Plaid Lafur Awstralia
Enghraifft o'r canlynol | plaid wleidyddol |
---|---|
Idioleg | democratiaeth gymdeithasol, social liberalism |
Label brodorol | Australian Labor Party |
Dechrau/Sefydlu | 8 Mai 1901 |
Aelod o'r canlynol | Progressive Alliance |
Isgwmni/au | Plaid Lafur Awstralia (Cangen Dde Awstralia), Australian Labor Party (New South Wales Branch), Australian Labor Party (Victorian Branch), Australian Labor Party (Northern Territory Branch), Australian Labor Party (Australian Capital Territory Branch), Australian Labor Party (Tasmanian Branch), Australian Labor Party (Queensland Branch), Western Australian Labor Party |
Pencadlys | Canberra, Tiriogaeth Prifddinas Awstralia, Barton |
Enw brodorol | Australian Labor Party |
Gwladwriaeth | Awstralia |
Gwefan | http://www.alp.org.au/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Plaid wleidyddol ganol-chwith yn Awstralia yw Plaid Lafur Awstralia (Saesneg: Australian Labor Party, ALP). Mae'n un o'r ddwy blaid wleidyddol fawr yn Awstralia, a'r llall yw Plaid Ryddfrydol Awstralia.[1]
Mae'r blaid mewn llywodraeth ffederal ac ym mhob talaith a thiriogaeth ac eithrio Tasmania. Ar hyn o bryd, arweinydd ffederal y blaid yw’r Prif Weinidog Anthony Albanese a dirprwy arweinydd ffederal y blaid yw’r Dirprwy Brif Weinidog Richard Marles.
Y Blaid Lafur yw'r blaid wleidyddol hynaf yn Awstralia, ac fe'i sefydlwyd ym 1901. Mae'n rhagddyddio bodolaeth Plaid Lafur Brydeinig a Phlaid Lafur Seland Newydd. Mae'r blaid yn cadw at ddemocratiaeth gymdeithasol.
Awstralia oedd y wlad gyntaf yn y byd i ethol llywodraeth ddemocrataidd gymdeithasol ar y lefel genedlaethol, sef llywodraeth Lafur.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Australian Labor Party". Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 6 Tachwedd 2021.
- ↑ Davies, Anne (13 Rhagfyr 2020). "Party hardly: why Australia's big political parties are struggling to compete with grassroots campaigns". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 13 Rhagfyr 2020.