Rheilffordd Chicago, Burlington a Quincy
Math o gyfrwng | cwmni rheilffordd |
---|---|
Daeth i ben | 1970 |
Dechrau/Sefydlu | 1856 |
Olynwyd gan | Rheilffordd Burlington Northern |
Lled y cledrau | 1435 mm |
Rhagflaenydd | Atchison and Nebraska Railroad, Burlington and Northwestern Railway |
Olynydd | Rheilffordd Burlington Northern |
Pencadlys | Chicago |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Colorado |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Rheilffordd Chicago, Burlington a Quincy yn rheilffordd yng nghanoldir yr Unol Daleithiau. Defnyddir weithiau’r enw ‘Burlington Route’ amdani. Roedd ganddi linellau yn Illinois, Colorado, Iowa, Missouri, Nebraska, Wisconsin a Wyoming, a gwasanaethodd dinasoedd Chicago, Minneapolis–Saint Paul, St. Louis, [Kansas City]] a Denver. Hysbyswyd y rheilfordd gyda’r arwyddeiriau "Everywhere West", "Way of the Zephyrs", and "The Way West”.
Ym 1967, roedd gan y rheilffordd 19,565 miliwn tunnell-filltiroedd o nwyddau a 723 miliwn o deithwyr-filltiroedd ar 8538 milltir o linellau.
Unodd y rheilffordd gyda Rheilffordd Northern Pacific a Rheilffordd Great Northern (UDA) ym 1970, yn ffurfio Rheilffordd Burlington Northern
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuodd hanes y rheilffordd gyda Rheilffordd Cangen Aurora. Derbynwyd dinasyddion Aurora, Illinois a Batavia, Illinois siarter i adeiladu’r rheilffordd ar 2 Hydref 1848. Roeddent yn poeni y buasai Rheilffordd Union Galena a Chicago yn osgoi Aurora a Batavia. Adeiladwyd y rheilffordd o Aurora, trwy Batavia i ymuno â Rheilffordd Union Galena a Chicago yng Nghyffordd Turner, i’r gorllewin o Chicago. Roedd rhaid i’r rheilffordd dalu 70% o’i hincwm i’r Rheilffordd Union Galena a Chicago, felly chwiliodd Rheilffordd Cangen Aurora am ffordd arall i Chicago.[1] Adeiladwyd y rheilffordd o Aurora i Chicago trwy Naperville, Lisle, Downers Grove, Hinsdale, Berwyn, a gorllewin Chicago. Agorwyd y lein ym 1864 gyda gwasanaeth i deithwyr sy’n parhau hyd at heddiw.
Ailenwyd y rheilffordd ar 22 Mehefin 1852 i Reilffordd Chicago ac Aurora Railroad. on June 22, 1852[2] ac estynnwyd y rheilffordd i Mendota erbyn 20 Hydref 1853. Pasiwyd deddf ar 14 Chwefror 1855, yn aildrefnu’r rheilffordd i fod y Rheilffordd Chicago, Burlington a Quincy.[3]
Estynnwyd y rheilffordd i gyrraedd Burlington, Iowa a Quincy, Illinois ac adeiladwyd pontydd dros Afon Mississippi yn Burlington a Quincy i greu cysylltiadau gyda Rheilffordd Burlington ac Afon Missouri yn Iowa a Rheilffordd Hannibal a St. Joseph Railroad ym Missouri. Adeiladodd Rheilffordd Burlington ac Afon Missouri reilffordd i Lincoln, Nebraska ym 1870 a Kearney, Nebraska erbyn 1872 a phrynwyd y rheilffordd gan y Chicago, Burlington a Quincy. Cwblhawyd rheilffordd i Denver, Colorado erbyn 1882.[4]
1882–1901
[golygu | golygu cod]Ehangodd rhwydwaith y rheilffordd wedi’r Rhyfel Cartref America oherwydd rheolaeth synwyrol gan John Murray Forbes a Charles Elliott Perkins. Datblygodd y rheilffordd i fod bron tairgwaith ei maint rhwng 1881 a 1901. Credodd Perkins y dylai’r Burlington fod yn rhan o rwydwaith trawsgyfandirol. I’r gorllewin, aeth y rheilffordd mor bell â Denver a Billings, Montana, ond methodd gyrraedd yr arfordir. Penderfynwyd cysylltu gyda Rheilffordd Great Northern (yn hytrach na’r Rheilffordd Union Pacific) i greu coridor rhwng Chicago a Minneapolis-Saint Paul, Minnesota ac ymlaen i’r gorllewin.
