Rhestr o Siroedd Michigan
Dyma restr o'r 83 rhanbarth gweinyddol sy'n cael eu hadnabod wrth yr enw County yn Nhalaith Michigan yn yr Unol Daleithiau, yn nhrefn yr wyddor:[1]
Rhestr
[golygu | golygu cod]FIPS
[golygu | golygu cod]Mae'r cod Safon Prosesu Gwybodaeth Ffederal (FIPS), a ddefnyddir gan lywodraeth yr Unol Daleithiau i roi cod hunaniaeth unigryw i daleithiau a siroedd y wlad, yn cael ei ddarparu gyda phob cofnod yn y tabl. Cod Michigan yw 26, a fyddai, o'i gyfuno ag unrhyw god sirol, yn cael ei ysgrifennu fel 26XXX. Mae'r cod FIPS ar gyfer pob sir yn cysylltu â data cyfrifiad ar gyfer y sir honno. [2]
Sir |
Cod FIPS [3] | Sedd |
Sefydlu |
Tarddiad |
Etymoloeg |
Poblogaeth |
Maint |
Map |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Alcona County | 001 | Harrisville | 1840 (datgan ffiniau) 1869 (wedi'i threfnu) |
O diriogaeth heb ei threfnu. Ei henw oedd Negwegon County hyd 1843 | Enw ffug brodorol a fathwyd gan Henry Schoolcraft | 10,942 | ( 4,639 km2) |
1,791 sq mi|
Alger County | 003 | Munising | 1885 | O ran o Schoolcraft County | Russell A. Alger, (1836-1907): Llywodraethwr a gwleidydd cenedlaethol |
9,601 | ( 13,077 km2) |
5,049 sq mi|
Allegan County | 005 | Allegan | 1831 (datgan ffiniau) 1835 (wedi'i threfnu) |
O ran o Barry County, a thiriogaeth heb ei threfnu | Enw ffug brodorol a fathwyd gan Henry Schoolcraft | 111,408 | ( 4,747 km2) |
1,833 sq mi|
Alpena County | 007 | Alpena | 1840 (datgan ffiniau) 1857 (wedi'i threfnu) |
O ran o Mackinac County, a thiriogaeth heb ei threfnu. Ei henw oedd Anamickee County hyd 1843. | Enw ffug brodorol a fathwyd gan Henry Schoolcraft | 30,000 | ( 4,390 km2) |
1,695 sq mi|
Antrim County | 009 | Bellaire | 1840 | O ran o Mackinac County. Ei henw oedd Meegisee County hyd 1843 | O Swydd Antrim, bellach yn rhan o Ogledd Iwerddon | 23,598 | ( 1,559 km2) |
602 sq mi|
Arenac County | 011 | Standish | 1831 | O diriogaeth heb ei threfnu; atodwyd i Bay County ym 1857, ond fe'i hadferwyd ym 1883 | Enw ffug brodorol a fathwyd gan Henry Schoolcraft | 15,899 | ( 1,764 km2) |
681 sq mi|
Baraga County | 013 | L'Anse | 1875 | O ran o Houghton County | Frederic Baraga (1797-1868): Cenhadwr Catholig ac esgob cyntaf Esgobaeth Gatholig Sault Sainte Marie, Michigan | 8,860 | ( 2,769 km2) |
1,069 sq mi|
Barry County | 015 | Hastings | 1829 | O diriogaeth heb ei threfnu | William T. Barry (1784-1835): Postfeistr Cyffredinol yr UD yng Ngweinyddiaeth yr Arlywydd Andrew Jackson | 59,173 | ( 1,494 km2) |
577 sq mi|
Bay County | 017 | Bay City | 1857 | O rannau o Arenac, Midland, a Saginaw Counties | Bae Saginaw | 107,771 | ( 1,634 km2) |
631 sq mi|
Benzie County | 019 | Beulah | 1863 | O ran o Leelenau County | Enw Ffrengig Afon Betsie: (rivière aux) Bec-scies, "(Afon) yr hwyaid pig llifio" (Mergus serrator) | 17,525 | ( 2,227 km2) |
860 sq mi|
Berrien County | 021 | St. Joseph | 1829 | O diriogaeth heb ei threfnu | John M. Berrien (1781-1856): Twrnai Cyffredinol yr UD yng Ngweinyddiaeth yr Arlywydd Andrew Jackson | 156,813 | ( 4,095 km2) |
1,581 sq mi|
Branch County | 023 | Coldwater | 1829 | O diriogaeth heb ei threfnu | John Branch (1782-1863): Ysgrifennydd y Llynges yng Ngweinyddiaeth yr Arlywydd Andrew Jackson | 45,248 | ( 1,344 km2) |
