Pierce Brosnan
Pierce Brosnan | |
---|---|
Ganwyd | Pierce Brendan Brosnan 16 Mai 1953 Drogheda |
Man preswyl | Malibu |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, cynhyrchydd ffilm, amgylcheddwr, actor ffilm, actor teledu, actor llwyfan |
Swydd | Llysgennad Ewyllus Da UNICEF |
Cyflogwr | |
Arddull | drama fiction, cyffro, ffilm llawn cyffro |
Priod | Cassandra Harris, Keely Shaye Smith |
Plant | Chris Brosnan, Sean Brosnan, Charlotte Brosnan, Paris Brosnan |
Gwobr/au | OBE, Gwobr Saturn am Actor Gorau, Empire Award for Best Actor, Gwobr Golden Raspberry i'r Actor Wrth Gefn Gwaethaf, European Film Academy Achievement in World Cinema Award, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Great Immigrants Award |
Gwefan | https://www.piercebrosnan.com |
llofnod | |
Actor, cynhyrchydd ffilmiau ac amgylcheddwr Americanaidd-Gwyddelig yw Pierce Brendan Brosnan, OBE (ganwyd 16 Mai 1953). Mae ganddo ddinasyddiaeth Gwyddelig ac Americanaidd. Gadawodd yr ysgol yn 16 oed er mwyn dechrau hyfforddi i fod yn ddarlunydd masnachol ond hyfforddodd yn y Ganolfan Ddrama yn Llundain am dair blynedd. Wedi cyfnod o actio ar lwyfan, daeth i amlygrwydd yn y gyfres deledu boblogaidd Remington Steele.
Chwaraeodd Brosnan ran yr asiant cudd James Bond yn GoldenEye, Tomorrow Never Dies, The World Is Not Enough a Die Another Day. Ef hefyd ddarparodd y llais a phryd a gwedd Bond yn y gêm fideo James Bond 007: Everything or Nothing. Ym 1996, sefydlodd gwmni cynhyrchu yn Los Angeles ar y cyd gyda Beau St.Clair, o'r enw Irish DreamTime. Roedd Brosnan yn briod â Cassandra Harris tan ei marwolaeth, ac mae ef bellach wedi ail-briodi Shaye Smith.
Rhagflaenydd: Timothy Dalton |
Actor James Bond 1995 – 2002 |
Olynydd: Daniel Craig |