Neidio i'r cynnwys

Jean Boht

Oddi ar Wicipedia
Jean Boht
GanwydJean Dance Edit this on Wikidata
6 Mawrth 1932 Edit this on Wikidata
Bebington Edit this on Wikidata
Bu farw12 Medi 2023 Edit this on Wikidata
o clefyd Alzheimer Edit this on Wikidata
Northwood Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Wirral Grammar School for Girls Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu, actor llwyfan Edit this on Wikidata
PriodCarl Davis Edit this on Wikidata
PlantHannah Davis Edit this on Wikidata

Roedd Jean Boht (née Dance; 6 Mawrth 1932 - 12 Medi 2023), yn actores o Loegr sy'n fwyaf enwog am rôl fel Nellie Boswell yn y comedi sefyllfa Bread, gan Carla Lane. Roedd hi'n aros gyda'r sioe am ei chyfnod cyfan o saith cyfres rhwn 1986 a 1991.

Cafodd ei geni yn Bebington, Sir Gaer, yn ferch i'r pianydd Edna "Teddy" Dance. Cafodd ei addysg i yn Ysgol Ramadeg i Ferched Cilgwri . dechreuodd ei gyrfa fel actores theatr yn Lerpwl

Roedd hi'n gweithio mewn nifer o Theatrau’r West End gan gynnwys y Royal National Theatre a’r Bristol Old Vic.[1] Ymddangosodd yn rhaglenni teledu felSoftly, Softly (1971), Some Mothers Do 'Ave' Em (1978), Grange Hill (1978), Last of the Summer Wine (1978), Boys from the Blackstuff (1982), Scully (1984) a Casualty.

Daeth ei phriodas gyntaf â William Boht i ben mewn ysgariad. Priododd y cerddor Americanaidd-Brydeinig Carl Davis ar 28 Rhagfyr 1970.[2] Roedd ganddynt ddwy ferch, y gwneuthurwyr ffilm Hannah Louise (ganwyd 1972) a Jessie Jo (ganwyd 1974). [2] Bu farw Davis ar 3 Awst 2023. [3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Jean Boht: Bread actress dies at 91". BBC News. Cyrchwyd 13 Medi 2023.
  2. 2.0 2.1 "Jean Boht". FullMovieReview.com. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 18 Awst 2011. Cyrchwyd 19 Ebrill 2011.
  3. https://www.fabermusic.com/news/carl-davis-cbe-1936-202303082023