The Body Shop
Math o gyfrwng | siopau cadwyn |
---|---|
Rhan o | Natur-Aktien-Index |
Dechrau/Sefydlu | 1976 |
Perchennog | Natura Cosméticos S.A. |
Sylfaenydd | Anita Roddick |
Gweithwyr | 10,000, 22,000 |
Rhiant sefydliad | Natura Cosméticos S.A. |
Ffurf gyfreithiol | cwmni cyfyngedig a gyfyngwyd gan gyfranddaliadau |
Pencadlys | Littlehampton |
Enw brodorol | The Body Shop |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.thebodyshop.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Etholfraint cosmetigau ail-fwyaf y byd ydy The Body Shop International plc, a adnabyddir fel The Body Shop, mae ganddi 2,400 o siopau mewn 61 gwlad.[1] Lleolir pencadlys The Body Shop yn Littlehampton, Dwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr. Sefydlwyd gan y diweddar Fonesig Anita Roddick, mae erbyn rhyn yn rhan o grŵp corfforedig L'Oréal.
Hanes
[golygu | golygu cod]Atynodd agoriad siop fechain gyntaf Roddick, ar 26 Mawrth 1976, sylw cynnar gan bapur newydd Brighton, The Evening Argus, a argraffodd erthygl ynglŷn â chwynion trefnwr angladdau oedd â siop gerllaw am y defnydd o'r enw "The Body Shop."[2]
O'i lawnsiad ym 1976, tyfodd The Body Shop yn gyflym, ar raddfa o 50 y cant yn flynyddol. Rhoddwyd y stoc yn gronfa barod ar Unlisted Securities Market Llundain ym mis Ebrill 1984, gan agor am 95 ceiniog. Wedi ennill rhestriad cyflawr ar Gyfnewidfa Stoc Llundain, enillodd y cyfranddaliadau'r llysenw "The shares that defy gravity," gan i'w pris gynyddu gan dros 500%.
Ym mis Mawrth 2006, cytunodd The Body Shop i gael eu cymryd drosodd am £652.3 miliwn gan L'Oréal. Dywedir i Anita a Gordon Roddick wneud £130 miliwn o'r gwerthian.[3]
Yn ystod ei bywyd, adeiladodd sefydlydd y Body Shop, Anita Roddick, enw da am ddatblygiadau newydd, unplygrwydd a chyfrifoldeb cymdeithasol.
Yn dilyn ei marwolaeth yn 2007, gwnaeth y Prif Weinidog Gordon Brown deyrnged i'r Fonesig Anita, gan ei galw'n "un o wir arloeswyr y wlad" ac yn "ysbrydoliaeth" i fenywod busnes. Dywedodd: "Ymgyrchodd dros faterion gwyrdd am nifer o flynyddoedd cyn iddo ddod yn ffasiynol i wneud hynny ac felly ysbrydolodd miliynau i'r achos gan ddod a chynnyrch adnewyddadwy i'r farchnad eang. Bydd yn cael ei chofio nid yn unig fel ymgyrchydd mawr ond hefyd fel entrepreneur mawr."[4]
Trodd The Body Shop yn fwy a mwy tuag at ymgyrchoedd cymdeithasol ac amgylcheddol i hybu eu busnes. Ym 1977, lawnsiodd Roddick ymgyrch fyd eang i godi hunan-barch merched ac yn erbyn ystrydebu merched gan y wasg. Canolbwyntiodd ar fodelau a oedd yn afresymol o denau yn wyneb cynnydd bwlimia ac anorecsia. Daeth seren yr ymgyrch yn fyd enwog. Creodd y cwmni ddol yn nhebygrwydd Barbie ond gyda ffigwr cnawdol naturiol gyda gwallt coch ffrwythlon, a daeth gyda'r linell, "There are 3 billion women who don't look like supermodels and only 8 who do".[5] Ei henw oedd Ruby, dol plastig maint 16 byw, ond credodd Mattel ei bod yn edrych yn rhy debyg i Barbie. Datblygwyd yr ymgyrch gan Host Universal, a greodd ddol Ruby yn ei henaint yn ddiweddarach, ar gyfer Body Shop Awstralia. Erlynodd Mattel y cwmni'n ddiweddarach am dorri eu hawlfraint,[6] ac felly daeth yr ymgyrch i ben.
