Gwobr Sakharov
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | human rights award |
---|---|
Label brodorol | Sakharov Prize for Freedom of Thought |
Dechrau/Sefydlu | 1988 |
Pencadlys | Strasbwrg |
Enw brodorol | Sakharov Prize for Freedom of Thought |
Gwefan | https://www.europarl.europa.eu/sakharovprize/en/home |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd Gwobr Sakharov er rhyddid meddwl, a enwir ar ôl y gwyddonydd Sofietaidd a gwrthdystiwr Andrei Sakharov, yn Rhagfyr 1988 gan Senedd Ewrop fel cyfrwng i anrhydeddu unigolion neu fudiadau sydd wedi cysegru eu hunain i amddiffyn hawliau dynol a rhyddid yr unigolyn.
Rhoddir y Wobr Sakharov bob blwyddyn ar neu o gwmpas y 10fed o Ragfyr, sef y diwrnod pan gadarnaodd Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig y Datganiad Cyffredin am Hawliau Dynol (Universal Declaration of Human Rights) yn 1948, a ddethlir hefyd fel y Diwrnod Hawliau Dynol.
Derbynwyr
[golygu | golygu cod]- 1988: Nelson Mandela (De Affrica) ac Anatoly Marchenko (Undeb Sofietaidd; ar ôl ei farw)
- 1989: Alexander Dubček (Tsiecoslofacia)
- 1990: Aung San Suu Kyi (Myanmar)
- 1991: Adem Demaçi (Iwgoslafia)
- 1992: Mamau'r Plaza de Mayo (Yr Ariannin)
- 1993: Oslobođenje (Bosnia-Hertsegofina)
- 1994: Taslima Nasrin (Bangladesh)
- 1995: Leyla Zana (Twrci)
- 1996: Wei Jingsheng (Gweriniaeth Pobl Tsieina)
- 1997: Salima Ghezali (Algeria)
- 1998: Ibrahim Rugova (Iwgoslafia)
- 1999: Xanana Gusmão (Dwyrain Timor)
- 2000: ¡Basta Ya! (Sbaen)
- 2001: Nurit Peled-Elhanan (Israel), Izzat Ghazzawi (Palesteina), Zacarias Kamwenho (Angola)
- 2002: Oswaldo Payá (Ciwba)
- 2003: Cenhedloedd Unedig
- 2004: Cymdeithas Newyddiadurwyr Belarws (Belarws)
- 2005: Merched mewn Gwyn (Ciwba), Reporters Without Borders a Hauwa Ibrahim (Nigeria)
- 2006: Alaksandar Milinkievič (Belarws)
- 2007: Salih Mahmoud Osman (Swdan)
- 2008: Hu Jia (Gweriniaeth Pobl Tsieina)
- 2009: Memorial (Rwsia)
- 2010: Guillermo Fariñas (Ciwba)
- 2011: Asmaa Mahfouz (Yr Aifft), Ahmed al-Senussi (Libia), Razan Zaitouneh (Syria), Ali Farzat (Syria), Mohamed Bouazizi (Tiwnisia; ar ôl ei farw)
- 2012: Jafar Panahi a Nasrin Sotoudeh (Iran)
- 2013: Malala Yousafzai (Pacistan)
- 2014: Denis Mukwege (Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo)
- 2015: Raif Badawi (Sawdi Arabia)[1]
- 2016: Nadia Murad & Lamiya Aji Bashar (Irac)[2]
- 2017: Gwrthblaid Democrataidd Feneswela[3]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan y Wobr Sakharov Archifwyd 2009-07-28 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Areithiau
- ↑ "Raif Badawi wins Sakharov human rights prize". The Guardian. Brussels. Associated Press in. Cyrchwyd 29 October 2015.
- ↑ "Sakharov prize: Yazidi women win EU freedom prize". BBC News. 27 October 2016. Cyrchwyd 27 October 2016.
- ↑ "Parliament awards Sakharov Prize 2017 to Democratic Opposition in Venezuela". European Parliament. 26 October 2017. Cyrchwyd 27 October 2017.