519 sq mi|
Calhoun County | 025 | Marshall | 1829 | O diriogaeth heb ei threfnu | John C. Calhoun (1782-1850): Is-lywydd yr Unol Daleithiau yng Ngweinyddiaeth yr Arlywydd Andrew Jackson | 136,146 | ( 1,860 km2) |
718 sq mi|
Cass County | 027 | Cassopolis | 1829 | O diriogaeth heb ei threfnu | Lewis Cass (1782-1866): Ysgrifennydd Rhyfel yr Unol Daleithiau yng Ngweinyddiaeth yr Arlywydd Andrew Jackson | 52,293 | ( 1,316 km2) |
508 sq mi|
Charlevoix County | 029 | Charlevoix | 1869 | O rannau o Antrim, Emmet ac Otsego Counties | Pierre François Xavier de Charlevoix (1682-1761): Teithiwr Jeswit ac hanesydd Ffrainc Newydd | 25,949 | ( 3,603 km2) |
1,391 sq mi|
Cheboygan County | 031 | Cheboygan | 1840 | O ran o Mackinac County | Afon Cheboygan | 26,152 | ( 2,292 km2) |
885 sq mi|
Chippewa County | 033 | Sault Ste. Marie | 1827 | O ran o Mackinac County | Ojibwa Llwyth o Americaniaid Brodorol, a oedd hefyd yn cael eu hadnabod fel y Chippewa | 38,520 | ( 6,988 km2) |
2,698 sq mi|
Clare County | 035 | Harrison | 1840 | O ran o Mackinac County, a thiriogaeth heb ei threfnu; ei henw oedd Kaykakee County hyd 1843 | Swydd Clare, Iwerddon | 30,926 | ( 1,489 km2) |
575 sq mi|
Clinton County | 037 | St. Johns | 1831 | O diriogaeth heb ei threfnu | DeWitt Clinton (1769-1828): Llywodraethwr Efrog Newydd. | 75,382 | ( 1,489 km2) |
575 sq mi|
Crawford County | 039 | Grayling | 1840 | O ran o Mackinac County a thiriogaeth heb ei threfnu. Ei henw oedd Shawano County hyd 1843. | William Crawford, (1732-82), Cyrnol yn Rhyfel Annibyniaeth America a syrfëwr y gorllewin | 14,074 | ( 1,458 km2) |
563 sq mi|
Delta County | 041 | Escanaba | 1843 | O ran o Mackinac County a thiriogaeth heb ei threfnu. | Y llythyren delta o'r alphabet Groeg (Δ), gan gyfeirio at siâp trionglog y sir wreiddiol, a oedd yn cynnwys rhannau o siroedd Menominee, Dickinson, Iron a Marquette | 37,069 | ( 5,159 km2) |
1,992 sq mi|
Dickinson County | 043 | Iron Mountain | 1891 | O rannau o Iron County, Marquette County a Menominee County. | Donald M. Dickinson (1846-1917): Postfeistr Cyffredinol yng Ngweinyddiaeth yr arlywydd Grover Cleveland | 26,168 | ( 2,012 km2) |
777 sq mi|
Eaton County | 045 | Charlotte | 1829 | O diriogaeth heb ei threfnu. | John Eaton (1790-1856): Ysgrifennydd Rhyfel yr Unol Daleithiau yng Ngweinyddiaeth yr Arlywydd Andrew Jackson | 107,759 | ( 1,500 km2) |
579 sq mi|
Emmet County | 047 | Petoskey | 1840 | O ran o Mackinac County. Ei henw oedd Tonegadana County hyd 1843. | Robert Emmet (1778-1803): Cenedlaetholwr Gwyddelig ac arweinydd gwrthryfelwyr | 32,694 | ( 2,284 km2) |
882 sq mi|
Genesee County | 049 | Flint | 1835 | O rannau o Lapeer County, Saginaw County a Shiawassee County. | O air yn iaith llwyth brodorol y Seneca , "je-nis-hi-yeh," sy'n golygu "cwm hardd": wedi'i enwi ar ôl cwm gorllewinol talaith Efrog Newydd y daeth llawer o ymsefydlwyr ohono | 425,790 | ( 1,681 km2) |
649 sq mi|
Gladwin County | 051 | Gladwin | 1831 | O diriogaeth heb ei threfnu. | Henry Gladwin, cadlywydd Prydain yn Detroit yn ystod y gwarchae gan Pontiac pennaeth llwyth yr Ottawa ym 1763-64. | 25,692 | ( 1,336 km2) |
