Livingston F.C.
Enw llawn |
Livingston Football Club (Clwb Pêl-droed Livingston). | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) |
The Lions ("Y Llewod") Livi | ||
Sefydlwyd | 1843 (fel Ferranti Thistle) | ||
Maes | Stadiwm Almondvale | ||
Cadeirydd | Robert Wilson | ||
Rheolwr | Gary Holt | ||
Cynghrair | Uwchgynghrair yr Alban | ||
2021/22 | 7. | ||
Gwefan | Gwefan y clwb | ||
|
Clwb pêl-droed yn yr Alban yw Livingston Football Club.
Hanes
[golygu | golygu cod]Ferranti Thistle (1943-1974)
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y clwb o dan yr enw Ferranti Thistle yn 1943. Tim gweithle a gystadlodd yng nghyngrair dwyrain yr Alba oedd hi'n wreiddiol a chwaraeodd yn City Park, Caeredin. Yn dilyn diddymiad Third Lanark, daeth cyfle i fyned i'r ail adran yng Nghyngrair Pêl-droed yr Alban. Ar ôl curo pedwar o dimau Highland League, Hawick Royal Albert a Gateshead United, derbyniwyd Ferranti Thistle i'r gynghrair o 21-16 pleidlais dros Inverness Thistle. Oherwydd rheolau llym y Gyngrhair ar y pryd ynglŷn â noddi timau, roedd yn rhaid newid yr enw er mwyn gallu cymryd rhan. Yn dilyn ymgyrch gan yr Edinburgh Evening News i ganfod enw newydd i'r clwb, dewiswyd Meadowbank Thistle, a chymeradwywyd ef gan y Gyngrhair mewn pryd ar gyfer y tymor newydd.
Meadowbank Thistle (1974-1995)
[golygu | golygu cod]- Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Prin y cawsont unrhyw amser i greu sgwad felly roedd yn gryn sialens i reolwr cyntaf Meadowbank Thistle, John Bain, adeiladu sgwad cystadleuol ar gyfer y tymor newydd. Chwaraewyd eu gêm gystadleuol gyntaf ar 9 Awst 1974 yn erbyn Albion Rovers yng nghystadleuaeth Cwpan y Gyngrhair, gan golli 1-0 er holl ymdrechion y dawnsiwr go-go a logwyd i ddathlu'r digwyddiad.
Noddwyr
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Noddwyr cit | Prif noddwr |
---|---|---|
1995–1998 | Russell Athletic | Mitsubishi |
1998–2001 | Motorola | |
2001–2002 | Jerzeez | |
2002–2004 | Intelligent Finance | |
2004–2007 | Xara | |
2007–2008 | Nike | Smarter Loans |
2008–2009 | Macron | RDF Group |
2009–2010 | Umbro | Fasteq |
2010–2011 | Erreà | |
2011–2012 | Umbro | |
2012–2013 | Adidas | |
2013–2014 | Energy Assets | |
2014–2015 | Joma |