Mursen
Mursen (Zygoptera) Amrediad amseryddol: 271–0 Miliwn o fl. CP | |
---|---|
Mursen dinlas fach; gwryw (Ischnura heterosticta) | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Odonata |
Is-urdd: | Zygoptera Selys, 1854 |
Teuluoedd | |
|
Is-Urdd o bryfaid yw'r Fursen sy'n enw benywaidd (sef Is-Urdd y Zygoptera; lluosog: Mursennod), a chyda Gweision y neidr maent yn gwneud yr Urdd Odonata. Caiff ambell fursen ei gamgymeryd yn aml am was y neidr gan eu bod mor debyg, ond mae rhai nodweddion tra gwahanol gan gynnwys y ffaith eu bod yn fyrrach, yn deneuach ac mae'r rhan fwyaf o'u rhywogaethau'n swatio'u hadenydd yn agos i'w corff tra maen nhw'n gorffwyso.
Mae pob mursen yn gigysol (neu'n 'rheibus') - yr oedolyn a'r pryf ifanc Mae'r rhai ifanc yn byw mewn dŵr, gyda'r rhan fwyaf o'u rhywogaethau'n byw mewn cynefin dŵr croyw, gan gynnwys mawnog asidig hyd yn oed, llynnoedd, pyllau ac afonydd. Mae'r mursennod ifanc hefyd yn bwrw'u crwyn yn rheolaidd, gyda'r bwriad-croen olaf maen nhw'n dringo allan o'r dŵr ac yn morffio. Mae'r croen ar eu cefnau'n rhwygo ac agorant eu hadenydd, datblygu eu habdomen a thrawsnewid i ffurf oedolyn. Mae eu presenoldeb ar bwll o ddŵr yn arwydd bod y pwll yn eitha glân, heb ei halogi.
Grŵp hynafol
[golygu | golygu cod]Mae'r fursen yn grŵp hynafol iawn, ac wedi bodoli ers y cyfnod Permaidd, pan oedd tir y Ddaear yn un cyfandir (Pangaea); bellach fe'u ceir ar bob cyfandir, namyn Antartig. Mae'r ffosiliau cynharaf ohonynt yn dyddio'n ôl o leiaf 250 miliwn CP, ond gan mai oedolion yw pob un o'r ffosiliau hyn ni wyddys a oedd y mursennod ifainc, yr adeg honno, yn byw mewn dŵr, ai peidio.[1]
Dosbarthiad
[golygu | golygu cod]Ceir cryn newid gan y gwyddonwyr ar rywogaethau o'r fursen, ac ar hyn o bryd (2015) ystyrir fod deunaw teulu ohonynt:[2]
Zygoptera |
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Mae llinellau toredig yn nodi perthynas sydd heb hyd yma ei phrofi'n llawn.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Yn wahanol i was y neidr, mae llygaid cyfansawdd y fursen yn bellach oddi wrth ei gilydd ac yn llai hefyd. Uwch ben y llygaid ceir talcen ac ychydig oddi tano ceir y 'tarian' (neu'r clypeus). Ar frig y pen ceir tri llygad syml (neu ocelli), sydd o bosib yn mesur cryfder golau a cheir pâr o deimlyddion i'w chynorthwyo i fesur cryfder yr aer a'r gwynt.[3]
Mursennod Cymru
[golygu | golygu cod]Enw'r rhywogaeth | milimetrau (mm) |
---|---|
mursen lygatgoch fach | 29(Erythromma viridulum)
|
mursen las Penfro | 30(Coenagrion mercuriale )
|
mursen dinlas fach | 31(Ischnura pumilio)
|
mursen dinlas gyffredin | 31(Ischnura elegans)
|
mursen fach goch | 31(Ceriagrion tenellum)
|
mursen las gyffredin | 32(Enallagma cyathigerum)
|
mursen las asur | 33(Coenagrion puella)
|
mursen las amrywiol | 33(Coenagrion pulchellum)
|
gwäell ddu | 34(Sympetrum danae)
|
mursen lygatgoch fawr | 35(Erythromma najas)
|
mursen fawr goch | 36(Pyrrhosoma nymphula)
|
gwäell rudd | 36(Sympetrum sanguineum)
|
mursen werdd brin | 37(Lestes dryas)
|
gwäell asgell aur | 37(Sympetrum flaveolum)
|
mursen werdd | 38(Lestes sponsa)
|
mursen y gaeaf | 38(Sympecma fusca)
|
gwäell wythien goch | 40(Sympetrum fonscolombii)
|
gwäell grwydrol | 40(Sympetrum vulgatum)
|
gwäell gyffredin | 43(Sympetrum striolatum)
|
morwyn dywyll | 45(Calopteryx virgo)
|
morwyn wych | 45(Calopteryx splendens)
|
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Gwas y neidr Is-Urdd Anisoptera
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Grimaldi, David; Engel, Michael S. (2005). Evolution of the Insects. Cambridge University Press. tt. 174, 178. ISBN 978-0-521-82149-0.
- ↑ Dijkstra, Klaas-Douwe B.; Kalkman, Vincent J.; Dow, Rory A.; Stokvis, Frank R.; van Tol, Jan (2013). "Redefining the damselfly families: a comprehensive molecular phylogeny of Zygoptera (Odonata)". Systematic Entomology 39 (1): 68–96. doi:10.1111/syen.12035. http://onlinelibrary.wiley.com/doi/10.1111/syen.12035/full.
- ↑ Paulson, Dennis (2011). Dragonflies and Damselflies of the East. Princeton University Press. tt. 10–32. ISBN 1-4008-3966-1. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help)