Ian Holm
Gwedd
Ian Holm | |
---|---|
Ganwyd | Ian Holm Cuthbert 12 Medi 1931 Goodmayes |
Bu farw | 19 Mehefin 2020 o clefyd Parkinson Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, actor llwyfan, actor teledu, actor |
Adnabyddus am | The Lord of the Rings trilogy, Chariots of Fire, Alien |
Arddull | comedi Shakespearaidd |
Taldra | 1.66 metr |
Priod | Penelope Wilton |
Plant | Barnaby Holm |
Gwobr/au | Gwobr Laurence Olivier, CBE, Gwobr Annie, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Marchog Faglor |
Roedd Sir Ian Holm, CBE (12 Medi 1931 – 19 Mehefin 2020) yn actor Seisnig.[1][2] Ymddangosodd yn ffilm Kenneth Branagh o Henry V fel y milwr o Gymru, Fluellen. Enillodd Wobr BAFTA am Actor Cefnogol Gorau am ei rôl yn y ffilm Chariots of Fire.
Roedd ei rannau adnabyddus mewn ffilmiau yn cynnwys Ash yn Alien, y Tad Vito Cornelius yn The Fifth Element, Chef Skinner yn Ratatouille, a Bilbo Baggins yn The Lord of the Rings a chyfres ffilm The Hobbit.
Cafodd ei eni, fel Ian Holm Cuthbert, yn Goodmayes, Essex, yn fab i James Harvey Cuthbert a'i wraig Jean Wilson (née Holm). Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Chigwell ac yn RADA.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd yn briod bedair gwaith. Ei drydedd wraig oedd yr actores Penelope Wilton. Roedden nhw wedi ysgaru yn 2001.
Ffilmiau
[golygu | golygu cod]- Mary, Queen of Scots (1971), fel David Rizzio
- Alien (1979)
- Chariots of Fire (1981)
- Time Bandits (1981), fel Napoleon
- Henry V (1989), fel Fluellen
- Hamlet (1990), fel Polonius
- The Borrowers (1992), fel Pod
- The Madness of King George (1994)
- The Lord of the Rings: The Fellowship of the Ring (2001), fel Bilbo Baggins
- The Lord of the Rings: The Return of the King (2003)
- The Hobbit: An Unexpected Journey (2012)
- The Hobbit: The Battle of the Five Armies (2014)
Teledu
[golygu | golygu cod]- Napoleon and Love (1974), fel Napoleon
- The Lost Boys (1978), fel J. M. Barrie
- S.O.S. Titanic (1979)
- Le Misanthrope (1980)
- The Browning Version (1985)
- Uncle Vanya (1991)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Sir Ian Holm: Lord of the Rings and Alien star dies aged 88". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Mehefin 2020.
- ↑ "Sir Ian Holm, star of Lord of the Rings and Chariots of Fire, dies aged 88". The Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 19 Mehefin 2020.