Neidio i'r cynnwys

Y Cyngor Prydeinig

Oddi ar Wicipedia
Y Cyngor Prydeinig
Math o gyfrwngsefydliad rhyngwladol, sefydliad diwylliannol, sefydliad addysgiadol, sefydliad addysgol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1934 Edit this on Wikidata
Prif weithredwrCiarán Devane Edit this on Wikidata
SylfaenyddLlywodraeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolEuropean Film Promotion Edit this on Wikidata
Gweithwyr9,624, 10,596, 10,677, 10,963, 11,523 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auBritish Council Czech Republic Edit this on Wikidata
Ffurf gyfreithiolmenter sy'n eiddo i'r wladwriaeth, corff cyhoeddus anadrannol Edit this on Wikidata
PencadlysLlundain Edit this on Wikidata
Enw brodorolBritish Council Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.britishcouncil.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Corfforaeth gyhoeddus ac elusen gofrestredig a chanddi Siarter Frenhinol yw'r Cyngor Prydeinig (Saesneg: British Council) sydd yn hyrwyddo diwylliant y Deyrnas Unedig a'r iaith Saesneg mewn gwledydd tramor ac yn cynnig cydweithio rhyngwladol ym meysydd y celfyddydau, gwyddoniaeth, technoleg, ac addysg. Mae ganddo hefyd statws corff cyhoeddus di-adran gweithredol (NDPB) a noddir gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Lleolir ei bencadlys yn Sgwâr Trafalgar, Llundain. Mae'r sefydliad yn aelod o'r European Union National Institutes for Culture.

Sefydliadau hyrwyddo iaith a diwylliant ryngwladol eraill

[golygu | golygu cod]

Mae'r Cyngor Prydeinig yn debyg i sawl sefydliad gan genedl wladwriaethau eraill er mwyn hyrwyddo diwylliant, iaith a buddion eu gwledydd. Y Basgwyr (gydag Etxepare Euskal Institutua ) a'r Catalaniaid (gyda Institut Ramon Llull) yw'r unig ddau genedl ddi-wladwriaeth sydd â sefydliad mor soffistigedig a strategol. Hyd yma, nid yw Cymru wedi gweld yn dda i sefydlu asiantaeth debyg.

Asiantaethau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]