Bu ymryson ynglŷn â'r ffaith bod L'Oréal yn parhau i arbrofi ar anifeiliaid, sydd i'r gwrthwyneb â gwerthoedd craidd The Body Shop sydd yn erbyn arbrofi ar anifeiliaid. Mae L'Oréal wedi datgan nad yw'r cwmni wedi arbrofi ar anifeiliaid ers 1989. Bu sôn am foicotio gan gwsmeriaid yn fyd eang, ond gwnaeth Roddick gyfweliad am y testun gyda The Guardian,[7] gan ddweud ei bod yn gweld ei hun fel rhyw fath o geffyl trojan, fydd yn gallu dylanwadu penderfyniadau'r cwmni wrth werthu ei busnes iddynt. Byddai cyflenwyr a weithiodd gyda The Body Shop gynt yn cael cyfle i weithio gyda L'Oréal, a gan byddai Roddick yn gweithio gyda'r cwmni am 25 diwrnod y flwyddyn, byddai'n gallu mewnbynnu i benderfyniadau L'Oréal.
Actifyddiaeth cymdeithasol
[golygu | golygu cod]Yn ei dyddiau cynnar, ni hysbysebodd The Body Shop ei hun yn amlwg fel cwmni oedd yn ymrwymo i achosion cymdeithasol, ond dyma oedd i ddod yn brif strategaeth brandio yn ddiweddarach. Roeddent yn hybu eu cynnyrch fel "naturiol," ac yn ôl safon yr oes, roeddent yn naturiol. Ond, crewyd y lliwiau llachar a'r aroglau cryf gan gemegion, yn cynnwys petrogemegolion, a ddefnyddwyd hefyd yn y cadwolion. Daeth agwedd actifyddiaeth cymdeithasol y cwmni i'r amlwg ym 1986 pan gynigiodd The Body Shop gynghrair gyda Greenpeace yn y Deyrnas Unedig i helpu eu achos i achub y morfil. Dechreuodd Roddick lansio hyrwyddiadau eraill ynghlwm ag achosion cymdeithasol, a denodd ddiddordeb y cyhoedd a'r wasg. Arddangosodd The Body Shop bosteri ar ffenestri eu siopau'n aml yn noddi digwyddiadau elusennol a chymdeithasol lleol. Dros y cyfnod hwn, datblygodd Roddick yn feirniad llawn-amser o fusnes yn gyffredinol, a'r diwydiant cosmetigau yn arbennig, gan feirniadu beth a ystyriai i fod yn ansensitifrwydd amgylcheddol y diwydiant a barnau traddodiadol am harddwch. Anelodd tuag at newid yr ymarferion corfforaethol safonol.[8] Dywedodd Roddick fod ymgyrchu a busnes da hefyd ynglŷn â cynnig atebion diddim ond gwrthwynebu ymarferion dinistriol chamdriniaeth hawliau dynol.[9]
Sefydlodd The Body Shop archwiliadau cymdeithasol arloesol yng nghanol yr 1990au, ac mae'n hybu'r gwerthoedd yn gyson[10][11] megis Masnach Cymunedol,[12] gan adlewyrchu eu ymarferion addunedig o fasnachu gyda cymunedau mewn angen a rhoi pris teg iddynt am gynhwysion naturiol a chrefftau llaw. Y weithgaredd Masnach Cymunedol cyntaf oedd ym 1987, pan brynwyd "footsie roller" gan gymuned fechain yn Ne India (a adnabyddir heddiw fel Teddy Exports), mae'r gymuned hon yn dal yn weithgar fel cyflenwr Masnach Cymunedol.[13] Ers hynny, mae'r The Body Shop wedi canfod nifer o bartneriaid masnach mewn dros 20 gwlad sy'n aml yn cael eu hesgeuluso gan gymdeithas lleol a byd eang.
