Hinsoddeg
Hinsoddeg yw’r astudiaeth o dywydd dros amser, fel arfer dros gyfnod o flynyddoedd, h.y. tywydd ar gyfartaledd. Mae meteoroleg ar y llaw arall yn edrych ar batrymau a newidiadau’r tywydd yn ddyddiol. Felly, mae graddfeydd amser gwahanol yn bwysig i hinsoddeg. Fodd bynnag, wrth astudio hinsoddeg, mae’n bwysig deall ei fod yn cwmpasu nid yn unig y tywydd dros amser ond hefyd gydrannau megis yr atmosffer-tir-daear. Mae angen ystyried y rhyngweithio sy’n digwydd rhwng y cydrannau hyn. Mae’r astudiaeth o baleohinsoddeg yn dangos i ni bod hinsawdd y gorffennol yn gyffredinol wedi newid ar raddfa amser gyson dros amser ac yn ymateb i brosesau orbitol ac amrywiadau ym mhelydriad yr haul. Mae hyn yn achosi i gyfres o ddolenni adborth weithio rhwng y gwahanol gydrannau. Nid oes chwaith ddisgwyl i’r hinsawdd ymateb yn syth i newidiadau, gellir gweld oedi yn yr ymateb wrth i’r hinsawdd ymateb i gyfres o ddolenni adborth.
Ar yr un pryd, mae’r astudiaeth o baleohinsoddeg wedi datgelu bod hinsawdd y gorffennol wedi newid yn sydyn, yn ogystal â newid yn raddol a chyson.
Mae dealltwriaeth o’r hinsawdd yn gallu bod o gymorth ar gyfer rhagfynegi’r tywydd (meteoroleg), e.e. rhagfynegi tywydd sy’n nodweddu el niño. Mae’r IPCC, fel awdurdod yn y maes, yn astudio’r cydrannau a’r rhyngweithiadau hyn ac yn cynhyrchu modelau cyfrifiadurol cymhleth. Mae’r astudiaeth o hinsoddeg yn galluogi sefydliadau tebyg i’r IPCC i ragfynegi hinsawdd posib y dyfodol. Er nad oes sicrwydd bod rhain yn gywir, mae’r posibiliadau yn dod yn sail bwysig i wneuthurwyr penderfyniadau, gan ddylanwadu ar ddatblygiad polisi a phenderfyniadau.