Neidio i'r cynnwys

Hanna

Oddi ar Wicipedia
Hanna
Ganwyd12 g CC Edit this on Wikidata
Bu farw11 g CC Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymeriad Beiblaidd
Swyddproffwyd Edit this on Wikidata
PriodElcana Edit this on Wikidata
PlantSamuel Edit this on Wikidata

Mae Hanna Hebraeg: חַנָּה "ffafr, gras") yn un o wragedd Elcana a grybwyllir yn Llyfr Cyntaf Samuel. Yn ôl yr Hen Destament hi oedd mam Samuel.

Naratif Beiblaidd

[golygu | golygu cod]

Gellir darllen hanes Hanna yn 1 Samuel 1:2-2:21 [1]. Ni chrybwlliir hi mewn unman arall yn y Beibl.

Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratëwr: 2 A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant. [2]

Yn y naratif Beiblaidd, mae Hanna yn un o ddwy wraig i Elcana. Roedd y llall, Peninna, wedi rhoi genedigaeth i blant Elcana, ond arhosodd Hanna yn ddi-blant . Serch hynny, roedd yn well gan Elcana Hanna. Mae hyn yn tanlinellu safle’r menywod: Hanna yw’r brif wraig, ac eto mae Peninna wedi llwyddo i esgor ar blant. Mae statws Hanna fel prif wraig a'i anffrwythlondeb yn dwyn i gof hanesion Sara yn Genesis 17 [3] a Rebecca yn Genesis 25 [4]. Mae'r diwinydd Lillian Klein yn awgrymu bod Elcana wedi cymryd Peninna fel ail wraig oherwydd anffrwythlondeb Hanna.[5]

Gweddi Hanna, toriad coed 1860 gan Julius Schnorr von Karolsfeld

Bob blwyddyn, byddai Elcana yn cynnig aberth yn y cysegr yn ninas Seilo, gan roi cyfran ar ran Pennina a'i phlant, ond rhoddodd dogn dwbl ar ran Hanna "canys efe a garai Hanna, ond yr Arglwydd a gaeasai ei chroth hi" [6]. Un diwrnod aeth Hanna i fyny i'r deml, a gweddïo gydag wylo mawr [7], tra roedd Eli'r Archoffeiriad yn eistedd ar gadair ger y drws. Yn ei gweddi, gofynnodd i Dduw am fab ac yn gyfnewid addawodd roi'r mab yn ôl i Dduw fel gwasanaethydd iddo. Addawodd y byddai'n aros yn Nasaread holl ddyddiau ei fywyd. Yn ôl Lillian Klein, mae'n amlwg bod statws menyw yn cael ei wella gan ei gallu i esgor. Mae'r naratif yn trafod ei phoen yng nghyd-destun ei methiant personol hi ac yna'n ei dynnu allan mewn cyd-destun cymunedol. Mae anobaith adduned Hanna yn dangos y byddai esgor ar blentyn gwrywaidd yn dyrchafu hi yng ngolwg y gymuned.[5]

Roedd Eli yn meddwl ei bod hi'n feddw ac yn ei holi. Pan eglurodd ei hun, fe fendithiodd hi a'i hanfon adref. Fe wnaeth Hanna feichiogi a geni mab, a’i enwi’n Samuel, un a archwyd gan Duw, [8] “Canys gan yr Arglwydd y dymunais ef” [9]. Mae rôl menywod yn rhoi enwau yn Israel cyn frenhinol yn awgrymu rôl gymdeithasol awdurdodol, o fewn y teulu o leiaf.[10] Magodd hi'r bachgen hyd iddo gorffen bwydo ar y fron ac wedyn aeth ag ef i'r deml ynghyd ag aberth. Mae'n rhoi Samuel i Eli i'w fagu fel gweinidog y cysegr, gan ymweld ag o pob blwyddyn.

Mae Eli yn bendithio Hanna eto ac mae'n llwyddo i gael pum plentyn arall 3 mab a dwy ferch.

Mae hanes Hanna yn darfod gyda ei chan o diolchgarwch sydd yn cael ei atseinio gan Y Forwyn Fair wrth iddi canu can o glod ar adeg geni'r Iesu [11]

Roedd Hannah yn ffigwr pwysig i'r Protestaniaid gynnar, a oedd yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd gweddi breifat yn hytrach na gweddi offeiriad.[12]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
  1. 1 Samuel 1: 2-2:21
  2. 1 Samuel 1: 1-2
  3. Genesis 17: 15-22
  4. Genesis 25:19-23
  5. 5.0 5.1 "Hannah: Bible | Jewish Women's Archive". jwa.org. Cyrchwyd 2020-08-15.
  6. 1 Samuel 1: 5
  7. 1 Samuel 1: 10
  8. Charles, Thomas; Geiriadur Ysgrythurol (Wrecsam, 1885) tud 793. Erthygl: Samuel
  9. 1 Samuel 1: 20
  10. Llung, I., Silence or Suppression, (Acta Universitatis Upsaliensis), Uppsala Women's Studies, Women in Religion, no. 2, Stockholm: Almqvist and Wiksell, 1989
  11. Luc 1: 46-55
  12. Osherow, Michelle. Biblical Women's Voices in Early Modern England, Ashgate Publishing, Ltd., 2009 ISBN 9780754666745