Neidio i'r cynnwys

Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen

Oddi ar Wicipedia
Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen
Mathllyfrgell academaidd, cyhoeddwr, state library of Germany Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1734 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolPrifysgol Georg August Göttingen Edit this on Wikidata
LleoliadNiedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen Edit this on Wikidata
SirGöttingen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau51.5397°N 9.9364°E Edit this on Wikidata
Cod post37073 Edit this on Wikidata
Map

Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen (byr: SUB Göttingen) yw llyfrgell Prifysgol Göttingen (Göttingen Georg-August-Universität) yn Göttingen, yr Almaen yn ogystal â bod yn llyfrgell ganol y rhanbarth Niedersachsen (Lower Saxony). Rhan o'r llyfrgell yw'r adran ddigideiddio Göttinger Digitalisierungszentrum yn ogystal â'r wefan wyddonol vascoda. Mae'n un o lyfrgelloedd ymchwil pwysica'r byd. Rhwng muriau'r llyfrgell hon y cedwir Beibl Gutenberg, un o bedwar yn unig drwy'r byd.

Mae'n un o lyfrgelloedd mwya'r Almaen hefyd, gyda 4½ miliwn o gyfrolau, 13,000 holograff a 350 Nachlässe (iaid llenyddol sy'n delio gyda materion hawlfraint ac eiddo deallusol). Mae'r llyfrgell yn casglu deunydd print, ffotograffau, mapiau, lluniau, llawysgrifau, CD-ROMau ac archifau. Hefyd eitemau ym mhob iaith a fformat; llyfrau, newyddiaduron, papurau newydd, cylchgronau, recordiau sain a cherddoriaeth, breinleni, basau data, mapiau,argraffiadau a darluniau. Catalogir popeth yn electronig, a dim ond arlein y caniateir mynediad i rai o'r casgliadau.

Ystyrir y llyfrgell fel y llyfrgell academaidd gyntaf ac fe'i codwyd yn 1734, teirblwydd cyn codi'r brifysgol. Y Cyfaryddwr cyntaf oedd Johann Matthias Gesner, ac ymhlith ei Phrif Lyfrgellwyr enwog y mae'r brodyr Jacob a Wilhelm Grimm, (sef y Brodyr Grimm) 1830-1837.

Ers y 1920au, derbyniodd y llyfrgell, gasgliadau arbennig niferus, yn enwedig y casgliad Eingl-Americanaidd a'r gwyddorau naturiol.

Adeilad y Llyfrgell yn y 18g
Yr adeiladau a godwyd rhwng 1878-1882
Neuadd Fawr y Llyfrgell, darlun pen ac inc gan Friedrich Besemann (1796–1854)

Yn 2002 enillodd y SUB wobr "Llyfrgell Almaenig y Flwyddyn" sef y (Bibliothek des Jahres).

Heddiw

[golygu | golygu cod]

Ceir stoc o tua 4.5 miliwn o gyfrolau heddiw. Mae'r llyfrgell ar agor saith diwrnod yr wythnos ac mae mynediad i'r holl arddangosfeydd am ddim. Gellir gweld nifer o gasgliadau diddorol y llyfrgell ar eu gwefan. Cyhoeddwyd llawer o ddeunyddiau ar y we ac mae SUB yn gwneud llawer o ymchwil mewn Dyniaethau Digidol.

Adeilad newydd y SUB yn Göttingen ers 1992
Y Llyfrgell yn y nos

Adranau y Llyfrgell

[golygu | golygu cod]
  • Llyfrgell Cemeg (BBN)
  • Llyfrgell Coedwigaeth Rhanbarthol (BBF)
  • Llyfrgell Ardal Meddygol ("BBM")
  • Llyfrgell yr adran Ffiseg (BBP)
  • Llyfrgell y Gwyddorau Economaidd a Chymdeithasol (BBWISO, yn yr Oeconomicum)

Casgliadau yn yr adeilad hanesyddol

[golygu | golygu cod]
  • Adran Llawysgrifau a Llyfrau Prin
  • Adran Llawysgrifau a Llyfrau Prin
  • Casgliad o Argraffwyd Almaeneg 1701-1800
  • Gweithdy Adfer
  • Rhwymo Llyfrau
  • Ystafell Ddarllen Heyne
  • Casgliad Mapiau
  • Llyfrgell Asia-Affrica

Catalogau a Gwasanaethau Canolog

[golygu | golygu cod]

Mae SUB hefyd lyfrgell yr Akademie der Wissenschaften (Academi y Gwyddorau yn Göttingen). Mae'n cynnal y Niedersächsischen Zentralkatalog (catalog canolog Sacsoni Isaf) a Göttinger Digitalisierungszentrum (Canolfan Göttingen Digido). Mae SUB yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau ar-lein, fel y Llyfrgell Rithwir o Eingl-Americanaidd gofod diwylliannol, ac mae'n datblygu cynigion newydd trwy'r amser.

Prif lyfrgellwyr

[golygu | golygu cod]

Llenyddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Margo Bargheer, Klaus Ceynowa (Hrsg.): Tradition und Zukunft - die Niedersächsische Staats und Universitätsbibliothek Göttingen. Eine Leistungsbilanz zum 65. Geburtstag von Elmar Mittler. Universitätsverlag, Göttingen 2005, ISBN 3-938616-03-2 (Volltext, PDF)
  • Bernhard Fabian (Hrsg.): Handbuch der historischen Buchbestände in Deutschland. Bd. 2, 1. Olms-Weidmann, Hildesheim 1998, ISBN 3-487-09575-0, S. 140–266
  • Elmar Mittler: Niedersächsische Staats- und Universitätsbibliothek Göttingen. In: Bernd Hagenau (Hrsg.): Regionalbibliotheken in Deutschland. Klostermann, Frankfurt am Main 2000. S. 187 - 195, ISBN 3-465-03085-0

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Caslgiad Celtaidd, gweler Wales related Fiction of the Romantic Period, gweler http://www.nationallizenzen.de/angebote/nlproduct.2006-03-14.4579123427 Arddangosfa Panorama Wales, gweler http://www.sub.uni-goettingen.de/archiv/ausstell/2008/wales.html Am Gymru (OPAC): http://opac.sub.uni-goettingen.de/DB=1/LNG=DU/CMD?ACT=SRCHA&IKT=1016&SRT=YOP&TRM=Cymru Gweler yma: [1] (Metadata) Archifwyd 2009-08-22 yn y Peiriant Wayback. Sacsoni Isaf ar-lein: http://www.opal-niedersachsen.de/ Archifwyd 2010-10-24 yn y Peiriant Wayback CACAO, PARSE.Insight, TextGrid, WisNetGrid, WissGrid (http://www.wisnetgrid.org/ Archifwyd 2010-08-27 yn y Peiriant Wayback) http://www.europeanatravel.eu/ http://www.dariah.eu/ Blumenbach ar-lein: http://www.blumenbach-online.de/projekt/?L=1 Archifwyd 2016-04-17 yn y Peiriant Wayback Llyfrgelloedd rhithwir // Rhestr Cronfeydd Data: http://www.sub.uni-goettingen.de/vlib/lit/nl_mehr.php