516 sq mi|
Gogebic County | 053 | Bessemer | 1887 | O ran o Ontonagon County. | Mae'n debyg, o'r gair yn iaith y Chippewa brodorol bic sef craig. | 16,427 | ( 3,823 km2) |
1,476 sq mi|
Grand Traverse County | 055 | Traverse City | 1851 | O ran o Omeena County. | O'r Ffrengig grande traverse ("croesfan hir"), a roddwyd gyntaf i Fae Traverse gan fordeithwyr Ffrengig. | 86,986 | ( 1,557 km2) |
601 sq mi|
Gratiot County | 057 | Ithaca | 1831 | O diriogaeth heb ei threfnu. | Adeiladodd y Capten Charles Gratiot (1788-1855), Fort Gratiot ar safle presennol Port Huron | 42,476 | ( 1,481 km2) |
572 sq mi|
Hillsdale County | 059 | Hillsdale | 1829 | O diriogaeth heb ei threfnu. | O'r geiriau Saesneg Hill (bryn) a dale (dyffryn).[4] | 46,688 | ( 1,572 km2) |
607 sq mi|
Houghton County | 061 | Houghton | 1845 | O rannau o Marquette County a Ontonagon County. | Dr Douglass Houghton (1809-1845), daearegwr taleithiol cyntaf Michigan, meddyg a maer Detroit (1842-1843) | 36,628 | ( 3,890 km2) |
1,502 sq mi|
Huron County | 063 | Bad Axe | 1840 | O ran o Sanilac County. | Llyn Huron, a enwodd y Ffrancwyr yn des Hurons ar ôl y llwyth Wyandot yr Hurons. | 33,118 | ( 5,532 km2) |
2,136 sq mi|
Ingham County | 065 | Mason | 1829 (datgan ffiniau) 1838 (wedi'i threfnu) |
O rannau o Shiawassee County, Washtenaw County a thiriogaeth heb ei threfnu. | Samuel D. Ingham (1779-1860), Ysgrifennydd y Trysorlys yng Ngweinyddiaeth yr Arlywydd Andrew Jackson | 280,895 | ( 1,453 km2) |
561 sq mi|
Ionia County | 067 | Ionia | 1831 | O ran o Mackinac County a thiriogaeth heb ei threfnu. | Talaith yng Ngwlad Roeg hynafol | 63,905 | ( 1,502 km2) |
580 sq mi|
Iosco County | 069 | Tawas City | 1840 | O diriogaeth heb ei threfnu. Ei henw oedd Kanotin County hyd 1843. | Enw ffug brodorol a fathwyd gan Henry Schoolcraft | 25,887 | ( 4,898 km2) |
1,891 sq mi|
Iron County | 071 | Crystal Falls | 1885 | O rannau o Marquette County a Menominee County. | Ar ôl y dyddodion a mwyngloddiau haearn daethpwyd o hyd iddynt yn y sir | 11,817 | ( 3,136 km2) |
1,211 sq mi|
Isabella County | 073 | Mt. Pleasant | 1831 | O ran o Mackinac County a thiriogaeth heb ei threfnu. | Isabella I, brenhines Castilla (1451-1504) Noddwr mordeithiau Christopher Columbus | 70,311 | ( 1,497 km2) |
578 sq mi|
Jackson County | 075 | Jackson | 1829 (datgan ffiniau) 1832 (trefnwyd) |
O ran o Washtenaw County a thiriogaeth heb ei threfnu. | Andrew Jackson (1767-1845), 7fed Arlywydd yr Unol Daleithiau yr Arlywydd pan dderbyniwyd Michigan i'r Undeb | 160,248 | ( 1,875 km2) |
724 sq mi|
Kalamazoo County | 077 | Kalamazoo | 1829 | O diriogaeth heb ei threfnu. | Ar ôl Afon Kalamazoo. | 250,331 | ( 1,502 km2) |
580 sq mi|
Kalkaska County | 079 | Kalkaska | 1840 | O ran o Mackinac County. Ei henw oedd Wabassee County hyd 1843. | Enw ffug brodorol a fathwyd gan Henry Schoolcraft | 17,153 | ( 1,479 km2) |
571 sq mi|
Kent County | 081 | Grand Rapids | 1831 | O ran o Mackinac County a thiriogaeth heb ei threfnu. | Cyfreithiwr o dalaith Efrog Newydd, James Kent, a gynrychiolodd Diriogaeth Michigan yn ei anghydfod ag Ohio dros Lain Toledo. | 602,622 | ( 2,258 km2) |
872 sq mi|