Y streic Burlington
[golygu | golygu cod]Streiciodd gyrrwyr trên a dynion tân ym 1888. Parhaodd y streic am 10 mis, ac enillodd y cwmni, ond roedd y cwmni wedi gwario’n drwm i fynd i’r gyfraith, talu gweithwyr i weithio yn ystod y streic a thalu’r heddlu i amddiffyn y cwmni, a doedd y cwmni ddim mewn cyflwr da wedi’r streic.[5]
Wedi pwrcas y Burlington gan y Great Northern a Pacific, parhaodd ei gwaith ehangu.by GN and NP, expansion continued. Prynwyd Rheilffordd Colorado a Southern a Rheilffordd Fort Worth a Denver ym 1908, er mwyn cyrraedd Dallas a Galveston. Agorwyd llinell newydd o Concord, Illinois i Paducah, Kentucky, ac roedd gan y rheilffordd 12,000 milltir o reilffyrdd erbyn y 1920au, dros 14 o daleithiau.
Ym 1929, crewyd y Cwmni trafnidiaeth Burlington i ddefnyddio bysiau, yn cyd-weithio gyda’u rheilffyrdd. Daeth y cwmni’n rhan o rhwydwaith Trailways, sy’n goroesi hyd at heddiw.
Trenau diesel
[golygu | golygu cod]Roedd y rheilffordd wedi arbrofi’n aflwyddiannus gyda pŵer diesel. Wedyn prynwyd cerbydau nwy-diesel oddi wrth Cwmni Electro-Motive, a 2 locomotif diesel bach oddi wrth Cwmni General Electric, gyda mwy o lwyddiant.
Adeiladwyd y Burlington Zephyr ym 1934, yn defnyddio peiriant diesel Winton 8-201A.[6]
1945–1970
[golygu | golygu cod]Wedi’r Ail Ryfel Byd disodlwyd locomotifau stêm gan diesel, a chwblhawyd y proses ar 28 Medi 1959. Defnyddiwyd locomotif stêm ar Reilffordd C&S hyd at 1962 ar drenau at Bwll Climax yn Colorado oherwydd uchder y reilffordd. Trefnwyd teithiau stêm achlysurol hyd at 17 Gorffennaf 1966.[7]
Perchnogion r Rheilffordd Burlington oedd Rheolffordd y Great Northern a Rheilffordd Northern Pacific. Erbyn 1960 roedd y 3 rheilffordd yn ystyried uno. Roedd gan reilffyrdd yr Unol Daleithiau broblemau cyllido trwy’r 1960au, ac ar 2 Mawrth 1970 unodd Rheilffordd Burlington, y Great Northern, y Northern Pacific a Rheilffordd Spokane, Burlington a Seattle i greu’r Rheilffordd Burlington Northern. Ym 1996, unodd y Burlington Northern a Rheilffordd Atchison, Topeka a Santa Fe, a chrewyd Rheilffordd BNSF. Doedd dim llawer o drenau i deithwyr, oherwydd poblogrwydd ceir. Crewyd Amtrak ym 1971 i redeg gwasanaethau i deithwyr.
Y Zephyrs Burlington
[golygu | golygu cod]Roedd gan y rheilffordd nifer o drenau diesel i deithwyr, sef y 'Zephyrs'. Aeth yr un cyntaf, y 'Burlington Zephyr', o Denver, Colorado, i Chicago, ar 26 Mai 1934. Dechreuodd gwasanaeth reolaidd rhwng Lincoln, Nebraska, a Kansas City, Missouri ar 11 Tachwedd 1934.[8] Er roedd y trenau’n enwog, na denwyd nifer fawr o deithwyr, a gorffennwyd oes y Zephyrs gyda chyrraeddiad Amtrak.
Y trenau
[golygu | golygu cod]- Pioneer Zephyr (Lincoln–Omaha–Kansas City)
- Twin Cities Zephyr (Chicago–Minneapolis-St. Paul)
- Mark Twain Zephyr (St. Louis–Burlington)
- Denver Zephyr (Chicago–Denver)
- Nebraska Zephyr (Chicago–Lincoln)
- Sam Houston Zephyr (Houston–Dallas-Ft. Worth)
- Ozark State Zephyr (Kansas City–St. Louis)
- General Pershing Zephyr (Kansas City–St. Louis)
- Silver Streak Zephyr (Kansas City–Omaha–Lincoln)
- Ak-Sar-Ben Zephyr (Kansas City–Omaha–Lincoln)
- Zephyr Rocket (St. Louis–Burlington–Minneapolis-St. Paul), ar y cyd gyda Rock Island
- Texas Zephyr (Denver–Dallas-Ft. Worth)
- American Royal Zephyr (Chicago–Kansas City)
- Kansas City Zephyr (Chicago–Kansas City)
- California Zephyr (Chicago–Oakland): Chicago–Denver gan CB&Q; Denver–Salt Lake City gan Reilffordd Gorllewinol Denver a Rio Grande; Salt Lake City–Oakland gan Reilffordd y Western Pacific.
