Rachel Barrett
Rachel Barrett | |
---|---|
Ganwyd | 12 Tachwedd 1874 Caerfyrddin |
Bu farw | 26 Awst 1953 Faygate |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweithredydd gwleidyddol, golygydd papur newydd, athro, swffragét |
Partner | I. A. R. Wylie |
Roedd Rachel Barrett (12 Tachwedd 1875 - 26 Awst 1953) yn swffragét a golygydd papur newydd o Gaerfyrddin. Ar ôl mynychu Prifysgol Aberystwyth daeth yn athrawes gwyddoniaeth. Yn 1906, rhododd y gorau ar hyn ar ôl clywed Nellie Martell yn siarad am y bleidlais i ferched. Daeth yn aelod o'r Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched (neu WSPU) a symudodd i Lundain. Ym 1907 daeth yn drefnydd i'r WSPU ac ar ôl Christabel Pankhurst ffoi i Paris, gofynnwyd i Barrett fod yn gyd-drefnydd yr ymgyrch WSPU. Yn 1912, er nad oedd ganddi gefndir newyddiadurol, cafodd ofalu am y papur newydd The Suffragette oedd newydd ei ffurfio. Cafodd Barrett ei arestio ar fwy nag un achlysur ar gyfer gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r mudiad pleidleisio a rhwng 1913 a 1914, treuliodd amser yn anhysbys gan osgoi ail-arestio.
Roedd mewn perthynas a'r awdur Awstraliaidd I. A. R Wylie; cefnogodd y ddau ohonyn nhw Radclyffe Hall yn ystod treial anlladredig llyfr Hall, The Well of Loneliness.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Barrett yng Nghaerfyrddin ym 1874 i Rees Barrett, syrfëwr tir a ffyrdd, a'i ail wraig Anne Jones, y ddau yn siaradwyr Cymraeg. [1][2] Fe'i magwyd yn nhref Llandeilo gyda'i brawd hynaf Rees a chwaer iau, Janette.[3] Erbyn Cyfrifiad 1881, ei mam Anne oedd yr oedolyn sengl yn byw yn eu cyfeiriad ar Alan Road; bu farw ei thad ym 1878. Addysgwyd Barrett mewn ysgol breswyl yn Stroud, ynghyd â'i chwaer, a enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Aberystwyth. Graddiodd yn 1904 gyda gradd BSc yn Llundain a daeth yn athro gwyddoniaeth. Addysgodd yn ysgolion Llangefni, Caerfyrddin a Phenarth.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Crawford 2003, t. 35.
- ↑ (Saesneg) Morrell, Caroline. "Rachel Barrett". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/63825.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)
- ↑ "Rachel Barrett: England and Wales Census, 1881". Familysearch.org. Cyrchwyd 17 Chwefror 2016.