Keweenaw County | 083 | Eagle River | 1861 | O ran o Houghton County. | Gair yn iaith yr Ojibwe d gakiiwe-wewaning sy'n golygu tâl cludiant | 2,156 | ( 15,452 km2) |
5,966 sq mi|
Lake County | 085 | Baldwin | 1840 | O ran o Mackinac County. Ei henw oedd Aischum County hyd 1843. | Mae ganddo sawl llyn bach ac mae'n gorwedd ger Llyn Michigan | 11,539 | ( 1,489 km2) |
575 sq mi|
Lapeer County | 087 | Lapeer | 1822 | O rannau o Oakland County a St. Clair County. | Americaniad o'r la pierre Ffrengig, sy'n golygu "y graig" | 88,319 | ( 1,717 km2) |
663 sq mi|
Leelanau County | 089 | Suttons Bay Township | 1840 | O ran o Mackinac County. | Enw ffug brodorol a fathwyd gan Henry Schoolcraft | 21,708 | ( 6,558 km2) |
2,532 sq mi|
Lenawee County | 091 | Adrian | 1822 | O ran o Monroe County. | A Enw ffug brodorol a fathwyd gan Henry Schoolcraft | 99,892 | ( 1,971 km2) |
761 sq mi|
Livingston County | 093 | Howell | 1833 (datgan ffiniau) 1836 (wedi'i threfnu) |
O rannau o Shiawassee County a Washtenaw County. | Edward Livingston (1764-1836): Ysgrifennydd Gwladol UDA o dan arlywyddiaeth Andrew Jackson | 180,967 | ( 1,515 km2) |
585 sq mi|
Luce County | 095 | Newberry | 1887 | O rannau o Chippewa County a Mackinac County. | Ar ôl llywodraethwr Michigan, Cyrus G. Luce | 6,631 | ( 4,952 km2) |
1,912 sq mi|
Mackinac County | 097 | St. Ignace | 1818 | O ran o Wayne County. Ei henw oedd Michilimackinac County hyd 1837. | Michilimackinac yn wreiddiol, y credir ei fod yn ddehongliad Ffrengig o'r enw Americanaidd Brodorol ar Ynys Mackinac, sy'n golygu "crwban mawr" | 11,113 | ( 5,442 km2) |
2,101 sq mi|
Macomb County | 099 | Mt. Clemens | 1818 | O ran o Wayne County. | Enwyd ar ôl Cadfridog ym myddin yr Unol Daleithiau, Alexander Macomb, swyddog nodedig yn Rhyfel 1812 | 840,978 | ( 1,476 km2) |
570 sq mi|
Manistee County | 101 | Manistee | 1840 | O ran o Mackinac County. | NWedi'i enwi ar ôl Afon Manistee , sydd yn ei dro o'r enw Ojibwe , ministigweyaa sy'n golygu "(afon) y mae ynysoedd yn ei haber" | 24,733 | ( 3,318 km2) |
1,281 sq mi|
Marquette County | 103 | Marquette | 1843 | O rannau o Chippewa County a Mackinac County. | Enwyd ar ôl cenhadwr Jeswit Ffrengig, Jacques Marquette | 67,077 | ( 8,871 km2) |
3,425 sq mi|
Mason County | 105 | Ludington | 1840 | O ran o Mackinac County. Ei henw oedd Notipekago County hyd 1843. | Enwyd ôl Llywodraethwr Michigan Stevens T. Mason | 28,705 | ( 3,217 km2) |
1,242 sq mi|
Mecosta County | 107 | Big Rapids | 1840 | O rannau o Mackinac County a Oceana County. | Wedi'i enwi ar ôl Mecosta, arweinydd Americanaidd Brodorol | 42,798 | ( 1,479 km2) |
571 sq mi|
Menominee County | 109 | Menominee | 1861 | O ran o Delta County. Ei henw oedd Bleeker County hyd 1863. | Wedi'i enwi ar ôl y llwyth Brodorol, y Menominee | 24,029 | ( 3,465 km2) |
1,338 sq mi|
Midland County | 111 | Midland | 1831 | O ran o Saginaw County a thiriogaeth heb ei threfnu. | Wedi'i leoli ger canol daearyddol y Penrhyn Isaf | 83,629 | ( 1,368 km2) |
528 sq mi|
Missaukee County | 113 | Lake City | 1840 | O ran o Mackinac County. | Enwyd ar ôl Missaukee, arweinydd llwyth yr Ottawa a lofnododd gytuniadau grant tir ym 1831 a 1833 | 14,849 | ( 1,487 km2) |
