Harriet Jones
Gwedd
Harriet Jones | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mai 1997 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nofiwr |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Mae Harriet Jones (ganwyd 27 Mai 1997) yn nofiwr o Gymru, sy'n dod o Dresimwn.[1][2] Cystadlodd yn nigwyddiad Glöynnod Byw (pili-pala) 100 metr y merched yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ac ym Mhencampwriaethau Dŵr Ewrop 2020, yn Budapest, gan gyrraedd y rownd gynderfynol.[3] Enillodd fedal aur fel aelod y tîm Prydeinig yn y ras gyfnewid medli ym Mhencampwriaeth Ewrop 2020 (roedd hi'n cystadlu yn y rhagbrofion).
Jones a ddaeth yn ddeilydd record 50m Glöynnod Byw Gymreig yn 2021. Enillodd hi'r 100m o dreialon Olympaidd Glöynnod Byw,[4] a chafodd ei henwi fel aelod o dîm Prydain i fynd i’r Gemau Olympaidd 2020, [5] gyda hamser cymhwyso yn eiliad 57.92 yn y ras Glöynnod Byw 100m, ond ni chyrhaeddodd hi y rownd derfynol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Harriet Jones: Welsh swimmer 'super happy' with Olympic trial success". BBC Sport. Cyrchwyd 18 Mai 2021.
- ↑ "Swimmer Harriet is selected for Commonwealth Games team". The Cowbridge GEM (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-28. Cyrchwyd 18 Mai 2021.
- ↑ "Women's 100 metre butterfly: Results" (PDF). Budapest 2000 (yn Saesneg). Cyrchwyd 18 Mai 2021.
- ↑ "Jones 'super happy' with Olympic trial win". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-06-21.
- ↑ "'Exceptionally high-quality' team named for Tokyo 2020 Olympic Games". Swim England Competitive Swimming Hub (yn Saesneg). 2021-04-27. Cyrchwyd 21 Mehefin 2021.