Polisi ar arbrofi ar anifeiliaid
[golygu | golygu cod]Mae arwyddion yn siopau The Body Shop yn dweud, "Our products are not tested on animals, never have been and never will be."[14] Mae The Body Shop hefyd yn cefnogi datblygiadau ffurfiau amgen o arbrofi i arbrofi ar anifeiliaid. Ond, ers i'r etholfraint fod yn eiddo i L'Oréal - cwmni sy'n parhau i gefnogi ac ariannu arbrofi ar anifeiliaid - mae hygrededd y datganiad hwn yn amheus.
Cynnyrch
[golygu | golygu cod]Mae The Body Shop yn cario ystod eang o gynnyrch ar gyfer y corff, wyneb, gwallt a'r cartref. Nid yw The Body Shop yn honni fod eu cynnyrch yn hollol naturiol, ond yn hytrach eu bod wedi eu hysbrydoli gan natur.
The Body Shop Foundation
[golygu | golygu cod]Sefydlodd Roddicks The Body Shop Foundation, sy'n cefnogi prosiectau arloesol fyd eang ym maesydd hawliau dynol a sifil ac amddiffyniaeth yr amgylchedd ac anifeiliaid. Dyma yw ymddiriedolaeth elusennol The Body Shop International plc sy'n cael ei ariannu gan roddion blynyddol o'r cwmni a thrwy amryw o fentrau codi arian.[15]
Ffurfiwyd The Body Shop Foundation ym 1990 er mwyn cydgyfnerthu'r holl roddion elusennol a wnaethpwyd gan y cwmni. Hyd yn hyn, mae The Body Shop Foundation wedi rhoi dros £9.5 miliwn mewn grantiau. Mae'n aml yn rhoi rhoddion hynaws i amryw o brosiectau a chyfundrefnau megis Children On The Edge (COTE).[16]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ About us: Our Company. The Body Shop.
- ↑ Anita Roddick (The Body Shop). Growing Business (22 Medi 2003).
- ↑ L'Oreal buys Body Shop for £652m. The Independent (17 Mawrth 2006).
- ↑ Dame Anita Roddick dies aged 64. BBC (10 Medi 2007).
- ↑ Stuart Elliott (26 Awst 1997). The Body Shop's campaign offers reality, not miracles.. New York Times.
- ↑ Body Image. More than just dolls?. John Riviello.
- ↑ Claudia Cahalane (3 Tachwedd 2006). Interview: Anita Roddick, Body Shop founder. The Guardian.
- ↑ Human Rights Library: The Body Shop, Inc.. Prifysgol Minnesota.
- ↑ About Us: Nature's Way to Beautiful. The Body Shop.
- ↑ The Body Shop: Our Values. Adalwyd ar 2006-04-30.
- ↑ The Body Shop: Values Report. Adalwyd ar 2006-04-30.
- ↑ The Body Shop: Values Report, Community Trade Principles. Adalwyd ar 2006-04-30.
- ↑ Values & Campaigns - Our Values - Support Community Trade. The Body Shop.
- ↑ The Body Shop and animal testing. Adalwyd ar 2008-09-05.
- ↑ The Body Shop Foundation.
- ↑ Children On The Edge.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol rhyngwladol The Body Shop
- "Body Shop Scrutinized" from Investing For A Better World, Medi 1994 Archifwyd 2007-10-28 yn y Peiriant Wayback
- Neoliberal Ecopolitics and Indigenous Peoples: The Kayapo, The “Rainforest Harvest,” and The Body Shop Archifwyd 2008-08-29 yn y Peiriant Wayback
- Jon Entine's investigatory articles and other investigations of The Body Shop
- The Myth of the Green Queen, National Post (Canada), 21 Medi 2007[dolen farw]