574 sq mi|
Monroe County | 115 | Monroe | 1817 | O ran o Wayne County. | Named Wedi'i enwi ar ôl James Monroe, pumed Arlywydd yr Unol Daleithiau | 152,021 | ( 1,761 km2) |
680 sq mi|
Montcalm County | 117 | Stanton | 1831 | O ran o Mackinac County a thiriogaeth heb ei threfnu. | Enwyd ar ôl Louis-Joseph de Montcalm, cadlywydd milwrol Ffrengig yn Québec | 63,342 | ( 1,867 km2) |
721 sq mi|
Montmorency County | 119 | Atlanta | 1840 | O ran o Mackinac County a thiriogaeth heb ei threfnu. Ei henw oedd Cheonoquet County hyd 1843. | Teulu Montmorency, dylanwadol yn hanes Canada Ffrengig | 9,765 | ( 1,456 km2) |
562 sq mi|
Muskegon County | 121 | Muskegon | 1859 | O rannau o Oceana County a Ottawa County. | Ar ôl Afon Muskegon sy'n rhedeg trwy'r sir, o'r gair Ojibwa / Chippewa mashkig sy'n golygu "cors" neu "wlypdir." | 172,188 | ( 3,779 km2) |
1,459 sq mi|
Newaygo County | 123 | White Cloud | 1840 | O rannau o Mackinac County a Oceana County. | Enwyd ar ôl arweinydd llwyth y Chippewa a arwyddodd Gytundeb Saginaw, 1819[5] | 48,460 | ( 2,230 km2) |
861 sq mi|
Oakland County | 125 | Pontiac | 1819 (datgan ffiniau) 1820 (wedi'i threfnu) |
O ran o Macomb County. | Or Saesneg "oak" (derwen) | 1,202,362 | ( 2,352 km2) |
908 sq mi|
Oceana County | 127 | Hart | 1831 | O ran o Mackinac County. | Mae'r sir yn ffinio â Llyn Michigan | 26,570 | ( 3,385 km2) |
1,307 sq mi|
Ogemaw County | 129 | West Branch | 1840 | O diriogaeth heb ei threfnu. Annexed to Iosco County in 1867 aac adferwyd ym 1873. | The Ojibwe word ogimaa, meaning "chief" or "leader" | 21,699 | ( 1,489 km2) |
575 sq mi|
Ontonagon County | 131 | Ontonagon | 1843 | O rannau o Chippewa County a Mackinac County. | Enwyd ar ôl Afon Ontonagon. Ystyr y gair Ojibwa onagon yw "dysgl" neu "bowlen." | 6,780 | ( 9,689 km2) |
3,741 sq mi|
Osceola County | 133 | Reed City | 1840 | O ran o Mackinac County. Ei henw oedd Unwattin County hyd 1843. | Osceola (1804-1838), pennaeth llwyth y Seminole | 23,528 | ( 1,484 km2) |
573 sq mi|
Oscoda County | 135 | Mio | 1840 | O ran o Mackinac County a thiriogaeth heb ei threfnu. | Enw ffug brodorol a fathwyd gan Henry Schoolcraft | 8,640 | ( 1,481 km2) |
572 sq mi|
Otsego County | 137 | Gaylord | 1840 | O ran o Mackinac County. Ei henw oedd Okkudo County hyd 1843. | Enwyd ar ôl Otsego County, Efrog Newydd | 24,164 | ( 1,362 km2) |
526 sq mi|
Ottawa County | 139 | Grand Haven | 1831 | O ran o Mackinac County a thiriogaeth heb ei threfnu. | Wedi'i enwi ar ôl yr Ottawa, llwyth brodorol . | 263,801 | ( 4,227 km2) |
1,632 sq mi|
Presque Isle County | 141 | Rogers City | 1840 | O ran o Mackinac County. | Deilliad o'r ymadrodd Ffrangeg am "benrhyn", | 13,376 | ( 6,664 km2) |
2,573 sq mi|
Roscommon County | 143 | Roscommon | 1840 | O ran o Mackinac County a thiriogaeth heb ei threfnu. Ei henw oedd Mikenauk County hyd 1843. | Swydd Roscommon, Iwerddon | 24,449 | ( 1,502 km2) |
580 sq mi|
Saginaw County | 145 | Saginaw | 1822 | O ran o Oakland County. | A Cyfeiriad at yr Afon Saginaw a Bae Saginaw, sy'n deillio o'r term Ojibwe am "ger yr aber" [6] | 200,169 | ( 2,113 km2) |
816 sq mi|
