Pleidlais sengl drosglwyddadwy
Math | cynrychiolaeth gyfrannol, pleidleisio ffafriol |
---|---|
Rhan o | democratiaeth |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
System bleidleisio wedi'i chynllunio i gyflawni cynrychiolaeth gyfrannol yw pleidlais sengl drosglwyddadwy ('single transferable vote' neu STV).[1] O dan y bleidlais sengl drosglwyddadwy, bydd gan etholwr (pleidleisiwr) un bleidlais a ddyrennir i ddechrau i'w hoff ymgeisydd ac, wrth i'r cyfrif fynd rhagddo, mae'r ymgeiswyr naill ai'n cael eu hethol neu eu dileu yna mae'r bleidlais yn cael ei throsglwyddo i ymgeiswyr eraill yn unol â'r dewisiadau a nodwyd, yn gymesur ag unrhyw warged neu bleidleisiau diwerth a waredwyd. Mae'r union ddull o ailgyfeirio'r pleidleisiau yn amrywio.
Mae'n system etholiadol sy'n darparu'r gynrychiolaeth mwyaf gyfrannol ar gyfartaledd, ond mae hynny yn dibynnu ar maint yr etholaethau. Os oes 5 neu 6 sedd mae'n system etholiadol gyfrannol iawn, ar gyfartaledd mae'n llai felly os oes tair sedd.
Mae'r system hefyd yn galluogi pleidleisiau gael eu bwrw i ymgeiswyr unigol yn hytrach nag ar gyfer pleidiau, ac yn lleihau yn sylweddol y pleidleisiau a waredwyd trwy eu trosglwyddo i ymgeiswyr eraill.
Defnyddir y system ar gyfer etholiadau at Dáil Éireann sef, senedd-dy Gweriniaeth Iwerddon.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Single Transferable Vote". Electoral Reform Society.