Holly Gillibrand
Holly Gillibrand | |
---|---|
Holly Gillibrand (13 oed) yn Ionawr 2019, yn dangos poster yn erbyn gwellt yfed plastig | |
Ganwyd | 2005 |
Dinasyddiaeth | Yr Alban |
Galwedigaeth | ymgyrchydd hinsawdd |
Mae Holly Gillibrand (ganwyd: 2005)[1] yn ymgyrchydd amgylcheddol yn yr Alban. Dechreuodd weithredu pan oedd yn 13 oed, gan hepgor yr ysgol am awr bob dydd Gwener fel rhan o streic Fridays for Future ('Gwener y Dyfodol') yr ysgol dros yr hinsawdd.[2] Mae hi'n drefnydd ar gyfer Gwener y Dyfodol, yr Alban.[3]
Cafodd ei henwi’n "Albanwr Ifanc y Flwyddyn" yn 2019 gan y Glasgow Times.[4][5] Cafodd ei henwi hefyd yn un o 30 o ferched ysbrydoledig ar 'Restr Pwer Awr Menywod 2020' y rhaglen ''Woman's Hour'' y BBC[6] a chafodd ei chyfweld ar y sioe honno.[7] Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer y Lochaber Times. [8]
Yn Awst 2020 cefnogodd y naturiaethwr Chris Packham mewn ymgyrch genedlaethol a oedd â'r nod o atal troseddau bywyd gwyllt. Yn Nhachwedd y flwyddyn honno, cafodd hi ac ymgyrchwyr hinsawdd eraill sesiwn holi-ac-ateb gyda Llywydd COP26, y Ceidwadwr Seisnig Alok Sharma. Mae hi'n gwasanaethu fel cynghorydd ieuenctid ar gyfer yr elusen Heal Rewilding, a'i nod yw ailwylltio mwy o dir.[9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Fotheringham, Ann (2020-12-10). "Young Scotswoman of the Year Holly Gillibrand: 'Caring is not enough - we have to act'". Glasgow Times. Gannett. Cyrchwyd 2021-04-24.
- ↑ Waterhouse, James (2019-02-14). "'I skip school to demand climate change action'". BBC News. BBC. Cyrchwyd 2021-04-24.
- ↑ Hinchliffe, Emma (2021-02-16). "Meet the next generation of global climate activists". Fortune (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-24.
- ↑ Fotheringham, Ann (2020-12-10). "Young Scotswoman of the Year Holly Gillibrand: 'Caring is not enough - we have to act'". Glasgow Times. Gannett. Cyrchwyd 2021-04-24.Fotheringham, Ann (2020-12-10). "Young Scotswoman of the Year Holly Gillibrand: 'Caring is not enough - we have to act'". Glasgow Times. Gannett. Retrieved 2021-04-24.
- ↑ "Young Scotswoman of the Year: 'Caring is not enough – we have to act' Holly Gillibrand on climate change". Newsquest Scotland Events. 2020-12-10. Cyrchwyd 2021-04-24.
- ↑ "Woman's Hour Power List 2020: The List". BBC. Cyrchwyd May 2, 2021.
- ↑ "BBC names Lochaber's Holly on this year's Woman's Hour Power List". The Oban Times. Wyvex Media. Cyrchwyd 2021-04-26.
- ↑ Laville, Sandra (2019-02-08). "'I feel very angry': the 13-year-old on school strike for climate action". The Guardian. Cyrchwyd 2021-04-26.
- ↑ Fotheringham, Ann (2020-12-10). "Young Scotswoman of the Year Holly Gillibrand: 'Caring is not enough - we have to act'". Glasgow Times. Gannett. Cyrchwyd 2021-04-24.Fotheringham, Ann (2020-12-10). "Young Scotswoman of the Year Holly Gillibrand: 'Caring is not enough - we have to act'". Glasgow Times. Gannett. Retrieved 2021-04-24.