St. Clair County | 147 | Port Huron | 1820 | O ran o Macomb County. | Wedi'i enwi ar gyfer naill ai Arthur St. Clair, llywodraethwr cyntaf Tiriogaeth y Gogledd-orllewin, neu'r Santes Clair (darganfuwyd Llyn St Clair ar ddiwrnod ei gŵyl mabsant). | 163,040 | ( 2,168 km2) |
837 sq mi|
St. Joseph County | 149 | Centreville | 1829 | O diriogaeth heb ei threfnu. | Mae'r Afon St Joseph, yn llifo drwy'r sir. | 61,295 | ( 1,349 km2) |
521 sq mi|
Sanilac County | 151 | Sandusky | 1822 | O ran o St. Clair County. | Ar ôl Sanilac, pennaeth llwyth y Wyandotte | 43,114 | ( 4,118 km2) |
1,590 sq mi|
Schoolcraft County | 153 | Manistique | 1843 | O rannau o Chippewa County a Mackinac County. | Henry Rowe Schoolcraft, (1793-1864): daearyddwr
Americanaidd ac Uwch-arolygydd Materion Indiaid ym Michigan. Bathwr nifer o enwau ffug brodorol siroedd y dalaith |
8,485 | ( 4,880 km2) |
1,884 sq mi|
Shiawassee County | 155 | Corunna | 1822 | O rannau o Oakland County a St. Clair County. | NAr ôl Afon Shiawassee , sy'n golygu afon sy'n troelli[7] | 70,648 | ( 1,401 km2) |
541 sq mi|
Tuscola County | 157 | Caro | 1840 | O ran o Sanilac County. | Enw ffug brodorol a fathwyd gan Henry Schoolcraft | 55,729 | ( 2,367 km2) |
914 sq mi|
Van Buren County | 159 | Paw Paw | 1829 | O diriogaeth heb ei threfnu. | Martin Van Buren (1782-1862): Ysgrifennydd Gwladol yng Ngweinyddiaeth Jackson, yn ddiweddarach yn Is-lywydd ac yn wythfed Arlywydd yr Unol Daleithiau | 76,258 | ( 2,823 km2) |
1,090 sq mi|
Washtenaw County | 161 | Ann Arbor | 1822 (datgan ffiniau) 1826 (trefnwyd) |
O rannau o Oakland County a Wayne County | O'r enw Americanaidd Brodorol am y Grand River , O-wash-ta-nong ("dŵr pell"), bu ei blaenddyfroedd o fewn ffiniau'r sir | 344,791 | ( 1,873 km2) |
723 sq mi|
Wayne County | 163 | Detroit | 1815 | Allan o'r holl diroedd yn Nhiriogaeth Michigan a oedd wedi cael eu cadw gan Americanwyr Brodorol trwy Gytundeb Detroit, 1807. | Er anrhydedd i "Mad" Anthony Wayne, (1745-1796): cadfridog a gwladweinydd
Byddin yr Unol Daleithiau |
1,820,584 | ( 1,740 km2) |
672 sq mi|
Wexford County | 165 | Cadillac | 1840 | O ran o Mackinac County. Ei henw oedd Kautawaubet County hyd 1843. | Swydd Wexford, Iwerddon | 32,735 | ( 1,492 km2) |
576 sq mi
Hanes
[golygu | golygu cod]Mae 83 sir yn nhalaith. Nid yw ffiniau'r siroedd hyn wedi newid yn sylweddol er 1897. Fodd bynnag, trwy gydol y 19eg ganrif, roedd deddfwrfa'r wladwriaeth yn aml yn addasu ffiniau sirol. Bwriad creu sirol oedd cyflawni'r nod o sefydlu llywodraeth dros diriogaeth ddi-drefn, ond nod pwysicach oedd annog anheddiad trwy arolygu'r tir a'i rannu'n adrannau y gellir eu gwerthu.
Yn gyffredinol, crëwyd siroedd mewn dau gam. Yn gyntaf, cyhoeddwyd ffiniau sir a rhoddwyd enw iddynt. Ymddangosodd y siroedd ar fapiau, er y gallai hyn fod yn unig arwydd o fodolaeth ddiriaethol sir am sawl blwyddyn. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd y sir sydd heb ei threfnu eto ynghlwm wrth sir arall a drefnwyd eisoes at ddibenion gweinyddol. Roedd y ddeddfwrfa yn aml yn newid ymlyniad gweinyddol y siroedd di-drefn hyn. Gallai preswylwyr sir gysylltiedig o'r fath ddeisebu'r ddeddfwrfa dros drefniadaeth, sef rhoi cydnabyddiaeth gyfreithiol lawn i'r sir.
