Senedd-dy Canada
Math | senate, unelected legislative house |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Senedd Canada |
Gwlad | Canada |
Mae Senedd-dy Canada (Ffrangeg: Sénat du Canada, Saesneg: Senate of Canada) yn elfen o Senedd Canada, ynghyd â Tŷ'r Cyffredin a'r Frenhines (a gynrychiolir gan y Llywodraethwr Cyffredinol). Modelir y Senedd-dy ar Dŷ'r Arglwyddi Prydain ac y mae'n cynnwys 105 o aelodau a benodir gan y Llywodraethwr Cyffredinol ar gyngor y Prif Weinidog. Neilltuir seddau ar sail ranbarthol: pedair rhanbarth—a ddifinir fel Ontario, Cwebéc, y taleithiau Morol a'r taleithiau Gorllewinol—pob un yn derbyn 24 sedd, gyda chyfrannu'r wlad sy'n weddill—y Tir Newydd a Labradôr a'r tair tiriogaeth ogleddol—yn derbyn y 9 sedd sy'n weddill. Gall seneddwyr wasanaethu nes y maent yn cyrraedd 75 mlwydd oed.
Y Senedd-dy yw tŷ uchaf y Senedd a'r Tŷ'r Cyffredin yw'r tŷ isaf. Ni awgryma hyn, fodd bynnag, fod y Senedd-dy yn fwy pwerus na'r Tŷ'r Cyffredin, dim ond y mae swyddogaethau ei haelodau a swyddogion yn uwch nag aelodau a swyddogion y Tŷ'r Cyffredin yn nhrefn yr hierarchaeth at ddibenion y protocol. Fel mater o arfer, y Tŷ'r Cyffredin yw'r brif siambr. Mae cymeradwyaeth y ddwy siambr yn angenrheidiol ar gyfer deddfwriaeth, ac, felly, y gall y Senedd-dy wrthod biliau a basiwyd yn Nhŷ'r Cyffredin.