Gwyran
Gwedd
Gwyran Amrediad amseryddol: | |
---|---|
Chthamalus stellatus | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Uwch-urdd | |
Cyfystyron | |
Thyrostraca, Cirrhopoda (sef "troed-troellog"), Cirrhipoda, a Cirrhipedia. |
Mae gwyran (lluosog: gwyrain) ac a elwir weithiau'n 'ŵydd môr' a 'chragen long') yn fath o arthropod a ffurfia'r grŵp Cirripedia yn yr is-ffylwm Cramenogion, ac mae'n perthyn felly i grancod a chimychod.
Ceir gwyrain yn byw yn y môr yn unig - mewn dyfroedd bas a llanwol. Ceir tua 1,220 rhywogaeth o wyrain.
Geirdarddiad
[golygu | golygu cod]Mae'r enw 'Cirrypedia' yn Lladin yn golygu "troed cyrliog".[1]
Hanes fel Ffosil
[golygu | golygu cod]Ceir ffosilod gwyrain sy'n dyddio i'r 'Cyfnod Cambraidd Canol' (sef tua 510 i 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl).
Perthynas â Dynolryw
[golygu | golygu cod]Bwyteir gwyrain mewn diwylliannau ledled y byd megis Portwgal a Siapan.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Martin Walters & Jinny Johnson (2007). The World of Animals. Bath, Somerset: Parragon. ISBN 1-4054-9926-5.