Końskowola
Gwedd
Math | tref |
---|---|
Poblogaeth | 1,985 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gmina Końskowola |
Gwlad | Gwlad Pwyl |
Arwynebedd | 89.63 km² |
Cyfesurynnau | 51.4089°N 22.0528°E |
Cod post | 24-130 |
Mae Końskowola yn bentref yn ne-ddwyrain Gwlad Pwyl, rhwng Puławy a Lublin, ger Kurów, ar Afon Kurówka. Mae'n ganolfan cymuned ar wahan o fewn Swydd Puławy. Yn 2004 roedd y boblogaeth yn 2188.
Sefydlwyd y pentref yn ôl pob tebyg yn y 14g dan yr enw Witowska Wola. Newidiwyd yr enw i Konińskawola yn y 19g. Meddiannwyd yr ardal gan fyddin yr Almaen yn 1939, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd sefydlwyd gwersyll carcharorion a gwersyll llafur yma, ynghyd â ghetto i Iddewon, yn cynnwys llawer o Slovakia. Yn Hydref 1942 lladdwyd tua 800-1000 o boblogaeth y ghetto gan y fyddin Almaenig, a symudwyd y gweddill i wersyll arall.