Neidio i'r cynnwys

Parc Natural de Ses Salines d’Eivissa i Formentera

Oddi ar Wicipedia
Parc Natural de Ses Salines d’Eivissa i Formentera
Mathardal gadwriaethol, natural park, Ardal Gadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig, safle o ddiddordeb cymunedol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2001 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolIbiza, Biodiversity and Culture Edit this on Wikidata
SirBalearic Islands Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd15,396.9 ha, 9,000.69 ha, 7,421.73 ha, 16,833.00716 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau38.8°N 1.4261°E Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Parc Natural de Ses Salines d’Eivissa i Formentera yn warchodfa natur ar yr Ynysoedd Balearig, sy'n cynnwys nifer fawr o bantiau heli ar Ynys Eivissa (Ibiza) ac Ynys Formentera ac mae hefyd yn cynnwys y môr rhwng yr ynysoedd. Mae’r parc yn cynnwys 2752.5 hectar o dir a 14028 hectar o fôr.[1]

Ses Salines, Eivissa

Y môr

[golygu | golygu cod]

Gwelir y planhigyn Posidonia yn y môr rhwng Eivissa a Formentera. Mae Posidonia yn gyfrifol am glirdeb y dŵr, mae'n gwarchod y traethau rhag erydiad ac yn rhoi lloches i greaduriaid y môr. Mae’r parc yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ers 1999.[2]

Es Penjats

Mae mwyafrif planhigion yr ynysoedd yn bresennol yn y parc natural. Mae llwyni o binwydd a meryw yn gyffredin ar Formentera, a hefyd Fenigl y môr a phlanhigion twyni tywod symudol.[3]

Anifeiliaid ac adar

[golygu | golygu cod]

Gwelir tua 210 rhywogaeth o adar yn y parc, yn arbennig adar y dŵr, megis Fflamingo, Storc, Cwtyn hirgoes adeinddu, Chwibanogl ddu, Gwylan Audouin, Hwyaden ye eithin, Cambig, Cwtiad Caint ac Aderyn drycin Balearig. Mae gan Estany Pudent ar Formentera y Gwyach yddfddu. Mae’r Madfall Pityusig yn gyffredin dros yr ynysoedd. Gwelir hefyd Pathew’r ardd.[4] Mae 178 math o blanhigion ar tirwedd y parc, gan gynnwys pinwydd, llwyn eithin, planhigion y twyni tywod a’r rhai ar ben clogwyni. Mae gan Estany Pudent de Formentera un o’r gomunedau mwy o wyachod gwddw ddu yn Ewrop. Mae hefyd madfallod[5]

Mae’r ardal yn warchodfa, Es Freus d’Eivissa i Formentera, ers 28 Mai 1999. Mae’n rhan o’r rhwydwaith Natura 2000, yn Safle o Ddiddordeb Gomunedol ac yn ardal Gwarchodfa Arbennig i Adar. Mae pyllau heli Ses Salines ar restr Ramsar o wlyptiroedd o bwysicrwydd rhwngwladol.

Canolfan ddehongli Sant Francesc de Ses Salines

[golygu | golygu cod]

Mae’r eglwys yn ganolfan wybodaeth i’r parc natural, ac ar agor rhwng 10yb a 2yp o ddydd Mercher i ddydd Sul yn ystod y gaeaf, a bob dydd yn ystod yr haf.[6]


Hanes y Parc Natural

[golygu | golygu cod]

Pasiwyd nifer o ddeddfau ers y 170au er mwyn amddiffyn Ses Salines. Daeth yr ardal yn ardal a ddiddordeb ym 1991, yn cynnwys mwyafrif o’r parc, ac ym 1995 daeth Ses Sales yn warchodfa natur. Ac ar 19 Rhagfyr daeth yr ardal i gyd yn barc natural, o dan reolaeth Llywodraeth yr Ynysoedd Balearig.

Treftadaeth Ddywilliannol ac Ethnolegol y Parc

[golygu | golygu cod]

Gwelir olion gwareiddiadau hynafol ac olion traed hanes yn y parc natural. Mae safle UNESCO Ffoneciaidd Sa Caleta, pum tŵr amddiffynnol a phresenoldeb y diwydiant halen dros ran helaeth o'r tirlun.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]