Penbwl
Gwedd
Math | larfa, hatchling, Amffibiad |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Larfa amffibiad, yn enwedig llyffant, broga, neu madfall ddŵr, yw penbwl; lluosog: penbyliaid. Mae'n byw yn y dŵr ac yn anadlu drwy dagellau allanol.
Wrth iddynt dyfu maen nhw'n cael eu trawsffurfio (metamorffosis), ac yn ystod y broses hon maen nhw'n tyfu coesau, yn datblygu ysgyfaint ac yn adamsugno'r gynffon. Mae'r rhan fwyaf o benbyliaid yn llysysol ond yn ystod metamorffosis mae'r geg a'r organau mewnol yn cael eu haildrefnu i baratoi ar gyfer ffordd o fyw cigysol oedolyn.