Rosemarie Frankland
Rosemarie Frankland | |
---|---|
Ganwyd | 1 Chwefror 1943 Wrecsam |
Bu farw | 2 Rhagfyr 2000 o gorddos o gyffuriau Marina del Rey |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, model, ymgeisydd mewn cystadleuaeth modelu |
Priod | Warren Entner |
Cystadleuydd mewn pasiantau harddwch o Gymru a enillodd y teitl Miss World yn 1961 oedd Rosemarie Frankland (1 Chwefror 1943 – 2 Rhagfyr 2000).
Ganwyd Frankland yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, yn 1943, ond symudodd ei theulu i Swydd Gaerhirfryn yn Lloegr pan oedd yn blentyn. Cymerodd ran mewn sawl pasiant harddwch gan ennill y teitl Miss Wales. Yn 1961, yn Llundain, hi oedd y ferch gyntaf o wledydd Prydain (fel Miss United Kingdom) i ennill y gystadleuaeth Miss World. Daeth yn ail yn y gystadleuaeth Miss Universe yn 1961 hefyd. Yr unig Gymraes arall i ennill y ddau deitl oedd Helen Morgan a fu hefyd yn Miss Wales a Miss United Kingdom, ond ymddeolodd hi fel Miss World bedwar diwrnod ar ôl cael ei choroni.
Aeth i fyw yn Los Angeles, UDA. Bu farw yn 57 oed yn Rhagfyr 2000 yn Marina del Rey, ger Los Angeles. Mae amgylchiadau ei marwolaeth yn aneglur, ond dioddefai o iselder meddwl trwy gydol ei hoes.[1] Ar ôl yr angladd, hedfanwyd ei lluwch yn ôl i Gymru a chawsant eu claddu ym Mynwent Rhosllannerchrugog yn Chwefror 2001.