Longinus
Longinus | |
---|---|
Ganwyd | 213 Homs |
Bu farw | Palmyra |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | athronydd |
Roedd Cassius Longinus yn rhethregydd Groeg (tua 213-273), a anwyd yn Athen.
Ei yrfa
[golygu | golygu cod]Astudiodd Longinus Newydd-Blatoniaeth yn Alexandria yn yr Aifft Isaf. Dychwelodd i'w ddinas enedigol i ddysgu athroniaeth, gramadeg (h.y. beirniadaeth lenyddol) a rhethreg yn 260.
Fe'i galwyd gan Zenobia, brenhines Palmyra, yn 260, i fod yn weinidog yn ei llys. Am fod yr ymerodr Rufeinig Aurelian yn credu ei fod yn euog o berswadio'r frenhines i wrthsefyll awdurdod y Rhufeiniaid fe'i dienyddwyd ganddo yn sgîl cwymp Palmyra yn 273.
Gwaith llenyddol
[golygu | golygu cod]Roedd Longinus yn enwog am ei ddysg. Fe'i cyffelybwyd gan Eunapius i "lyfrgell fyw" ac "amgueddfa ar gerdded". Cyfansoddodd weithiau mewn sawl maes, yn cynnwys athroniaeth, rhethreg, gramadeg, hanes cronolegol a llenyddiaeth. O'r rhain dim ond drylliau sydd wedi goroesi, e.e. rhagymadrodd i sylwebaeth ar lawlyfr gan Hephæstion ar fesurau cerdd dafod Groeg.
Mae'r traethawd byr "Ar yr Aruchel" (Περι ϋψους), a dadogir arno yn gyffredinol, yn waith awdur anhysbys cynharach, yn ôl pob tebyg, ac yn dyddio o'r ganrif gyntaf Cyn Crist. Roedd yn llyfr poblogaidd a dylanwadol yn ysgolion rhethreg Ewrop ar ddiwedd yr Oesoedd Canol ac ar ddechrau'r cyfnod modern.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- F.W. Hall, A Companion to Classical Texts (Rhydychen, 1913)
- Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)