16.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2011-05-17 yn y Peiriant Wayback