Hawliau cyfansoddiadol i newid ffin sir
[golygu | golygu cod]Mae yna lawer o ddinasoedd a phentrefi sy'n rhychwantu ffiniau sirol ym Michigan, gan gynnwys ei phrifddinas, Lansing. Am ychydig flynyddoedd yn ystod y 1970au cynnar, roedd gan ddinasoedd hollt yr hawl i ddeisebu i newid ffiniau'r siroedd yn unol â ffiniau'r dinasoedd. Yr unig ddinas i fanteisio ar y cyfle byr hwn oedd New Baltimore (wedi'i rannu gynt rhwng Macomb County a St Clair County; bellach yn gyfan gwbl ym Macomb). Y trosglwyddiad tiriogaeth hwn o St Clair i Macomb oedd yr unig newid ffin sirol ym Michigan ers dechrau'r 20fed ganrif.
Caniataodd cyfansoddiad y wladwriaeth, 1850 i ddinas gorfforedig gyda phoblogaeth o 20,000 neu mwy cael ei threfnu yn sir annibynnol. [8] Cadwodd Cyfansoddiad 1908 y ddarpariaeth hon, ond cododd drothwy'r boblogaeth i 100,000. [9] Ni threfnwyd unrhyw ddinas erioed yn sir annibynnol yn y modd hwn, a phan ddaeth Cyfansoddiad newydd i rym ym 1963, cafodd y ddarpariaeth ei dileu.
Ffiniau dŵr
[golygu | golygu cod]Mae ffin Michigan ag Illinois yn cael ei ffurfio gan Lyn Michigan, ac mae gan dair sir ffiniau dŵr ag Illinois: Berrien County, Van Buren County, ac Allegan County. Mae gan Michigan hefyd ffin â Minnesota, sy'n cael ei ffurfio gan Lyn Superior. Mae ffin y dŵr yn yr achos hwn yn cael ei ffurfio gan ddwy sir: Ontonagon County a Keweenaw County. Mae'r ffin tir â Wisconsin yn parhau i mewn i Lyn Superior, gan gynnwys Gogebic County (sy'n rhannu ffin tir) a Ontonagon County (ffin ddŵr yn unig).
Hanes enwi'r siroedd
[golygu | golygu cod]Mae gan naw sir enwau a ddyfeisiwyd gan yr ethnolegydd Henry Schoolcraft, fel arfer wedi'i addasu o rannau o eiriau llwythi brodorol, ond weithiau â rhannau o wreiddiau Groeg, Arabeg a Lladin. [10] Mae gan eiriau gwneud Schoolcraft ffynonellau dadleuol. Tra roedd yn un oedd yn hoff o eiriau a diwylliant Brodorol America, mae'n bosibl bod rhai o'i eiriau wedi tarddu o ieithoedd llwythau o rannau eraill o'r wlad, megis Efrog Newydd neu'r Gogledd-ddwyrain, o ble y daeth llawer o ymsefydlwyr i Michigan. Cafodd geiriau brodorol go iawn eu dileu, ac amnewidiodd am enwau bath, weithiau gyda chnewyllyn o iaith neu sain Indiaid ynddynt. [11]
Ailenwyd ail grŵp o bedair sir ar ôl lleoliadau Gwyddelig (siroedd Antrim, Clare, Roscommon a Wexford), mae'n debyg oherwydd yr Iwerddon yn agos at y galon rhai o ddeddfwyr Michigan neu eu hetholwyr.
Enwyd deg sir, yr hyn a elwir yn "siroedd cabinet", ar ôl unigolion a wasanaethodd yng ngweinyddiaeth arlywyddol Andrew Jackson, a oedd ynghlwm wrth esgyniad disgwyliedig Michigan i statws talaith. Enwyd wyth ym 1829. Enwyd Livingston County ym 1833. Enwyd Cass County hefyd ym 1829, ond ni ddaeth y Llywodraethwr Lewis Cass yn aelod o Gabinet Jackson hyd 1831. [10] [11]
Cyn siroedd
[golygu | golygu cod]- Brown County; ffurfiwyd ym 1818 o diriogaeth ddi-drefn pan ehangwyd Tiriogaeth Michigan i gynnwys ardal i'r gorllewin o Lyn Michigan ar ôl ffurfio talaith Illinois. Trosglwyddwyd i Diriogaeth Wisconsin ym 1836 ac mae'n parhau fel Brown County, Wisconsin.
- Keskkauko County; ffurfiwyd ym 1840 o ran o Mackinac County. Ailenwyd yn Charlevoix County ym 1843. Daeth yn rhan o Emmet County ym 1853. Adrefnwyd fel Charlevoix County allan o Emmet County ym 1869.
