Ffredrig III, Ymerawdwr Glân Rhufeinig
Ffredrig III, Ymerawdwr Glân Rhufeinig | |
---|---|
Portread o Ffredrig III (tua 1500) gan Hans Burgkmair. | |
Ganwyd | 21 Medi 1415 Innsbruck |
Bu farw | 19 Awst 1493, 18 Awst 1493 Linz |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Lân Rufeinig |
Galwedigaeth | llywodraethwr |
Swydd | Ymerawdwr Glân Rhufeinig, Brenin y Rhufeiniaid, Brenhinoedd yr Eidal, Duke of Carinthia, Archddug, Rulers of Styria |
Tad | Ernest |
Mam | Cymburgis of Masovia |
Priod | Eleanor o Bortiwgal |
Plant | Maximilian I, Kunigunde of Austria, Christof von Habsburg, Helene von Habsburg, Johann von Habsburg |
Perthnasau | Casimir, Margrave of Brandenburg-Bayreuth, Otto Henry |
Llinach | Habsburg |
Gwobr/au | Marchog Urdd y Cnu Aur, Rhosyn Aur, Marchog Urdd y Beddrod Sanctaidd, Urdd y Gardas |
Uchelwr o Dŷ Hapsbwrg oedd Ffredrig III (21 Medi 1415 – 19 Awst 1493) a fu'n Ymerawdwr Glân Rhufeinig o 1452 i 1493, yn Frenin y Rhufeiniaid o 1440 i 1493, yn Archddug Awstria o 1457 i 1493, ac yn Ddug Styria, Carinthia, a Carniola o 1424 i 1493.
Ganed yn Innsbruck, Iarllaeth Tyrol, yn fab i Ernst, Dug Awstria. Etifeddodd diriogaethau Awstria Fewnol – Styria, Carinthia, Carniola, a Gorizia – wedi i Ernest farw yn 1424. Erbyn 1439, Ffredrig oedd prif aelod y Hapsbwrgiaid.
Yn sgil marwolaeth ei gefnder Albrecht Fawrfrydig, etholwyd Ffredrig yn Frenin y Rhufeiniaid (neu Frenin yr Almaen) yn 1440 a fe'i coronwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig yn 1452. Bu mab Albrecht, Ladislaus yr Ôl-anedig, dan warchodaeth Ffredrig am gyfnod.
Yn 1486, etholwyd ei fab Maximilian yn Frenin y Rhufeiniaid ar y cyd â Ffredrig.[1] Bu farw yn Linz, Archddugiaeth Awstria, yn 77 oed, a fe'i olynwyd yn Ymerawdwr Glân Rhufeinig gan Maximilian.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Robert William Seton-Watson (1902). Maximilian I, Holy Roman Emperor: (Stanhope Historical Essay 1901) With Numerous Illustrations (yn Saesneg). A. Constable & Company, Limited. t. 33.
- ↑ (Saesneg) Frederick III (Holy Roman emperor). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 3 Ebrill 2020.
Rhagflaenydd: Sigismund |
Ymerawdwr Glân Rhufeinig 1452 – 1493 |
Olynydd: Maximilian I |