Emily Post
Emily Post | |
---|---|
Ganwyd | 27 Hydref 1872 Baltimore |
Bu farw | 25 Medi 1960 Dinas Efrog Newydd |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | nofelydd, llenor, awdur |
Tad | Bruce Price |
Mam | Josephine Price |
Priod | Edwin Main Post |
Plant | Edwin M. Post, Jr. |
Awdures o'r Unol Daleithiau oedd Emily Post (27 Hydref 1872 – 25 Medi 1960) a ysgrifennodd ar safon ymddygiad. Mae ei henw yn gyfystyr â moesau a defodau Americanaidd.[1]
Ganwyd Emily Price yn Baltimore, Maryland, yn unig plentyn i'r pensaer Bruce Price a'r buddsoddwraig Josephine Lee Price. Ym 1877 symudodd ei theulu i Manhattan a mynychodd Emily ysgol breifat. Daeth y teulu yn rhan o gylchoedd uchaf Dinas Efrog Newydd, ac ymddangosodd Emily fel débutante ym 1892. Priododd y dyn busnes Edwin M. Post a chafodd ddau fab, Edwin Jr. (ganwyd 1893) a Bruce Price (1895). Ceisiodd y cylchgrawn clecs Town Topics flacmelio Edwin am ei anffyddlondeb i'w wraig, ond gwrthododd dalu a thystiodd yn erbyn y cylchgrawn mewn achos enllib ym 1905. Danfonodd Emily ei feibion i ysgol breswyl cyn iddi ysgaru Edwin. Ni dderbyniodd Emily alimoni o'i gŵr gan iddo golli ei gyfoeth mewn buddsoddiadau aflwyddiannus, ac felly enillodd Emily arian trwy ysgrifennu. Cyhoeddwyd chwe nofel ganddi, straeon byrion, traethodau, a'r llyfr taith By Motor to the Golden Gate.[2]
Ysgrifennodd Etiquette in Society, in Business, and at Home a gyhoeddwyd gan Funk & Wagnalls ym 1922. Ni ddisgwylwyd y llyfr i fod yn llwyddiant sylweddol, ac argraffodd y cyhoeddwr 5000 o gopïau'n unig. Ond arhosodd ar restrau'r gwerthwyr gorau am 18 mis a chafodd ei ailargraffu o leiaf wyth o weithiau yn ystod y cyfnod hwnnw.[1] Esbonir llwyddiant aruthrol y llyfr gan y miliynau o Americanwyr oedd yn blant i fewnfudwyr ac yn dymuno cael crap ar foesau a defodau eu gwlad enedigol, ac Americanwyr eraill oedd am wella eu safle cymdeithasol.[2] Ysgrifennodd golofn i'r cylchgrawn McCall's a gafodd ei chyhoeddi mewn mwy na 150 o bapurau newydd ar draws y wlad,[2] a chyflwynodd raglen radio.[3]
Sefydlodd The Emily Post Institute ym 1946, sy'n parhau i hyrwyddo safon ymddygiad yn yr Unol Daleithiau ac ailargraffu llyfrau Emily Post. Mae nifer o'i disgynyddion wedi dilyn camau Emily trwy ysgrifennu ar safon ymddygiad.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Kolbert, Elizabeth (20 Hydref 2008). Place Settings: Emily Post, at home. The New Yorker. URL
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Post, Emily (2004). "Intoduction". In Lancaster, Jane (gol.). By Motor to the Golden Gate. Jefferson, Gogledd Carolina: McFarland & Company. t. 2. Cyrchwyd 4 Tachwedd 2012.
- ↑ (Saesneg) Emily Post Is Dead Here at 86; Writer was Arbiter of Etiquette. The New York Times (27 Medi 1960). Adalwyd ar 12 Mawrth 2013.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Claridge, Laura. Emily Post: Daughter of the Gilded Age, Mistress of American Manners (Random House, 2009).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) The Emily Post Institute
- (Saesneg) Testun Etiquette in Society, in Business, and at Home ar Gutenberg.org
- Genedigaethau 1872
- Marwolaethau 1960
- Colofnwyr o'r Unol Daleithiau
- Cyflwynwyr radio o'r Unol Daleithiau
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Llenorion straeon byrion Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Merched a aned yn y 1870au
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Nofelwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned ym Maryland
- Pobl o Baltimore, Maryland
- Pobl o Manhattan
- Pobl fu farw yn Ninas Efrog Newydd
- Safon ymddygiad
- Ysgrifwyr a thraethodwyr benywaidd yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Saesneg o'r Unol Daleithiau