- Crawford County; ffurfiwyd ym 1818 o diriogaeth heb ei threfnu pan ehangwyd tiriogaeth Michigan i gynnwys tiroedd i'r gorllewin o Lyn Michigan wrth ffurfio talaith Illinois. Trosglwyddwyd i Diriogaeth Wisconsin ym 1836 ac mae'n parhau fel Crawford County, Wisconsin.
- Des Moines County; ffurfiwyd ym 1834 o diriogaeth heb ei threfnu. Trosglwyddwyd i Diriogaeth Wisconsin ym 1836 ac mae'n parhau fel Des Moines County, Iowa.
- Dubuque County; ffurfiwyd ym 1834 o diriogaeth heb ei threfnu. Trosglwyddwyd i Diriogaeth Wisconsin ym 1836 ac mae'n parhau fel Dubuque County, Iowa.
- Iowa County; ffurfiwyd ym 1830 o ran o Crawford County. Trosglwyddwyd i Diriogaeth Wisconsin ym 1836 ac mae'n parhau fel Iowa County, Wisconsin.
- Isle Royale County; ffurfiwyd ym 1875 o ran o Keweenaw County. Adferwyd i'w cyn sir ym 1897.
- Manitou County; ffurfiwyd ym 1855 o rannau o Emmet County a Leelenau County. Roedd llywodraeth y sir yn ddi-drefn erbyn 1861. Ym 1861 cafodd ei atodi am resymau gweinyddol i Mackinac County. Ym 1865, cafodd ei atodi i Leelanau County yna ei ail atodi i Mackinac ym 1869. Cafodd y sir ei ddiddymu ym 1895 gan gael ei rhannu rhwng Charlevoix County a Leelanau County.
- Milwaukee County; ffurfiwyd ym 1834 o ran o Brown County. Trosglwyddwyd i Diriogaeth Wisconsin ym 1836 ac mae'n parhau fel Milwaukee County, Wisconsin.
- Omeena County ffurfiwyd; ym 1840 o ran o Mackinac County. Atodwyd i Grand Traverse County ym 1853.
Wyandot County ffurfiwyd; ym 1840 o ran o Mackinac County. Atodwyd i Cheboygan County ym 1853.
- Washington County; ffurfiwyd ym 1867 o Marquette County ond datganwyd bod ei ffurfio yn groes i'r cyfansoddiad.
Map dwysedd poblogaeth
[golygu | golygu cod]Mae lliwiau gwahanol yn dynodi dwysedd trymach.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "How Many Counties are in Your State?". web.archive.org. 2009-04-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-04-22. Cyrchwyd 2020-04-21.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "FIPS 6-4 - County Names and Codes of the US". web.archive.org. 2013-09-29. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-09-29. Cyrchwyd 2020-04-24.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
- ↑ "County FIPS Codes - NRCS". Cyrchwyd 24 Ebrill 2020.
- ↑ Dan Bisher (1999). "A Brief History of 'Hillsdale County'". Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 7, 2008. Cyrchwyd November 24, 2008.
- ↑ Clarke Historical Library bibliographic entry for Newaygo County
- ↑ Clarke Historical Library bibliographic entry for Saginaw County
- ↑ Clarke Historical Library bibliographic entry for Shiawassee County
- ↑ Constitution of the State of Michigan, 1850, Article 10, Section 2
- ↑ Constitution of the State of Michigan, 1908, Article 8, Section 2
- ↑ 10.0 10.1 Clarke Historical Library, Central Michigan University, Bibliography by county and region, including origin of county names
- ↑ 11.0 11.1 Romig, Walter; Massie, Larry B (Designer) (1986). Michigan Place Names: The History of the Founding and the Naming of More Than Five Thousand Past and Present Michigan Communities. Detroit, Michigan: Wayne State University Press. ISBN 978-0-8143-1838-6.
Alabama · Alaska · Arizona · Arkansas · Califfornia · Colorado · Connecticut · De Carolina · De Dakota · Delaware · Efrog Newydd · Florida · Georgia · Gogledd Carolina · Gogledd Dakota · Gorllewin Virginia · Hawaii · Idaho · Illinois · Indiana · Iowa · Kansas · Kentucky · Louisiana · Maine · Maryland · Massachusetts · Mecsico Newydd · Michigan · Minnesota · Mississippi · Missouri · Montana · Nebraska · Nevada · New Hampshire · New Jersey · Ohio · Oklahoma · Oregon · Pennsylvania · Rhode Island · Tennessee · Texas · Utah · Vermont · Virginia · Washington · Wisconsin · Wyoming · Rhestr cyfansawdd o bob sir yn yr UD