Robert John Dickson Burnie
Robert John Dickson Burnie | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ebrill 1842 Dawlish |
Bu farw | 6 Mawrth 1908 Sgeti |
Dinasyddiaeth | Saeson |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Roedd Robert John Dickson Burnie (8 Ebrill 1842 – 6 Mawrth 1908) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Tref Abertawe o 1892 i 1895[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Burnie yn Dawlish, Dyfnaint, yn fab i John Dickson Burnie, adeiladwr a chontractwr, ac Elizabeth ei wraig.
Priododd Georgina Elliot ym 1866 a bu iddynt bedwar mab a dwy ferch.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Wedi ymadael a'r ysgol ar ôl dderbyn addysg elfennol derbyniodd Burnie swydd fel clerc yn swyddfa The South Devon and Cornwall Railway Company. Ym 1864 cafodd ei ddyrchafu i swydd is ysgrifennydd y Bristol and South Wales Wagon Company a dwy flynedd yn ddiweddarach cafodd ei ddyrchafu i swydd Ysgrifennydd Cwmni Rheilffordd Cheltenham ac Abertawe, pan gaeodd swyddfa'r cwmni yn Cheltenham ym 1869 symudodd Burnie i Abertawe lle fu'n gweithio fel pennaeth y cwmni hyd ei farwolaeth.
Gyrfa wleidyddol
[golygu | golygu cod]Ym 1877 cafodd Burnie ei ethol dros ward St Thomas ar Gyngor Abertawe, gwasanaethodd fel cadeirydd y pwyllgor cyllid a chadeirydd ymddiriedolaeth yr harbwr. Ym 1883 gwasanaethodd fel maer tref Abertawe.[2]
Ychydig cyn etholiad cyffredinol 1892 bu farw AS Ryddfrydol Abertawe Lewis Llewelyn Dillwyn, dewiswyd Burnie fel yr ymgeisydd brys i sefyll yn ei le[3]. Llwyddodd Burnie i gadw'r sedd i'r achos Rhyddfrydol ond collodd y sedd i'r Ceidwadwr John Talbot Dillwyn Llewellyn yn etholiad 1895. Cafodd ei ddewis yn ymgeisydd ar gyfer etholiad cyffredinol 1900 ond tynnodd allan o'r gystadleuaeth yn bennaf oherwydd ei wrthwynebiad i Ryfel y Boer[4].
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref, Bryncoed, Sgeti a rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym mynwent Eglwys Y Cocyd[5]. Bu farw Mrs Burnie ym 1913[6].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "BURIAL OF MR R D BURNIE - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1908-03-14. Cyrchwyd 2015-12-01.
- ↑ "THE RETIREMENT OF COUNCILLOR R D BURNIE - The Cambrian". T. Jenkins. 1889-10-18. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "Olynydd Mr Dillwyn - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1892-06-30. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "The Late Mr R D Burnie - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1908-03-14. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "THE LATE MR R D BURNIE - The Cambrian". T. Jenkins. 1908-03-13. Cyrchwyd 2015-12-02.
- ↑ "LATE MRS R D BURNIE - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-06-02. Cyrchwyd 2015-12-02.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Lewis Llewelyn Dillwyn |
Aelod Seneddol Tref Abertawe 1892 – 1895 |
Olynydd: John Talbot Dillwyn Llewellyn |