Ffilm gomedi arswyd
Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm |
---|---|
Math | comedi arswyd, ffilm gomedi, ffilm arswyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Genre o ffilm yw'r ffilm gomedi arswyd sy'n cyfuno stori arswyd ag elfennau comedi. Yn gyffredinol, rhennir ffilmiau comedi arswyd yn ddwy is-genre: y gomedi arswyd ddu, a'r parodi arswyd. Gellir rhannu parodïau arswyd ymhellach, rhwng gweithiau dychanol sy'n dynwared y genre arswyd yn ysgafn (megis Scream), a pharodïau amlwg (spoofs) sy'n gwatwar ffilmiau arswyd eraill (er enghraifft, y gyfres Scary Movie).
Fel genre gymysg, mae comedi arswyd yn cyfuno elfennau o ffuglen arswyd, o bosib creaduriaid goruwchnaturiol megis ysbrydion ac angenfilod, â sefyllfaoedd comig. Fel rheol, dibynnir digrifwch y ffilm gomedi arswyd ar hiwmor digalon, neu gomedi ddu, sy'n ymdrin â phynciau afiach neu dabŵ, yn enwedig marwolaeth a thrais, yn ysgafn. Gall hyn gynnwys gormodedd o waed ar y sgrin, gan estyn nodweddion y ffilm sblatro o "drais arddulliedig" i'r eithaf.
Mae'r ffilm barodi arswyd yn dychanu themâu a motiffau traddodiadol y sinema arswyd. Mae parodïau amlwg yn gorbwysleisio'r fath elfennau ac yn gwatwar ystrydebau'r ffilm arswyd, ac o bosib yn gwneud hwyl ar ben clasuron y genre a ffilmiau penodol.
Mae enghreifftiau o ffilmiau comedi arswyd yn cynnwys Beetlejuice (1988), Shaun of the Dead (2004), Zombieland (2009), a What We Do in the Shadows (2014).
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Bruce G. Hallenbeck, Comedy-Horror Films: A Chronological History, 1914–2008 (Jefferson, Gogledd Carolina: McFarland & Company, 2009).