Llyn Tsiad
Math | llyn caeedig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Far North |
Gwlad | Tsiad, Camerŵn, Nigeria, Niger |
Arwynebedd | 1,540 km² |
Uwch y môr | 100 metr |
Cyfesurynnau | 13.099263°N 14.504635°E |
Dalgylch | 2,381,635 cilometr sgwâr |
Statws treftadaeth | safle Ramsar, Tentative World Heritage Site, Tentative World Heritage Site, Tentative World Heritage Site |
Manylion | |
Llyn mawr, bas yng nghanolbarth Affrica yw Llyn Tsiad (Ffrangeg: Lac Tchad, Saesneg: Lake Chad). Mae ei faint wedi amrywio'n sylweddol dros y canrifoedd ac yn dal i newid heddiw. Mae o bwys economaidd mawr yn yr ardal fel cyflenwad dŵr i tuag 20 miliwn o bobl sy'n byw yn y pedair gwlad sydd o'i gwmpas, sef Tsiad, Camerŵn, Niger a Nigeria.
Mae'n gorwedd yn bennaf yng ngorllewin eithaf Tsiad, yn ffinio ar ogledd-ddwyrain Nigeria. Afon Chari yw'r afon fwyaf sy'n llifo iddo: mae'n cyflenwi 90% o ddŵr y llyn. Ceir nifer fawr o ynysoedd bychain a banciau mwd, a cheir nifer o gorsydd ar ei lan. Mae'n llyn bas iawn - yn cyrraedd dim ond 10.5 metr (34 tr) ar ei ddyfnaf — ac felly mae ei arwynebedd yn newid yn sylweddol o dymor i dymor ac o flwyddyn i flwyddyn yn ôl y dŵr sy'n ei gyrraedd. Does dim allanfa amlwg i'w ddyfroedd, ond mae rhywfaint yn cyrraedd basnau Soro a Bodélé.
Enwir gwlad Tsiad ar ôl Llyn Tsiad. Ystyr y gair tsiad yn yr iaith leol yw "llawer o ddŵr", h.y. "llyn".
Adnodd prin
[golygu | golygu cod]Mae Llyn Tsiad yn enghraifft o'r hyn a allai ddigwydd yn amlach wrth i adnoddau'r ddaear ddod dan bwysau. Mae'r boblogaeth ar ei lan yn tyfu a maint y llyn yn lleihau ar gyfartaledd. Felly ceir gwrthdaro rhwng amaethyddwyr a bugeilwyr ar ei lannau a hefyd gwrthdaro gwleidyddol rhwng y pedair gwlad sydd o'i gwmpas, gyda phawb yn hawlio eu rhan o'r dŵr, sy'n adnodd prin yn y rhan yma o'r byd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Map o fasn Llyn Tsiad Archifwyd 2008-02-22 yn y Peiriant Wayback ar wefan Water Resources eAtlas.
- (Saesneg) Erthygl am "y llyn sy'n diflannu" ar wefan The Guardian.