Aeth trenau eraill gyda enwau ar rwydwaith Burlington, gan gynnwys y canlynol:
.
- Adventureland (Kansas City-Billings)
- Aristocrat (Chicago–Denver), yn disodli’r Colorado Limited[9]
- Ak-Sar-Ben (Chicago–Lincoln): yn disodli’r Nebraska Limited; disodlwyd gan yr Ak-Sar-Ben Zephyr
- American Royal (Chicago–Kansas City): disodlwyd gan yr American Royal Zephyr.
- Atlantic Express (Seattle-Tacoma-Chicago): ar y cyd gyda Rheilffordd y Northern Pacific
- Black Hawk (Chicago–Minnepolis/St Paul dros nos)
- Buffalo Bill (Denver-Yellowstone) Gwasanaeth dymherol tair gwaith yr wythnos rhwng Denver, Colorado a Parc Cenedlaethol Yellowstone trwy Cody, Wyoming
- Chicago Limited (Chicago-Denver)
- Coloradoan (Chicago–Denver): disodlwyd gan yr Aristocrat
- Denver Limited (Denver-Chicago)
- Exposition Flyer (Chicago–Oakland) ar y cyd gyda Rheilffordd Denver, Rio Grande a’r Gorllewin a Rheilffordd y Western Pacific, cyn lansiad y California Zephyr[10]
- Empire Builder: trên Rheilffordd y Great Northern rhwng Chicago a Minneapolis
- Fast Mail” (Chicago–Lincoln)
- Mainstreeter: trên Rheilffordd y Northern Pacific rhwng Chicago a Minneapolis
- Nebraska Limited (Chicago–Lincoln): disodlwyd gan Ak-Sar-Ben
- North Coast Limited: trên Rheilffordd y Northern Pacific rhwng Chicago a Minneapolis
- North Pacific Express (Chicago-Seattle-Tacoma): ar y cyd gyda Rheilffordd y Northern Pacific
- Overland Express (Chicago-Denver).[11]
- Y Shoshone: (Denver-Billings) gyda’r enw anffurfiol "The Night Crawler"
- Western Star”:trên Rheilffordd y Great Northern rhwng Chicago a Minneapolis
- Zephyr Connection: (Denver-Cheyenne)
Mae’r California Zephyr yn wasanaeth Amtrak erbyn hyn. Daeth y Kansas City Zephyr a’r “American Royal Zephyr” yn drên arall Amtrak.
Datblygiadau
[golygu | golygu cod]Roedd y rheilffordd yr un gyntaf i ddefnyddio redio wrth cyfathrebu gyda threnau ym 1915, y trenau llyfnion diesel ar gyfer teithwyr ym 1934 a cherbydau dôm-fista ym 1945.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cymdeithas hanes y rheilffordd
- Gefan sloganau
- Tudalen y Pioneer Zephyr, Amgueddfa Wyddoniaeth a Dywidiant Chicago
- Amgueddfa rithiol y California Zephyr
- Gwefan am y Mark Twain Zephyr
- Gwefan PBS Archifwyd 2011-06-28 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Prifysgol y Gyfraith Cornell
- Gwefan oldrailhistory.com Archifwyd 2022-01-21 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Llyfrgell Newberry Archifwyd 2021-05-16 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [url=https://www.jstor.org/stable/43520021 Early History of the Chicago, Burlington & Quincy Railroad in Illinois yng nghylchgrawn Cymdeithas Hanesyddol Rheilffordd a Locomotif ar wefan JStor]
- ↑ Gwefan books.google.com: ‘An act to amend the charter of the Aurora Branch Railroad company’
- ↑ Gwefan books.google.com:’An act to amend an act entitled "An act to amend the charter of the Chicago and Aurora Railroad Company’
- ↑ ’Trains across the continent: North American railroad history’ gan Rudolph L Daniels; cyhoeddwyr Gwasg Prifysgol Indiana, 2000
- ↑ Railroaded: The transcontinentals and the making of modern America gan Richard White, 2011, tud 336-347
- ↑ Gwefan asme.org
- ↑ ‘Richard Jensen and the Story of CB&Q 4960, 4963, 5632 and GTW 5629’, Gwefan steamlocomotive.com
- ↑ Cylchgrawn “Y Palimpsest”; ‘Way of the Zephyrs’ gan Frank P Donovan, 1969
- ↑ The Meriden Daily Journal, 28 Mawrth 2012
- ↑ ‘The Scenic Way to California, hysbyseb yng nghylchgrawn ‘Life’ 26 Chwefror 2012
- ↑ Marvelous Vacation in Cool Colorado hysbyseb yng nghylchgrawn ‘Life’ 26 Chwefror 2012